Skip to main content

Ceredigion County Council website

Cylch Caron

Clych CaronProsiect cyffrous ac unigryw yw Cylch Caron sy’n bwriadu cynnig nifer o gyfleoedd a manteision i bobl yr ardal.

Mae Canolfan Adnoddau Integredig Cylch Caron yn gynllun arloesol sy’n dod ag amrywiaeth o wasanaethau ynghyd mewn un man canolog ar gyfer Tregaron a’r ardaloedd gwledig cyfagos. Mae Cylch Caron yn adeiladu ar yr ymroddiad a’r ymrwymiad cadarn sydd eisoes yn bodoli i ofalu am bobl yng nghymuned Cylch Caron. Bydd y prosiect yn creu model arloesol ar gyfer gofal cymunedol mewn ardal wledig i ddiwallu’r anghenion gofal, iechyd a thai yn yr ardal, a fydd yn addas ar gyfer heddiw ac yn gynaliadwy ar gyfer y dyfodol.

Mae'r cynllun yn cael ei ddatblygu mewn partneriaeth rhwng Cyngor Sir Ceredigion, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Llywodraeth Cymru. Bydd yn cynnwys meddygfa, fferyllfa gymunedol, clinigau cleifion allanol a chyfleusterau nyrsio cymunedol a gofal cymdeithasol, yn ogystal â fflatiau gofal ychwanegol ac unedau iechyd a gofal cymdeithasol integredig.