Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Is-etholiad Cyngor Tref Aberystwyth (Rheidol)

Cynhelir is-etholiad ar gyfer Ward Rheidol yng Nghyngor Tref Aberystwyth, i ethol un Cynghorydd ar ddydd Iau, 19 Mawrth 2026.

Etholiadau’r Cynghorau Tref / Cymuned

Ar hyn o bryd mae 51 o Gynghorau Tref a Chymuned yng Ngheredigion. 

Gall Cynghorau Tref a Chymuned osod ‘praesept’ neu ‘dreth’ a gesglir gan y Cyngor Sir gyda Threth y Cyngor. 

Mae lefel y gwasanaethau a ddarperir gan y cynghorau cymuned a thref yn amrywio ledled Cymru ond gallant gynnwys:

  • darparu cynlluniau trafnidiaeth cymunedol a’u cynnal a’u cadw, prosiectau ieuenctid lleol, gweithgareddau twristiaeth
  • cyfleusterau hamdden, meysydd parcio, meysydd pentref, toiledau cyhoeddus, biniau sbwriel
  • cynlluniau bioamrywiaeth (mae dyletswydd dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2021 i bob cyngor baratoi cynlluniau bioamrywiaeth)
  • claddfeydd, rhandiroedd, cysgodfannau bysiau, tiroedd comin a mannau agored, llwybrau troed a llwybrau ceffylau, mesurau i leihau troseddau
  • darparu neuadd bentref neu gyfrannu at gorff arall sy’n darparu cyfleuster o’r fath.

Yn ogystal, mae llawer o gynghorau yn defnyddio pŵer dewisol Adran 137 sy’n eu galluogi i ddarparu gwasanaethau eraill, megis ffonau cyhoeddus; meddygfeydd pentref; cadw neu adfer hen wrthrychau neu adeiladau; cystadleuaeth y pentref taclusaf; tacluso tir nad oes neb yn gwybod pwy yw ei berchennog; coed Nadolig; sioeau blodau, gwyliau a ffeiriau; cyfraniadau at grwpiau chwarae a chlybiau ieuenctid; pryd ar glud; a chymorth i’r anabl.

Mae bron pob cyngor cymuned yn cyflogi Clerc / Swyddog Ariannol Cyfrifol sy’n gyfrifol am weinyddu’r Cyngor mewn modd effeithlon, gan gynnwys gweinyddu cyfarfodydd; sicrhau bod y cyngor yn bodloni’r gofynion cyfreithiol ac ymdrin â’r prosesau cyllidol. Mae gofyn i bob cyngor gael rheolau sefydlog a rheoliadau cyllidol i reoleiddio eu gweithrediadau. 

Bydd y Cynghorau Tref a Chymuned yn gweithio’n agos gyda’r Cynghorwyr Sir a Cyngor Sir Ceredigion ar faterion sydd o fudd cyffredin neu faterion y maent yn rhannu pryder yn eu cylch. 

Un Llais Cymru yw’r sefydliad sy’n cynrychioli ac yn darparu gwasanaethau cymorth i gynghorau cymuned a thref ledled Cymru. I gael mwy o wybodaeth, ewch i.

http://www.unllaiscymru.org.uk

Mae Canllaw’r Cynghorydd Da hefyd yn adnodd defnyddiol.

Y broses enwebu

Rhaid cyflwyno’r papurau enwebu i’r Swyddog Canlyniadau, heb fod yn hwyrach na 4.00p.m. ar 20 Chwefror 2026.

Gellir cyflwyno’r papurau enwebu i’r Swyddog Canlyniadau yn Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron, Ceredigion SA46 0PA, unrhyw ddiwrnod ar ôl dyddiad yr hysbysiad hwn, o ddydd Llun i ddyddGwener, rhwng 8.00a.m. a 4.00p.m. (ac eithrio gwyliau banc) neu’n electronig, yn unol â’r datganiad isod sy’n nodi’r trefniadau ar gyfer cyflwyno papurau enwebu yn electronig.

Rhaid gwneud apwyntiadau os ydych yn dewis cyflwyno’r papurau enwebu wyneb yn wyneb. Gellir trefnu apwyntiadau drwy ffonio 01545 570881 neu drwy anfon e-bost i’r cyfeiriad canlynol: swyddogcanlyniadau@ceredigion.gov.uk

Gellir cyflwyno’r papurau enwebu’n electronig yn unol â’r datganiad isod sy’n nodi’r trefniadau ar gyfer cyflwyno papurau enwebu’n electronig:

  • Rhaid cyflwyno’r papurau enwebu drwy e-bost i’r cyfeiriad canlynol: swyddogcanlyniadau@ceredigion.gov.uk Ni dderbynnir enwebiadau os cânt eu cyflwyno i gyfeiriad e-bost gwahanol;
  • Dylai llinell pwnc yr e-bost nodi’n glir beth yw enw’r ymgeisydd;
  • Wedi i ni dderbyn y papurau, byddwn yn anfon e-bost i gydnabod ein bod wedi eu derbyn. Ni fydd yr

 e-bost hwnnw’n cadarnhau a yw’r enwebiad yn ddilys;

  • Bydd e-bost arall yn cael ei anfon i gadarnhau a yw’r enwebiad yn ddilys neu a oes unrhyw broblemau o ran yr wybodaeth a gyflwynwyd;

Cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw sicrhau bod y papurau enwebu wedi eu cyflwyno a bod eu dilysrwydd wedi ei gadarnhau, a hynny heb fod yn hwyrach na 4.00pm ar 20 Chwefror 2026.

Gellir cael y papurau enwebu ar wefan y Comisiwn Etholiadol:

Ymgeiswyr ac asiantau mewn etholiadau cynghorau chymuned yng Nghymru | Electoral Commission

Y Swyddog Canlyniadau

Eifion Evans, Prif Weithredwr Cyngor Sir Ceredigion yw’r Swyddog Canlyniadau ac mae e’n gyfrifol am y canlynol:

  • Cyhoeddi’r hysbysiad o etholiad
  • Gweinyddu’r broses enwebu
  • Annog pobl i gymryd rhan
  • Cyhoeddi datganiad am y sawl a enwebwyd a’r hysbysiad o bleidlais
  • Darparu gorsafoedd pleidleisio a sicrhau bod y cyfarpar priodol ynddynt
  • Penodi staff i’r gorsafoedd pleidleisio
  • Cynnal yr etholiad
  • Rheoli’r broses bleidleisio drwy’r post
  • Dilysu a chyfrif y pleidleisiau
  • Datgan y canlyniadau.

Mae dau Ddirprwy Swyddog Canlyniadau, sef Barry Rees a Lowri Edwards a fydd yn cynorthwyo’r Swyddog Canlyniadau i gynnal yr etholiad yn unol â phrotocol penodol.

Dylid gwneud unrhyw ymholiadau i’r Swyddog Canlyniadau neu’r Dirprwy Swyddogion Canlyniadau naill ai drwy anfon e-bost i’r cyfeiriad canlynol swyddogcanlyniadau@ceredigion.gov.uk neu drwy ffonio 01545 570881.

Dyddiadau pwysig

Digwyddiad

Dyddiad (erbyn pryd os nad yw’n ganol nos)

Cyhoeddi’r hysbysiad o etholiad

Dydd Iau, 12 Chwefror 2026

Cyflwyno’r papurau enwebu

Gall papurau enwebu gael eu cyflwyno yn electronig neu wyneb yn wyneb. Bydd mwy o wybodaeth ar gael cyn bo hir. 

Rhwng dydd Gwener, 13 Chwefror a 4pm ddydd Gwener, 20 Chwefror

Y dyddiad a’r amser cau ar gyfer dosbarthu papurau enwebu

4pm ddydd Gwener, 20 Chwefror

Y dyddiad a’r amser cau ar gyfer tynnu’n ôl

4pm ddydd Gwener, 20 Chwefror

Y dyddiad a’r amser cau ar gyfer hysbysu bod asiant etholiadol wedi’i benodi

4pm ddydd Gwener, 20 Chwefror

Cyhoeddi’r hysbysiad interim cyntaf o newid i etholiad

Dydd Gwener, 20 Chwefror

Cyhoeddi datganiadau am y sawl a enwebwyd, gan gynnwys hysbysiad o bleidlais a lleoliad gorsafoedd pleidleisio

Heb fod yn hwyrach na 4pm ddydd Llun, 23 Chwefror

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau i gofrestru

Dydd Mawrth, 3 Mawrth

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau newydd am bleidleisiau drwy’r post a phleidleisiau drwy ddirprwy drwy’r post, ac am newidiadau i bleidleisiau drwy’r post neu bleidleisiau drwy ddirprwy sy’n bodoli eisoes

5pm ddydd Mercher, 4 Mawrth

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau newydd i bleidleisio drwy ddirprwy (nid pleidlais drwy ddirprwy drwy’r post na phleidlais drwy ddirprwy mewn argyfwng) 

5pm ddydd Mercher, 11 Mawrth

Cyhoeddi ail hysbysiad interim o newid etholiad 

Rhwng dydd Llun, 23 Chwefror a dydd Mercher, 11 Mawrth (gan gynnwys y dyddiadau hyn)

Yr amser cyntaf y gall etholwyr wneud cais am bleidlais drwy ddirprwy mewn argyfwng

Ar ôl 5pm ddydd Iau, 12 Mawrth

Cyhoeddi’r hysbysiad terfynol o newid etholiad

Dydd Iau, 12 Mawrth

Y dyddiad cau ar gyfer hysbysu bod asiantiaid pleidleisio, asiantiaid cyfrif ac is-asiantiaid wedi’u penodi

Dydd Iau, 12 Mawrth

Y dyddiad cyntaf y gall etholwyr wneud cais am bleidlais bost newydd yn lle pleidlais bost a gollwyd

Dydd Gwener, 13 Mawrth

Diwrnod pleidleisio

Rhwng 7am a 10pm ddydd Iau, 19 Mawrth

Y tro olaf y gall etholwyr wneud cais am bleidlais bost newydd yn lle pleidlais bost a ddifethwyd neu a gollwyd

5pm ddydd Iau, 19 Mawrth

Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am bleidlais drwy ddirprwy mewn argyfwng

5pm ddydd Iau, 19 Mawrth

Y tro olaf y gellir newid y gofrestr o ganlyniad i wall clerigol neu apêl gan y llys

9pm ddydd Iau, 19 Mawrth

Dilysu a Chyfrif

Dydd Iau, 19 Mawrth

Danfon cofnod o ran treuliau etholiadol

23 Ebrill