Martyn’s Law
Cyngor a chanllawiau diogelwch amddiffynnol i fusnesau a chymunedau.
Mae Deddf Terfysgaeth (Gwarchod AnheddauDiogelu Mangreoedd) 2025, a elwir hefyd yn gyfraith Martyn (Martyn’s Law), yn nodi pa weithdrefnau a mesurau y mae'n rhaid i sefydliadau eu rhoi ar waith ar gyfer eu anheddau neu ddigwyddiadau.
I gael y cyngor diweddaraf ar ddiogelwch a pharodrwydd sy'n gysylltiedig â Chyfraith Martyn, byddem yn annog busnesau a sefydliadau, yn ogystal a'r rhai sy'n gweithio yn y sector masnachol, i gael mynediad at ganllawiau cenedlaethol wrth iddynt gael eu cyhoeddi gan PROTECT UK.
Mae PROTECT UK yn ffynhonnell ddibynadwy a ddarperir gan y llywodraeth, sy'n cynnig gwybodaeth am ddim sy'n cael ei ddiweddaru'n rheolaidd, ynghyd ag offer ymarferol ac adnoddau arbenigol i helpu busnesau i gryfhau eu diogelwch amddiffynnol, ymateb i fygythiadau sy'n dod i'r amlwg, ac i wella gwytnwch.
Gallwch gael mynediad at y canllawiau cenedlaethol diweddaraf, deunyddiau hyfforddi, a diweddariadau diogelwch yn uniongyrchol trwy: ProtectUK