
Ym mha etholiadau y gallaf bleidleisio ynddynt?
Ym mha etholiadau y gallaf bleidleisio ynddynt?
Mae’r etholiadau y gallwch chi bleidleisio ynddynt yn dibynnu ar y canlynol:
- eich oedran
- eich dinasyddiaeth, a
- lle cynhelir yr etholiad
Dinasyddion tramor cymwys
Gall dinasyddion tramor cymwys sy’n byw yng Nghymru ac sy’n 16 oed neu’n hŷn bleidleisio yn yr etholiadau canlynol:
- Etholiadau Senedd Cymru
- Etholiadau Llywodraeth Leol yng Nghymru
Pwy sy’n cael ei ystyried yn ddinesydd tramor cymwys?
Cewch eich ystyried yn ddinesydd tramor cymwys os oes gennych ganiatâd i ddod i mewn ac i aros yn y Deyrnas Unedig (neu os ydych yn cael eich trin felly) ac nad ydych:
- yn un o ddinasyddion y Gymanwlad, neu’n
- un o ddinasyddion Gweriniaeth Iwerddon
Os oes gennych gwestiynau am eich hawl i bleidleisio, e-bostiwch gwasanaethauetholiadol@ceredigion.gov.uk neu ffoniwch 01545 572032.
Pleidleisio yn 16 oed
Yng Nghymru, gallwch gofrestru i bleidleisio yn 14 oed. Byddwch yn cael eich cadw ar y gofrestr etholiadol hyd nes eich bod yn ddigon hen i bleidleisio.
Mae cofrestru yn 14 oed yn golygu y byddwch yn gallu pleidleisio yn yr etholiad cyntaf ar ôl i chi droi'n 16 oed.
Yn 16 oed, gallwch bleidleisio yn:
- Etholiadau Senedd Cymru, ac
- Etholiadau Llywodraeth Leol yng Nghymru
Golyga hyn y gallwch chi ddweud eich dweud ar bynciau sy'n effeithio arnoch chi a chymryd rhan weithredol yn y broses o wneud penderfyniadau yng Nghymru a'ch ardal leol.
Rhaid i chi fod yn 18 oed i bleidleisio yn etholiadau Llywodraeth y Deyrnas Unedig.
Mae mwy o wybodaeth ar gael ar Ym mha etholiadau y gallwch chi bleidleisio ar wefan y Comisiwn Etholiadol.