Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Cynllun Gweithredu Adfer Natur Ceredigion

Daeth yr ymgynghoriad hwn i ben ar 31/03/2024.

Diolch am eich sylwadau ar ddrafft cyntaf ein Cynllun Gweithredu Adfer Natur. Ar hyn o bryd rydym yn gweithio ar yr ail ddrafft.

Byddwn yn cyhoeddi'r ail ddrafft ar y dudalen hon. Byddem yn ddiolchgar am eich adborth ar hyn pan gaiff ei gyhoeddi.

Yn y cyfamser, dyma adroddiad ar gyfres o weithdai ymgysylltu a gynhaliwyd gennym yng Ngaeaf 2023.

Lawrlwythwch gopi yr adroddiad: Gweithdai Adfer Natur.

Os oes angen copi papur o'r ddogfen arnoch, galwch heibio i'ch Llyfrgell neu Ganolfan Hamdden leol a gofynnwch i gopi gael ei argraffu i chi.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â ni:

E-bost: bioamrywiaeth@ceredigion.llyw.cymru 
Ffôn: 01545 570881

 

Ymgynghoriad Gwreiddiol

 

Mae Ceredigion yn lle arbennig ac yn gartref i lawer o ecosystemau diddorol.

Y Cynllun Gweithredu Adfer Natur (CGAN) yw'r ymgais gyntaf i greu strategaeth gynhwysfawr ond hygyrch ar gyfer helpu adfer natur yn y sir.

Er bod dogfennau a chynlluniau wedi'u cyhoeddi o blaen, mae'r NRAP hwn yn ceisio dangos gweledigaeth newydd ar gyfer adfer natur, un sy'n agored i bawb yn y sir sy'n dymuno cymryd rhan. Dim ond trwy ddull cydweithredol a drawsgymdeithasol y gellir gweithredu'r NRAP hwn, a chyflawnwyd adfer natur.

Gwahoddir pawb sydd â diddordeb mewn cyflawni'r weledigaeth hon i ddarllen y drafft cyntaf a rhannu syniadau ac adborth trwy gwblhau'r arolwg hwn.