Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ein Hamcanion Llesiant Corfforaethol Mesurau Perfformiad a Dangosyddion Meincnod Cenedlaethol yn 2023/24

Croeso i’n trosolwg o fesurau perfformiad ein Hamcanion Llesiant Corfforaethol a’n dangosyddion meincnod cenedlaethol yn 2023/24. Ei nod yw darparu crynodeb o'n perfformiad ar draws ystod o wasanaethau gan ddefnyddio set o fetrigau a meincnodau safonol.

Ein Hamcanion Llesiant Corfforaethol yw:

  1. Hybu’r Economi, Cefnogi Busnesau a Galluogi Cyflogaeth
  2. Creu Cymunedau Gofalgar ac Iach
  3. Darparu’r Dechrau Gorau mewn Bywyd a Galluogi Pobl o Bob Oed i Ddysgu
  4. Creu Cymunedau Cynaliadwy a Gwyrdd sydd wedi’u Cysylltu’n Dda â’i Gilydd

Cliciwch ar bob un i weld y mesurau perfformiad cysylltiedig a'r dangosyddion meincnod cenedlaethol.

Beth yw Mesurau Perfformiad Lleol?

Mae mesurau Perfformiad Lleol yn ddangosyddion penodol a ddefnyddiwn i asesu effeithlonrwydd, effeithiolrwydd ac ansawdd y gwasanaethau a ddarperir gennym ni. Mae'r mesurau hyn yn cwmpasu ystod eang o'n gwasanaethau, gan gynnwys addysg, gwasanaethau cymdeithasol, tai a rheolaeth amgylcheddol. Trwy werthuso'r metrigau hyn, gallwn gael mewnwelediad i ba mor dda yr ydym yn bodloni anghenion a disgwyliadau ein cymunedau.

Mae’r data ar gyfer pob Mesur Perfformiad yn dangos y targed ar gyfer 2023/24 a osodwyd gennym i’n hunain o’i gymharu â’r sefyllfa wirioneddol ar ddiwedd y flwyddyn ariannol. Yna mae gan bob mesur statws coch, ambr neu wyrdd. Mesurau gwyrdd yw'r rhai sydd ar darged, mesurau ambr yw'r rhai sydd hyd at 15% oddi ar y targed ac mae coch yn fwy na 15% oddi ar y targed.

Beth yw Dangosyddion Meincnod Cenedlaethol?

Mae dangosyddion Meincnodi Cenedlaethol yn fetrigau safonedig a ddefnyddir i gymharu perfformiad gwahanol awdurdodau lleol ledled Cymru. Mae'r meincnodau hyn yn darparu fframwaith cyffredin ar gyfer gwerthuso darpariaeth gwasanaeth. Drwy gymharu ein perfformiad yn erbyn meincnodau cenedlaethol, gall helpu i nodi arferion gorau, meysydd i'w gwella, a thueddiadau dros amser.

Mae’r data a ddangosir yn dangos perfformiad Ceredigion o gymharu â chyfartaledd Cymru gyfan. Mae safle'r chwartel yn fesur o sefyllfa'r 22 awdurdod lleol ledled Cymru. Mae chwarteli yn rhannu data yn bedair rhan gyfartal:

  • Chwartel 1: Mae perfformiad ymhlith y 25% Uchaf o Gynghorau ledled y wlad, y cyfeirir ato weithiau fel y ‘chwartel uchaf’.
  • Chwartel 2: Perfformiad uwch na'r cyfartaledd ond y tu allan i'r chwartel uchaf.
  • Chwartel 3; Perfformiad is na'r cyfartaledd ond yn uwch na'r chwartel isaf.
  • Chwartel 4; Mae perfformiad ymhlith y 25% isaf o Gynghorau ledled y wlad.

Pam fod y mesurau hyn yn bwysig?

  • Tryloywder: Mae mesurau perfformiad a dangosyddion meincnodi yn hybu tryloywder, gan alluogi dinasyddion a rhanddeiliaid i weld sut rydym yn perfformio.
  • Atebolrwydd: Mae'r mesurau hyn yn ein dal yn atebol am ein perfformiad, gan annog gwelliant parhaus a darparu gwasanaeth effeithlon.
  • Gwneud Penderfyniadau Gwybodus: Trwy ddeall data perfformiad, gallwn wneud penderfyniadau mwy gwybodus i wella ansawdd gwasanaeth, profiad y cwsmer a mynd i'r afael â meysydd sydd angen eu gwella.
  • Ymgysylltu â’r Gymuned: Mae gwybodaeth hygyrch am berfformiad yn grymuso dinasyddion a rhanddeiliaid i ymgysylltu â ni, gan feithrin dull cydweithredol o wella gwasanaethau cyhoeddus. Gobeithiwn y bydd y ddogfen hon yn adnodd gwerthfawr ar gyfer deall ein perfformiad ac effaith ein gwasanaethau ar ein cymunedau.