Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Cyllideb 2026-27 Cyngor Sir Ceredigion

Bydd ymgyrch ymgysylltu hwn yn cau 9fed Ionawr 2026.

Mae cynghorau lleol ar draws y DU dan bwysau ariannol difrifol.  Mae’r argyfwng costau byw yn golygu bod pris hanfodion bob dydd fel bwyd a biliau ynni yn codi yn gyflymach nag incymau y rhan fwyaf o bobl, gan wneud bywyd yn anodd i bawb.

Mae gwasanaethau cyhoeddus yn wynebu’r un broblem gan nad yw’r cyllid yr ydym yn ei gael yn cynyddu ddigon i dalu’r costau uwch hyn.

Mae chwyddiant yn golygu ei bod hi’n ddrytach i Gynghorau ddarparu gwasanaethau – nid dim ond prosiectau mawr fel adeiladu ysgolion, ond hefyd, talu biliau ynni ysgolion a chartrefi gofal, a chynnal a chadw ffyrdd.  Ar ben hyn, mae poblogaeth sy’n heneiddio ac anghenion gofal cymdeithasol mwy cymhleth pobl o bob oed yn rhoi straen ychwanegol ar gyllidebau.

Nid yw’r pwysau hwn o ran y costau yn rhywbeth unigryw i Geredigion.  Maent yn cynnwys:

  • Codiadau cyflog y cytunir arnynt yn genedlaethol
  • Penderfyniadau’r llywodraeth fel cyfraniadau Yswiriant Gwladol uwch i gyflogwyr
  • Chwyddiant ar gontractau cyflenwyr
  • Costau uwch y gwasanaeth tân, sef Awdurdod Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru
  • Adduned Llywodraeth Cymru i dalu’r Cyflog Byw Gwirioneddol i weithwyr gofal cymdeithasol

Yn ôl y gyfraith, rhaid i gynghorau osod cyllideb gytbwys – ni allwn wario mwy nag sydd gennym.  Daw rhan fwyaf ein cyllid gan Lywodraeth Cymru, y dreth gyngor ac incwm gan ffioedd a thaliadau.

Mae gan Gyngor Sir Ceredigion hanes cadarn o sicrhau bod ei gyllideb yn gytbwys ac mae fel arfer yn cael adroddiadau cadarnhaol gan Archwilio Cymru.  Dywedodd ein hadolygiad allanol diweddaraf (Hydref 2024) ein bod yn Gyngor a gaiff ei redeg yn dda, er gwaethaf y galw uchel am wasanaethau a’r pwysau ariannol trwm. Fodd bynnag, rydym yn wynebu dewisiadau anodd iawn nawr ynghylch pa wasanaethau yr ydym yn eu darparu, beth ddylem ei flaenoriaethu a sut ydym yn talu amdanynt.

 

Cyllideb 2026/27

Ar 24 Tachwedd 2025, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y cyllid craidd amodol i bob cyngor yng Nghymru ar gyfer blwyddyn ariannol 2026/27.

I Geredigion, mae hyn yn golygu codiad o 2.3% (werth tua £3.3 miliwn) i’w gyllideb, ar gyllideb gyfan gwbl i’r cyngor sy’n werth £209 miliwn.  Hwn yw'r codiad isaf yng Nghymru. Fel cymhariaeth, bydd Cyngor Dinas Casnewydd yn cael cynnydd o 4.3% (gwerth tua £14 miliwn).

Ar sail amcangyfrifon cynnar, mae hyn yn golygu bod y Cyngor yn wynebu bwlch o £6 miliwn yn y gyllideb cyn gwneud unrhyw newidiadau i’r Dreth Gyngor.  Er mwyn cau’r bwlch hwn heb gwtogi gwasanaethau, byddai angen i Dreth Gyngor Band D godi tua £15 y mis (tua 9%).  Os bydd y codiad yn is, bydd yn rhaid gwneud toriadau mawr i wasanaethau rheng flaen.  Ar ôl dros ddegawd o gyllidebau tynn, mae’n debygol y byddai hyn yn golygu stopio neu gau rhai gwasanaethau yn gyfan gwbl, nid gwneud gostyngiadau bychain yn unig.

Dros 10 mlynedd yn ôl, byddai'r siart incwm wedi edrych yn wahanol iawn. Roedd cyllid Llywodraeth Cymru yn agosach at 80%. Byddai'r ganran a gwmpesir gan dreth y Cyngor wedi bod yn is.

Mae rhan o wariant gros y Cyngor yn cael ei ariannu gan £45 miliwn gan grantiau allanol a thua £36 miliwn gan ffioedd, taliadau ac incwm arall.

 

Rydyn ni eisiau clywed gennych chi

Cyn i ni osod ein cyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf, hoffem glywed gennych.

Cyn i chi gwblhau'r arolwg isod, efallai yr hoffech ddefnyddio ein hefelychydd cyllideb i roi cynnig ar gydbwyso cyllideb y Cyngor. Ni fydd hyn yn casglu eich barn; mae hwn am fach o hwyl - beth am roi cynnig arni?

Rydym hefyd wedi darparu rhywfaint o wybodaeth ychwanegol am gyllideb y Cyngor yn y Cwestiynau Cyffredin isod. Efallai y byddwch yn ei chael hi'n ddefnyddiol darllen y rhain cyn cwblhau'r arolwg.

Bydd canlyniadau'r ymgysylltiad hwn yn cael eu dadansoddi'n ofalus a'u hystyried wrth i ni baratoi'r gyllideb ar gyfer 2026-2027, diolch am gymryd rhan.

Cwblhewch ein arolwg ar-lein - Ymgysylltu am Gyllideb Cyngor Sir Ceredigion 2026-27 – Llenwch y ffurflen

Lawrlwythwch gopi papur - Gwybodaeth ac arolwg: Ymgysylltiad am Gyllideb 2026-27

Gallwch hefyd ofyn am gopi papur yn eich Llyfrgell neu Ganolfan Hamdden leol neu drwy ffonio 01545 570881 neu drwy anfon neges e-bost i clic@ceredigion.gov.uk.

Os hoffech dderbyn y wybodaeth mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni ar 01545 570881 neu e-bostiwch clic@ceredigion.gov.uk.

Dychwelwch y copïau papur i'ch llyfrgell leol neu i Gwasanaeth Cyllid a Caffael, Neuadd Cyngor Ceredigion Penmorfa, Aberaeron, Ceredigion SA46 0PA.

Cliciwch yma i ddarllen ein Hysbysiad Preifatrwydd ar gyfer Ymgynghoriadau.

Efallai hoffech cael tro ar ein efelychydd cyllideb y Cyngor. Ni fydd hyn yn casglu eich barn; mae hwn am fach o hwyl - beth am roi cynnig arni?

clic-budgetengage-eform.

Fodd bynnag, rydym yn gwerthfawrogi eich barn. Darllenwch y wybodaeth a'r Cwestiynau Cyffredin ac yna cwblhewch yr arolwg i ddweud wrthym sut rydych chi'n meddwl y dylid gwario cyllideb y Cyngor.

 

 

Cwestiynau Cyffredin

Mae'r Cyngor yn cael rhan fwyaf ei gyllid gan Lywodraeth Cymru trwy’r Grant Cynnal Refeniw, sy'n cynnwys cyfran o ardrethi busnes cenedlaethol.  Rydym yn ychwanegu at hyn trwy gasglu Treth Gyngor. Gallwch darllen may am Treth Gyngor yn ein llyfren: Gwybodaeth i rai sy'n talu'r Dreth Gyngor 2025-26.

Incwm

  • Grant Cynnal Refeniw Llywodraeth Cymru ac Ardrethi Annomestig Cenedlaethol: £144,225,000
  • Treth Gyngor: £64,939,000
  • Cyfanswm y cyllid: £209,164,000

Ariannir rhywfaint o'r gwariant gros gan grantiau allanol ar gyfer cynlluniau neu brosiectau penodol. Fe arfer, bydd amodau llym ynghlwm wrth y grantiau hyn. Rydym hefyd yn sicrhau incwm ar gyfer gwariant gros trwy gyfrwng ffioedd a thaliadau - rhai a osodir gan y Cyngor ac eraill gan sefydliadau eraill e.e. cyrff cenedlaethol.

  • Grantiau penodol: £45,061,000
  • Ffioedd, taliadau ac incwm arall: £36,191,000

Mae’r Cyngor yn darparu ystod eang o wasanaethau i bobl leol, y mae’r gyfraith yn mynnu ein bod yn darparu’r rhan fwyaf ohonynt. Gallwch gael cipolwg o’r gwasanaeth hyn yma: Infograffeg Cyllideb.

Caiff tua 75% o Gyllideb y Cyngor (£158m) ei wario ar y 3 prif faes gwasanaeth rheng flaen (ac sy’n statudol at ei gilydd):

  • Gofal Cymdeithasol a Lles Gydol Oes:  £74 miliwn
  • Ysgolion a Dysgu Gydol Oes:  £63 miliwn
  • Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol:  £21 miliwn


Caiff tua 10% (£22 miliwn) ei wario ar gostau sefydlog yn bennaf:

  • Cyflogau a lwfansau Cynghorwyr (a osodir yn annibynnol):  £1 miliwn
  • Ardoll yr Awdurdod Tân:  £6 miliwn
  • Costau ariannu cyfalaf:  £7 miliwn
  • Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor:  £8 miliwn


Mae hynny yn gadael ychydig dan £30 miliwn (14%) ar gyfer holl Wasanaethau eraill y Cyngor.

Y Gyllideb Refeniw yw’r arian y mae cynghorau yn ei wario ar redeg gwasanaethau o ddydd i ddydd.  Mae hyn yn cynnwys gwariant ar gyflogau staff, talu cyflenwyr a chostau rhedeg adeiladau e.e.  costau ynni, cynnal a chadw.  Mae hefyd yn cynnwys incwm gan ffynonellau amrywiol gan gynnwys ffioedd a thaliadau, prydlesi a grantiau penodol.

Rhaid i’r cyngor osod ei gyllideb erbyn 11 Mawrth bob blwyddyn ar gyfer y flwyddyn ariannol ddilynol, 1 Ebrill i 31 Mawrth.

Mae’r Cyngor yn paratoi llyfryn Treth Gyngor bob blwyddyn ac mae modd gweld hwn trwy droi at: Cyngor Sir Ceredigion - Gwybodaeth i rai ry'n talu'r Dreth Gyngor 2025-26.

Mae’r Cyngor yn paratoi llyfr cyllideb manwl hefyd, sy’n sôn am yr holl wariant a’r incwm a gynlluniwyd ar gyfer y flwyddyn, ac mae modd gweld hwn trwy droi at:  Gwybodaeth Llyfr y Gyllideb – Cyngor Sir Ceredigion.

Yn ôl y gyfraith, rhaid i gynghorau osod cyllideb gytbwys.  Mae hyn yn golygu creu cynllun ariannol sy’n seiliedig ar dybiaethau realistig sy’n dangos y bydd yr incwm yn cyfateb â’r gwariant yn y tymor byr a’r tymor canolig.

Mae’r cynllun yn ystyried cyllid gan Lywodraeth Cymru, Treth Gyngor a phwysau o ran costau, na ellir ei osgoi. Er mwyn sicrhau cyllideb gytbwys, gall cynghorau:

  • Leihau’r gwariant (gwneud arbedion)
  • Cynyddu’r incwm trwy godi ffioedd a thaliadau am rai gwasanaethau
  • Adolygu lefelau Treth Gyngor 

Pan fyddwn yn dweud ‘arbedion’, rydym yn golygu lleihau cyllideb gwasanaeth.

Er enghraifft, os yw gwasanaeth yn costio £100,000 i’w redeg ond dim ond £80,000 sydd gennym, mae angen i ni arbed (neu ostwng y gyllideb) £20,000.  Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i ni leihau’r gwariant ar y gwasanaeth hwnnw, cynyddu’r incwm neu wneud cymysgedd o’r ddau.

Cronfeydd sy’n cael eu neilltuo ar gyfer argyfyngau neu anghenion penodol yn y dyfodol yw cronfeydd wrth gefn.  Ceir dwy fath o gronfa wrth gefn y Cyngor:

  • Cronfeydd wedi’u clustnodi – wedi cael eu neilltuo i brosiectau neu gynlluniau penodol yn barod (e.e., cyllid cyfatebol).
  • Cronfeydd wrth gefn cyffredinol – yn cael eu cadw ar gyfer argyfyngau annisgwyl ac er mwyn cynnal cyfalaf gwaith ar gyfer llif arian.

Dim ond unwaith y gellir defnyddio cronfeydd wrth gefn.  Ni allant dalu costau parhaus fel cyflogau staff oherwydd unwaith y cânt eu gwario, byddant wedi mynd.  Byddai eu defnyddio i dalu gwariant dydd-i-ddydd yn gwneud y Cyngor yn agored i niwed pe bai argyfwng neu gost annisgwyl fawr yn codi.

Gwariant Gros yw’r cyfanswm y mae’r Cyngor yn ei wario cyn tynnu unrhyw incwm (fel ffioedd a thaliadau, incwm rhentu eiddo, neu grantiau penodol).

Cyllideb Net yw’r hyn sydd ar ôl ar ôl tynnu’r incwm hwnnw.  Hwn yw’r swm a ariannir gan gyllid craidd Llywodraeth Cymru (Grant Cynnal Refeniw, gan gynnwys cyfran o ardrethi busnes) a’r Dreth Gyngor.

Mae gan bob gwasanaeth ‘gyllideb reoladwy’, sy’n cynnwys yr holl wariant a’r incwm a gaiff ei reoli’n uniongyrchol gan y gwasanaeth.

Ar ôl cymeradwyo’r gyllideb hon, gall y gwasanaeth wario a chael incwm ar yr amod ei fod yn aros o fewn y cyfanswm yn ei gyllideb reoladwy.

Rhennir rhai costau, fel Cyllid, TGCh, AD, a Chyfreithiol, ar draws gwasanaethau ac fe’u codir yn ôl fel costau anrheoladwy.  Mae’r costau hyn a godir yn ôl yn cael eu cydbwyso ar draws y Cyngor, felly nid ydynt yn effeithio ar y gyllideb gyffredinol.

Mae gan wasanaethau cymorth eu cyllidebau rheoladwy eu hunain hefyd ar gyfer eu costau gweithredol a’u hincwm.

Pan fydd y Cyngor yn adrodd am ei gyllideb (gan gynnwys yn y gweithgarwch ymgysylltu hwn am y gyllideb), mae’r ffocws ar gyllidebau rheoladwy, a dangosir costau i’w codi’n ôl pan fydd gofyn gwneud hynny yn unig ar gyfer gwaith adrodd statudol.

Trethi ar fusnesau yw Ardrethi Annomestig, a elwir yn ardrethi busnes hefyd, sy’n helpu i gyfrannu at gostau gwasanaethau awdurdod lleol.  Mae ardrethi busnes yn seiliedig ar werth ardrethol eich busnes;  gosodir hwn gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio, nid gan y Cyngor.

Cyfrifir eich ardrethi busnes trwy gymryd Gwerth Ardrethol eich eiddo a’i luosi gyda’r ‘lluosydd’ ardrethi annomestig presennol.  Gosodir y ‘lluosydd’ gan Lywodraeth Cymru bob blwyddyn, nid y Cyngor.  Y lluosydd ar gyfer blwyddyn ariannol 2025-26 yw 0.568.

Mae awdurdodau lleol yn casglu ardrethi annomestig gan berchnogion busnesau.  Yna, caiff y symiau hyn eu cyfuno yn ganolog gan Lywodraeth Cymru, cyn eu hailddosbarthu gan Lywodraeth Cymru i awdurdodau lleol ar sail y boblogaeth.

Mae gan Lywodraeth Cymru sawl cynllun mewn grym sy’n caniatáu busnesau penodol i hawlio gostyngiad o ran y swm y maent yn ei dalu.  Mae’r rhain yn cynnwys Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach neu Ryddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch.  Gall y cyngor eich hysbysu os ydych chi’n gymwys i fanteisio ar ostyngiadau o’r fath.

Gellir gweld gwybodaeth bellach trwy droi at:  Ardrethi Annomestig – Cyngor Sir Ceredigion.

Mae’r rhaglen gyfalaf yn cynnwys holl gyllidebau cyfalaf y Cyngor, sy’n ariannu prosiectau i brynu neu wella asedau. Mae enghreifftiau yn cynnwys adeiladu ysgolion newydd, gwaith adnewyddu mawr, neu ailosod arwyneb ffyrdd.

Cyllideb hirdymor yw hon ac fe’i hariannir mewn ffordd wahanol i’r gyllideb refeniw.  Ariannir y gyllideb gyfalaf yn bennaf gan:

  • Grantiau cyfalaf gan Lywodraeth Cymru
  • Benthyca (o fewn terfynau llym y llywodraeth)
  • Derbyniadau cyfalaf – arian o werthu asedau, y gellir ei ddefnyddio i ad-dalu dyled neu gefnogi’r gyllideb gyfalaf yn unig.

Yn ôl y gyfraith, nid oes gennym yr hawl i ddefnyddio derbyniadau cyfalaf, grantiau cyfalaf penodol nac arian a gaiff ei fenthyca i dalu am wasanaethau dydd-i-ddydd.

Er enghraifft, pe baem yn gwerthu un o’n swyddfeydd fel cyngor, byddai’r arian y byddem yn ei gael yn dderbyniad cyfalaf a dim ond er mwyn ad-dalu dyled neu ar gyfer y gyllideb gyfalaf y byddai modd ei ddefnyddio.  Ni fyddai modd ei ddefnyddio i dalu costau rhedeg cyffredinol gofal cymdeithasol neu lyfrgelloedd neu wasanaethau eraill.

Mae’r hyn sy’n cyfateb â band D yn fesur safonol o’r dreth gyngor ac fe’i ddefnyddir gan bob awdurdod lleol a Llywodraeth Cymru.

Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio wedi prisio pob eiddo domestig yng Ngheredigion.  Ar ôl eu prisio, caiff eiddo eu neilltuo i un o naw band prisio (Bandiau A i I).

Caiff pob band ei luosi â ffactor a roddir er mwyn cynnig yr hyn sy’n cyfateb â Band D.  Er enghraifft, mae un eiddo band H yn cyfateb â dau eiddo band D, gan bod trethdalwr mewn eiddo band H yn talu ddwywaith y dreth gyngor, fel yr amlinellir isod.

Mae’r tabl isod yn dangos nifer a chanran yr anheddau fesul band eiddo yng Ngheredigion:

Band Nifer yr anheddau yng Ngheredigion Cyfran
A 1,612 5%
B 4,635 14%
C 7,303 21%
D 7,180 21%
E 8,586 25%
F 3,601 11%
G 933 3%
H 100 0%
I 20 0%

Mae’r tabl isod yn dangos faint y mae’n rhaid i Fandiau eraill ei dalu o’i gymharu ag eiddo Band D.  Nodir y lluosrifau/cymarebau hyn mewn deddfwriaeth.

Band Ffracsiwn (yn gymharol â Band D)
A 6 rhan o 8 (neu 2 rhan o 3)
 B 7 rhan o 9
C 8 rhan o 9
D 9 rhan o 9 (neu 1)
E 11 rhan o 9
F 13 rhan o 9
G 15 rhan o 9
H 18 rhan o 9 (neu 2)
I 21 rhan o 9

Nid yw’r Dreth Gyngor yr ydych chi’n ei thalu yn seiliedig ar y gwasanaethau yr ydych chi’n eu defnyddio yn bersonol.  Mae’n helpu i ariannu cyllideb gyffredinol y Cyngor er mwyn i ni allu darparu cannoedd o wasanaethau i bawb yng Ngheredigion.

Mae pobl yn defnyddio gwahanol wasanaethau ar wahanol gyfnodau yn ystod eu bywyd:

Blynyddoedd cynnar:  Cofrestru genedigaeth, cludiant i’r ysgol, addysg feithrin, cynradd ac uwchradd, ac addysg ôl-16. 

Bywyd fel oedolyn:  Defnyddio canolfannau chwaraeon neu lyfrgelloedd, cerdded llwybrau cyhoeddus, cofrestru i bleidleisio, cyflwyno ceisiadau cynllunio, bwyta mewn lleoliadau bwyd diogel a rheoledig, cael gwastraff wedi’i gasglu, gyrru ar ffyrdd a phontydd sy’n cael eu cynnal a’u cadw, defnyddio bysiau cyhoeddus, cael goleuadau stryd, a ffonio’r gwasanaeth Tân ac Achub mewn argyfwng.

Blynyddoedd hwyrach:  Manteisio ar docynnau teithio rhatach ar fysiau ac angen gwasanaethau gofal a chymorth o bosibl.  Gallai hyn gynnwys offer ar gyfer byw bywyd annibynnol, gofal yn y cartref, gofal preswyl ac yn y pen draw, gwasanaethau fel y Crwner a chofrestru marwolaeth.

Er mwyn sicrhau bod gan y Cyngor strwythur talu teg a thryloyw, caiff yr holl swyddi sy’n rhwym i amodau y Cyd-gyngor Cenedlaethol ar gyfer Llywodraeth Leol eu gwerthuso gan ddefnyddio cynllun gwerthuso swyddi Cyngor Taleithiol Llundain Fwyaf.

Mae’r cynllun yn defnyddio 11 ffactor, system sgorio a phwysoliadau a gynlluniwyd i fod yn rhydd rhag gwahaniaethu a thuedd o ran y rhywiau.

Nid yw Cyngor Sir Ceredigion yn talu unrhyw daliadau bonws (perfformiad na phenodol).

Gosodir codiadau cyflog blynyddol athrawon gan Lywodraeth Cymru ar gyfer Cymru gyfan, a byddant fel arfer yn dechrau ym mis Medi bob blwyddyn. Ar gyfer rhan fwyaf y staff eraill, penderfynir ar godiadau cyflog ar lefel genedlaethol gan y Cyd-gyngor Cenedlaethol (NJC) ar gyfer Gwasanaethau Llywodraeth Leol ar draws Cymru a Lloegr, gan gychwyn ym mis Ebrill fel arfer.

Ceir proses genedlaethol debyg ar gyfer Prif Swyddogion a’r Prif Weithredwr.

Nid yw’r Cyngor yn rheoli nac yn penderfynu ar godiadau cyflog blynyddol ar gyfer unrhyw rai o’i staff.

Mae bod yn Gynghorydd yn gofyn am ymrwymiad amser sylweddol, a hyd yn oed yn fwy ar gyfer Aelodau Cabinet neu Gadeiryddion Pwyllgorau.

Mae cynghorwyr yn cael lwfans (cyflog) er mwyn adlewyrchu’r ymrwymiad hwn.  Y nod yw darparu lwfans teg a rhesymol er mwyn cynorthwyo ac annog amrediad amrywiol o bobl i gynnig eu hunain i gael eu hethol.

Pe na bai lwfans yn cael ei dalu, efallai y byddai llai o bobl yn cynnig eu hunain, a gallai’r rhai o gefndiroedd tlotach neu ddifreintiedig gael eu hatal rhag gwneud hynny, a fyddai’n annheg.

Gosodir y lwfans (cyflog) blynyddol ar gyfer Cynghorwyr gan Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru, nid Cyngor Ceredigion.

Ceir 51 o gynghorau tref a chymuned ar draws Ceredigion.  Maent yn darparu neu’n cynnal amrediad o wasanaethau cymunedol lleol.

Mae’r gwasanaethau y maent yn eu darparu yn wahanol, gan ddibynnu ar anghenion pob tref neu gymuned unigol.  Mae rhai o’r gwasanaethau a ddarparir gan gynghorau tref a chymuned yn cynnwys:

  • cynnal a chadw adeiladau a/neu ganolfannau cymunedol,
  • adnewyddu meinciau a chysgodfannau bysiau lleol,
  • darparu a chynnal a chadw gwelyau blodau,
  • adnewyddu ardaloedd chwarae, darparu hysbysfyrddau cymunedol,
  • cynnal a chadw llwybrau troed,
  • digwyddiadau Dydd y Cofio,
  • addurniadau Nadolig, a llawer mwy.

Mae pob cyngor tref a chymuned yn gosod ‘praesept’ bob blwyddyn er mwyn darparu gwasanaethau lleol, a nodir swm y praesept a godir gan eich cyngor tref neu gymuned lleol ar eich bil treth gyngor cyffredinol.  Mae Cyngor Sir Ceredigion yn casglu’r praesept ac yna, bydd yn talu eu cyfran nhw i’r cynghorau tref a chymuned.

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn gyfrifol am sicrhau bod gwasanaeth yr heddlu yn effeithiol ac yn effeithlon trwy sicrhau bod y Prif Gwnstabl yn atebol.

Mae’r Comisiynydd yn helpu Heddlu Dyfed Powys i ddeall ac ymateb i anghenion cymunedol ac mae’n cyflawni rôl allweddol ym maes diogelwch cymunedol a lleihau troseddu.  Mae ei ddyletswyddau yn cynnwys:

  • Gosod blaenoriaethau plismona lleol
  • Craffu, cynorthwyo a herio perfformiad yr heddlu
  • Gosod cyllideb flynyddol yr heddlu

Mae’r Comisiynydd yn gosod ‘praesept treth gyngor’ bob blwyddyn hefyd, sy’n ymddangos ar eich bil treth gyngor.  Mae Cyngor Sir Ceredigion yn casglu’r praesept hwn ac yn ei drosglwyddo i Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu.

Cliciwch yma i ddarllen mwy am Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu Dyfed Powys.

Yn ddiweddar (13/11/25), mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi y bydd comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yn cael eu diddymu yng Nghymru a Lloegr ar ddiwedd eu tymor presennol yn 2028.  Rydym yn aros am wybodaeth bellach am oblygiadau hyn yng Nghymru.

Rhennir y cyllid ar gyfer Gwasanaeth Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru rhwng chwech awdurdod lleol yn y rhanbarth, ar sail poblogaeth.

Mae’r Awdurdod Tân yn gosod yr Ardoll Tân ac yn dweud wrth bob cyngor beth yw eu cyfran nhw.  Yna, rhaid i’r Cyngor gynnwys y swm hwn yn ei gyllideb, sy’n rhoi pwysau ychwanegol ar ein sefyllfa ariannol.

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae’r Ardoll Tân wedi codi’n llawer cyflymach na’r cyllid yr ydym yn ei gael gan Lywodraeth Cymru.
Er enghraifft, gwelwyd cyfraniad Ceredigion yn codi o £5.4m yn 2024/25 i £5.8m yn 2025/26 – codiad o 7.3%, sy’n cyfateb ag oddeutu 0.6% ar y Dreth Gyngor.

Yn wahanol i gostau plismona (a ddangosir ar wahân fel praesept ar eich bil Treth Gyngor), caiff yr Ardoll Tân ei gynnwys yng nghyllideb gyffredinol y Cyngor, sef £209 miliwn.

Mae modd gweld rhagor o wybodaeth am y Gwasanaeth Tân trwy droi at www.mawwfire.gov.uk/cym/.

Os ydych chi ar incwm isel neu’n cael budd-daliadau penodol, efallai y byddwch yn gallu cael help i dalu eich Treth Gyngor.

Ar hyn o bryd, mae tua 5,000 o aelwydydd yng Ngheredigion yn manteisio ar Gynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor.  Mae’r cynllun hwn yn helpu pobl sydd ar incymau isel iawn a/neu sy’n hawlio budd-daliadau, ac mewn rhai achosion, gall leihau swm y Dreth Gyngor gymaint â hyd at 100%.

Mae’n fudd-dal y cynhelir prawf modd ar ei gyfer, felly mae’r swm y byddwch yn ei gael yn ddibynnol ar eich incwm, eich cynilion a’ch amgylchiadau personol.  Hyd yn oed os ydych chi’n gweithio, efallai y byddwch yn gymwys o hyd.  Fodd bynnag, os oes gennych chi werth £16,000 neu fwy ar ffurf cynilion (heb gyfrif gwerth eich cartref), ni fyddwch yn gymwys.

Gallwch ddefnyddio’r Cyfleuster Cyfrifo Hawl ar wefan y Cyngor er mwyn gweld a ydych chi efallai yn gymwys i gael cymorth.

Budd-daliadau - Cyngor Sir Ceredigion

Gallwch ddewis talu eich treth gyngor dros 12 mis yn lle 10 mis hefyd, neu nifer y misoedd sydd ar ôl yn y flwyddyn ariannol bresennol.

Y ffordd hawsaf a mwyaf effeithlon o dalu eich treth gyngor, neu o newid y ffordd yr ydych yn talu, yw cofrestru ar gyfer Fy Nghyfrif a thalu trwy drefniant Debyd Uniongyrchol.

Gallwch hefyd gofrestru i gael eich bil Treth Gyngor yn electronig er mwyn helpu’r Cyngor i arbed arian wrth argraffu a phostio.

Mae Fy Nghyfrif yn wasanaeth personoledig ar gyfer preswylwyr Cyngor Sir Ceredigion.  Mae cofrestru yn broses hawdd a chyflym, a’r unig beth y bydd ei angen arnoch fydd cyfeiriad e-bost.

Mae defnyddio Fy Nghyfrif i gyflwyno eich ffurflenni yn golygu y byddwn yn eu cael ar unwaith, sy’n arbed amser ac arian i chi.

Gallwch ddarllen mwy am Fy Nghyfrif ar ein gwefan: Croeso i Fy Nghyfrif - Cyngor Sir Ceredigion