Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Creu Lle Ceredigion

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn datblygu Cynlluniau Lle yn rhai o bentrefi mwyaf y sir.

Nod y fenter hon yw adeiladu ar yr ymgysylltiad cadarnhaol a'r canlyniadau o'r cynlluniau tref, gan sicrhau bod gan y pentrefi hyn lais cryf hefyd wrth lunio eu dyfodol.
 
Y pentrefi yw: Aberporth/Parcllyn, Borth, Bow Street (gan gynnwys Llandre a Genau'r Glyn), Cenarth, Felinfach/Ystrad Aeron, Llanarth, Llanilar, Llanon, Llanrhystud, Penrhyncoch, Pontarfynach, Pontrhydfendigaid a Talybont.
 
Dros y mis diwethaf rydym wedi cyfarfod â'r cynghorau cymuned a chynghorwyr sir ar draws y tri phentref ar ddeg ac wedi bod yn brysur yn trefnu sesiynau galw heibio cymunedol fel bod trigolion a grwpiau lleol yn cael dweud eu dweud yn y broses o lunio cynllun. Mae'r sesiynau hyn yn bwysig i bobl gael dweud eu dweud ar:

  • Beth sy'n wych am eich pentref.
  • Beth sydd ar goll a beth sydd angen ei drwsio.
  • Beth mae'r pentref yn ei olygu i chi? Yr ymdeimlad o le.


Mae'r dyddiadau a'r lleoliadau i'w gweld isod.

Pentref Lleoliad Dyddiad Amser
Felinfach ac Ystrad Aeron Neuadd Goffa Felinfach

11 Tachwedd

12yp - 7yh

Aberporth a Parcyllyn Neuadd Bentre Aberporth

12 Tachwedd

12yp - 7yh

Llanilar Canolfan Gymunedol Llanilar

13 Tachwedd

12yp - 7yh

Pontarfynach Canolfan Cymunedol Mynach

14 Tachwedd

12yp - 7yh

Y Borth 'Star of the Sea'

18 Tachwedd

12yp - 7yh

Llan-non Neuadd Bentre Llanon

19 Tachwedd

2.30yp - 8yh

Bow Street (gan gynnwys Llandre a Genau'r Glyn) Neuadd Rhydypennau

20 Tachwedd

12yp - 7yh

Tal-y-bont Neuadd Goffa Taly-y-bont

21 Tachwedd

12yp - 7yh

Llanarth Llanina Arms

25 Tachwedd

12yp - 7yh

Llanrhystud Neuadd Goffa Llanrhystud

26 Tachwedd

12yp - 7yp

Cenarth Capel Bach (Festri) Cenarth

2 Rhagfyr

12yp - 7yh

Penrhyn-coch Eglwys y Bedyddwyr Horeb

3 Rhagfyr

12yp - 7yh

Pontrhydfendigaid Neuadd Pantyfedwen

4 Rhagfyr

12yp - 7yh

Mae'r prosiect hwn yn cael ei ariannu'n rhannol gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant a Rennir y DU, a weinyddir a chefnogir gan Dîm Cynnal y Cardi ar gyfer Cyngor Sir Ceredigion. Penodwyd Chris Jones i hwyluso'r fenter.

Os hoffech ragor o wybodaeth neu os oes unrhyw ffordd y gallwn wneud y sesiwn galw heibio’n fwy hygyrch i chi, cysylltwch â Chris Jones, Arbenigwr Lleoedd.


E-bost: chris@chrisjones.studio
Ffôn: 01873 880666 neu 07968 943084

Rydym wedi creu tudalen lanio ar gyfer y prosiect Cynllun Lle y gallwch ddod o hyd iddi yma: 
https://creu-lle-ceredigion.cymru/

Gallwch ddarganfod mwy am Chris Jones yma: Hafan Chris Jones — Chris Jones Studio

Diolch am eich cefnogaeth.