Skip to main content

Ceredigion County Council website

Strategaeth Diogelwch Cymunedol Ceredigion 2024-2027

Mae dyletswydd statudol ar y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol i gynnal adolygiad rheolaidd o drosedd ac anrhefn yn y sir, a nodi dulliau o ddatblygu a gweithredu camau effeithiol i leihau'r problemau hyn. Defnyddir yr adolygiadau hyn i ddarparu sylfaen gref sy'n seiliedig ar dystiolaeth i'r Bartneriaeth fedru llywio Strategaeth Diogelwch Cymunedol ar gyfer Ceredigion.

Yn 2023, cynhaliodd Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Ceredigion Asesiad Strategol o Drosedd ac Anrhefn gyda'r nod o nodi'r prif faterion sy'n effeithio ar y sir, cael cipolwg ar faterion pwysig megis ofn troseddau, ymddygiad gwrthgymdeithasol a chamddefnyddio cyffuriau ac alcohol. Roedd yr Asesiad yn cynnwys dwy elfen -

  • Ymarfer ymgysylltu cyhoeddus cynhwysfawr drwy holiadur dwyieithog, lle derbyniwyd 89 o ymatebion gan gynnwys 167 o sylwadau ysgrifenedig.
  • Data meintiol cefnogol gan bartneriaid, a oedd yn caniatáu cymharu canfyddiad y cyhoedd o droseddau ac ofn troseddau gyda data empirig ynghylch troseddau a'r ffigyrau o ran ymgysylltu â gwasanaethau.

Yn seiliedig ar y dystiolaeth a gasglwyd fel rhan o'r Asesiad, cytunodd Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Ceredigion ar nifer o flaenoriaethau ar gyfer ei Strategaeth Diogelwch Cymunedol. Cytunwyd y byddai'r Bartneriaeth yn mabwysiadu strategaeth dwy haen, gydag un set o flaenoriaethau yn canolbwyntio ar leihau gweithgarwch troseddol, a'r ail set yn canolbwyntio ar wella hyder y cyhoedd, sicrwydd a'r teimlad o ddiogelwch o fewn cymunedau. Cymeradwywyd y Strategaeth gan Bwyllgor Cydlynu Trosolwg a Chraffu Cyngor Sir Ceredigion ym mis Gorffennaf 2024.

Gellir gweld Strategaeth Diogelwch Cymunedol Ceredigion ar gyfer 2024-2027, yn ogystal â'r Cynllun yn Gryno, o dan yr adran Lawrlwythiadau ar y dudalen hon.