Ad-drefnu Ysgolion
Daeth yr ymgynghoriad hwn i ben ar 17/11/2023
Mae penderfyniadau y Cyngor wedi’u nodi isod. Cyhoeddir hysbysiadau Statudol ar wefan y Cyngor ac ar, neu gerllaw prif fynedfa yr ysgol perthnasol. Bydd copïau hefyd ar gael i rieni yn yr ysgol. Mae’r hysbysiad Statudol yn cynnwys manylion megis y dyddiad gweithredu arfaethedig, sut i gael copi o’r adroddiad ymgynghori, a sut i wrthwynebu. Yn ystod y cyfnod Gwrthwynebu statudol, dylai gwrthwynebiadau fod yn ysgrifenedig a’u danfon at y cynigydd o fewn 28 diwrnod o’r dyddiad y cyhoeddwyd y cynnig.
Mae cyfnod yr hysbysiad Statudol Ysgol Gynradd Comins Coch, Ysgol Gynradd Plascrug, Ysgol Gynradd Llwyn yr Eos ac Ysgol Gynradd Gatholig Padarn Sant yn fyw ers Mawrth 1af. Bydd yn cau ar 29ain Mawrth 2024. Bwriedir gweithredu penderfyniad y Cabinet ar 1 Medi 2024.
Ysgol Gynradd Comins Coch
Cafodd yr ymateb i'r ymgynghoriad hwn ei ystyried gan y Cynghorwyr yn y cyfarfod Cabinet ar y 20/02/2024.
PENDERFYNIAD:
- Nodi cynnwys yr adroddiad ymgynghori.
- Cymeradwyo cyhoeddi’r hysbysiad statudol.
Ysgol Gynradd Plascrug
Cafodd yr ymateb i'r ymgynghoriad hwn ei ystyried gan y Cynghorwyr yn y cyfarfod Cabinet ar y 20/02/2024.
PENDERFYNIAD:
- Nodi cynnwys yr adroddiad ymgynghori.
- Cymeradwyo cyhoeddi’r hysbysiad statudol.
Ysgol Gynradd Llwyn yr Eos
Cafodd yr ymateb i'r ymgynghoriad hwn ei ystyried gan y Cynghorwyr yn y cyfarfod Cabinet ar y 20/02/2024.
PENDERFYNIAD:
- Nodi cynnwys yr adroddiad ymgynghori.
- Cymeradwyo cyhoeddi’r hysbysiad statudol.
Ysgol Gynradd Gatholig Padarn Sant
Cafodd yr ymateb i'r ymgynghoriad hwn ei ystyried gan y Cynghorwyr yn y cyfarfod Cabinet ar y 20/02/2024.
PENDERFYNIAD:
- Nodi cynnwys yr adroddiad ymgynghori.
- Cymeradwyo cyhoeddi’r hysbysiad statudol.
Mae cyfnod yr hysbysiad Statudol Ysgol Gynradd Cei Newydd yn fyw ers Ebrill 8fed. Bydd yn cau ar Fai 5ed 2024. Bwriedir gweithredu penderfyniad y Cabinet ar 1 Medi 2025.
Ysgol Gynradd Cei Newydd
Cafodd yr ymateb i'r ymgynghoriad hwn ei ystyried gan y Cynghorwyr yn y cyfarfod Cabinet ar y 19/03/2024.
PENDERFYNIAD:
- Nodi cynnwys yr adroddiad ymgynghori.
- Cymeradwyo cyhoeddi’r hysbysiad statudol, yn amodol ar ddileu’r cyfeiriad at 'dderbyn disgyblion 3 oed yn rhan amser' o'r Hysbysiad Statudol.
Ymgynghoriad Gwreiddiol
Mae’r ymgynghoriad hwn yn deillio o benderfyniad Cabinet Cyngor Sir Ceredigion ar Fai 23ain 2023.
Mae’n gynnig i ddiwygio cyfrwng Iaith Dysgu Sylfaen y 5 ysgol a ganlyn; Ysgol Gynradd Cei Newydd, Ysgol Gynradd Comins Coch, Ysgol Gynradd Plascrug, Ysgol Gynradd Llwyn yr Eos ac Ysgol Gynradd Gatholig Padarn Sant. Yn ogystal â hyn mae’r cynnig yn newid oed derbyn disgyblion i gynnwys disgyblion 3 oed rhan amser mewn 3 o’r ysgolion hynny, sef Ysgol Cei Newydd, Ysgol Comins Coch ac Ysgol Gatholig Padarn Sant.
Mae’r ymgynghoriad ar agor ar y 15fed o Fedi ac yn cau ar Dachwedd y 17eg. Gallwch ymateb yn ysgrifenedig o fewn y cyfnod hwn wedi i chi ddarllen y dogfennau perthnasol.
Ysgol Gynradd Cei Newydd
Dogfen Ymgynghori Gwybodaeth Atodol
Ysgol Gynradd Comins Coch
Dogfen Ymgynghori Gwybodaeth Atodol