Strategaeth Gyfathrebu
Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi mabwysiadu ei Strategaeth Gyfathrebu 2026-2031, sy’n nodi sut y bydd y Cyngor yn cyfathrebu â thrigolion, busnesau, partneriaid a rhanddeiliaid dros y pum mlynedd nesaf.
Mae’r Strategaeth yn amlinellu ein hymrwymiad i ddarparu cyfathrebu clir, dwyieithog, hygyrch a diduedd, gan ddefnyddio amrywiaeth o sianeli i sicrhau bod gwybodaeth berthnasol yn cyrraedd y bobl gywir ar yr adeg gywir.