Ymgynghoriad am yr Asesiad Llesiant Lleol Drafft
Daeth yr ymgynghoriad hwn i ben ar 28/01/2022
Bellach, mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Ceredigion wedi ysgrifennu'r Asesiad Llesiant Lleol drafft. Bydd hwn yn cyfrannu at Gynllun Llesiant Lleol nesaf Ceredigion ar gyfer y cyfnod 2023-2028, ac mae'n bwysig ein bod yn cael hyn yn iawn. Bydd y Cynllun hwn yn nodi ein Hamcanion Llesiant a'n gwaith fel Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Ceredigion.
Am fwy o wybodaeth am Asesiad o Lesiant Lleol a chynllun terfynol Llesiant Lleol Ceredigion 2023-28 ewch i dudalen we Cynllun Llesiant Lleol Ceredigion.
Ymgynghoriad Gwreiddiol
Dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, rhaid i bob Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) yng Nghymru baratoi a chyhoeddi Asesiad Llesiant Lleol o bryd i'w gilydd.
Hoffem gael gwybod mwy am lesiant pobl a chymunedau lleol ar hyn o bryd ac ar gyfer y dyfodol. Gall nifer o bethau ddylanwadu ar lesiant ein hunigolion a'n cymunedau, megis ffactorau economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol.
Sut i gymryd rhan
Byddem yn croesawu eich sylwadau am yr Asesiad drafft cyn cyhoeddi'r fersiwn terfynol ohono. Gallwch ymateb ar-lein neu lawrlwytho'r ffurflen ymateb a'i dychwelyd mewn neges e-bost neu ei phostio i'r cyfeiriad a nodir ar ddiwedd y ffurflen.
Os bydd angen i chi gysylltu â ni neu os bydd angen i chi gael gwybodaeth mewn ffurfiau eraill, (er enghraifft print mawr neu fersiwn Hawdd i'w Ddarllen), ffoniwch ni ar 01545 570881 neu anfonwch e-bost at clic@ceredigion.gov.uk