Skip to main content

Ceredigion County Council website

Cynlluniau Ynni Ardal Lleol

Yn 2024 mae Cyngor Sir Ceredigion wedi cymeradwyo ei Cynlluniau Ynni Ardal Lleol (CYALl). Mae’r cynlluniau hyn, a luniwyd ar y cyd gyda rhanddeiliaid amrywiol, ac a ariannir gan Lywodraeth Cymru, yn nodi sut y gall y ardal symud i system ynni sero net erbyn 2050. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn ein hadroddiad Cynllun Ynni Ardal Leol Ceredigion.

Mae’r CYALl hyn yn datblygu Strategaeth Ynni Canolbarth Cymru a byddant yn cyfrannu at Gynllun Ynni Cenedlaethol Llywodraeth Cymru.

Mae prif ganfyddiadau’r CYALl yn cynnwys:

  • Prosiectau blaenoriaeth uchel:
    • Pympiau gwres: mae’r CYALl yn amcangyfrif y bydd angen gosod 86000 o bympiau gwres erbyn 2050 ar draws Canolbarth Cymru
    • Uwchraddio effeithlonrwydd ffabrig: gallai 61400 o gartrefi gael budd gan welliannau i’w ffabrig fel inswleiddio a gwydr dwbl
    • Systemau ynni lleol deallus: gallai defnyddio trydan yn lleol mewn ffordd ddeallus a hyblyg leihau biliau ynni gymaint ag y bo modd, cynyddu perchnogaeth leol ynni adnewyddadwy, a lleihau’r angen i uwchraddio’r rhwydwaith
    • Rhwydwaith gwres: nodwyd mai Aberystwyth yw’r lleoliad mwyaf addas er mwyn cael rhwydwaith gwres rhanbarthol yng Nghanolbarth Cymru
    • Cerbydau trydan: bydd angen i’r gwaith o osod seilwaith gwefru gyfateb â’r cynnydd rhagamcanol yn nifer y cerbydau trydan yng Nghanolbarth Cymru
  • Buddsoddi: Mae’r CYALl yn amcangyfrif bod angen buddsoddiad ychwanegol o £1.95 biliwn yng Nghanolbarth Cymru er mwyn sicrhau sero net, a bydd angen i 40% o hwn fod ar gyfer uwchraddio eiddo domestig
  • Sgiliau: Mae rhoi sylw i’r bwlch sgiliau yn y rhanbarth yn hanfodol er mwyn galluogi i fesurau effeithlonrwydd a gosod pympiau gwres a phaneli solar gael eu gweithredu ar raddfa. Mae’r CYALl yn amcangyfrif y gallai 995 o swyddi ychwanegol gael eu creu yn lleol erbyn 2050
  • Cynhyrchu ynni adnewyddadwy: mae gan Ganolbarth Cymru y potensial i gynhyrchu swm sylweddol o ynni adnewyddadwy. Fodd bynnag, mae rhanddeiliaid wedi amlygu pwysigrwydd sicrhau bod buddion yn cronni yn lleol (e.e. rhanberchnogaeth, biliau is)
  • Uwchraddio’r rhwydwaith trydan: Bydd y rhwydweithiau ynni yn defnyddio allbynnau’r CYALl i gyfrannu at eu gweithgarwch cynllunio busnes
  • Manteision lluosog: Bydd mentrau a awgrymir yn y CYALl yn helpu i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr, lleddfu tlodi tanwydd, gwella iechyd, a chreu swyddi

Mae cymeradwyo’r CYALl yn garreg filltir arwyddocaol ar daith y rhanbarth tuag at sicrhau sero net. Caiff y cynlluniau eu diweddaru o bryd i’w gilydd i gynnwys datblygiadau technolegol a newidiadau polisi, gan sicrhau ei effeithiolrwydd wrth gyflawni nodau cynaliadwyedd hirdymor.

Mae Ynni Rhanbarthol yn cael ei arwain gan Tyfu Canolbarth Cymru, sy'n chwarae rhan allweddol wrth ddod â rhanddeiliaid ynghyd ar draws y rhanbarth i hwyluso'r broses bontio i Sero-Net, yn ogystal â chefnogi'r awdurdodau lleol sy'n arwain trwy esiampl.