
Pleidleisio Hygyrch
Ein nod yw sicrhau bod pob gorsaf bleidleisio yn hygyrch i bleidleiswyr anabl. Er enghraifft:
- rydym yn darparu rampiau lle bo angen
- bydd y Swyddog Llywyddu ar gael i’ch helpu chi
- bydd y bwth pleidleisio yn addas ar gyfer pobl sy’n defnyddio cadeiriau olwyn
- gall ffrind neu aelod o’r teulu fod gyda chi os oes angen help arnoch
- bydd cadeiriau ar gael i bobl sy’n methu aros ar eu traed am gyfnodau hir
Hefyd, bydd staff y gorsafoedd pleidleisio yn medru darparu’r cymhorthion canlynol i helpu pleidleiswyr dall neu rannol ddall:
- teclynnau ar gyfer dal pensil
- chwyddwydrau mawr
- dyfais bleidleisio gyffyrddol
- copi o’r papur / papurau pleidleisio mewn print bras
Ffurflenni ar gyfer pleidleisio drwy’r post a phleidleisio drwy ddirprwy
Gall pleidleiswyr anabl gael pleidlais drwy ddirprwy yn barhaol. Hon yw’r drefn lle’r ydych yn enwebu rhywun i bleidleisio ar eich rhan yn yr orsaf bleidleisio.
Ewch i wefan y Comisiwn Etholiadol i gael gwybodaeth ynglŷn â sut mae pleidleisio drwy’r post.
Ewch i wefan y Comisiwn Etholiadol i gael gwybodaeth ynglŷn â sut mae pleidleisio drwy ddirprwy ar sail anabledd.
Gallwch chi lawrlwytho’r ffurflenni cais canlynol:
Gallwch hefyd gysylltu â Gwasanaethau Etholiadol.
Gwybodaeth i bleidleiswyr anabl
Ewch ati i ddarllen mwy am hawliau pleidleisio i etholwyr anabl er mwyn cael gwybod:
- beth yn union yw pleidleisio
- pam fod pleidleisio mor bwysig
- sut y gallwch chi bleidleisio
Mae Mencap wedi paratoi canllawiau i bobl sydd ag anableddau dysgu fel y gallwch chi ddeall y canlynol:
- y rheolau newydd ynglŷn ag ID ffotograffig
- y trefniadau ar gyfer cofrestru i bleidleisio
- pam fod eich pleidlais yn bwysig
- eich hawliau
- sut mae pleidleisio mewn etholiadau
Mae gan GOV.UK wybodaeth i bobl sydd ag anableddau dysgu a’u gweithwyr cymorth.
Cerdyn gwybodaeth i’ch cynorthwyo yn yr orsaf bleidleisio
Taflen A4 yw’r cerdyn gwybodaeth hwn a’i ddiben yw eich cynorthwyo yn yr orsaf bleidleisio. Cyn i chi fynd i’ch gorsaf bleidleisio, gallwch chi lanw’r cerdyn gwybodaeth gan nodi’r hyn y gallwn ni ei wneud i’ch helpu chi. Gallwch chi roi’r cerdyn wedyn i’r staff yn yr orsaf bleidleisio a byddant yn fwy na pharod i’ch cynorthwyo.
Lawrlwytho ac argraffu cerdyn gwybodaeth i’ch cynorthwyo yn yr orsaf bleidleisio.
Os hoffech chi dderbyn copi caled o’r cerdyn gwybodaeth, cysylltwch â’r gwasanaethau etholiadol.
Hefyd, mae gan bawb sydd ag anabledd dysgu yr hawl i bleidleisio. Cyn belled ag y gallwch chi nodi pwy yr ydych chi am bleidleisio drostyn nhw, gall rhywun lanw’r papur pleidleisio ar eich rhan.
Am fwy o wybodaeth neu i wneud cais am gerdyn gwybodaeth i’w ddefnyddio yn yr Orsaf Bleidleisio, cysylltwch â’r Gwasanaethau Etholiadol.
Gwasanaethau Etholiadol
Trwy’r post: Cyngor Sir Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron, SA46 0PA.
E-bost: gwasanaethauetholiadol@ceredigion.gov.uk.
Rhif Ffôn: 01545 572032.