Is-etholiad Cyngor Tref Aberystwyth (Rheidol) - 19 Mawrth 2026
Cynhelir is-etholiad ar gyfer Ward Rheidol yng Nghyngor Tref Aberystwyth, i ethol un Cynghorydd ar ddydd Iau, 19 Mawrth 2026.
Etholiadau’r Cynghorau Tref / Cymuned
Ar hyn o bryd, mae 51 o Gynghorau Tref a Chymuned yng Ngheredigion.
Gall Cynghorau Tref a Chymuned osod ‘praesept’ neu ‘dreth’ a gesglir gan y Cyngor Sir gyda Threth y Cyngor.
Mae lefel y gwasanaethau a ddarperir gan y cynghorau cymuned a thref yn amrywio ledled Cymru ond gallant gynnwys:
- darparu cynlluniau trafnidiaeth cymunedol a’u cynnal a’u cadw, prosiectau ieuenctid lleol, gweithgareddau twristiaeth
- cyfleusterau hamdden, meysydd parcio, meysydd pentref, toiledau cyhoeddus, biniau sbwriel
- cynlluniau bioamrywiaeth (mae dyletswydd dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2021 i bob cyngor baratoi cynlluniau bioamrywiaeth)
- claddfeydd, rhandiroedd, cysgodfannau bysiau, tiroedd comin a mannau agored, llwybrau troed a llwybrau ceffylau, mesurau i leihau troseddau
- darparu neuadd bentref neu gyfrannu at gorff arall sy’n darparu cyfleuster o’r fath.
Yn ogystal, mae llawer o gynghorau yn darparu gwasanaethau eraill, megis ffonau cyhoeddus; meddygfeydd pentref; cadw neu adfer hen wrthrychau neu adeiladau; cystadleuaeth y pentref taclusaf; tacluso tir nad oes neb yn gwybod pwy yw ei berchennog; coed Nadolig; sioeau blodau, gwyliau a ffeiriau; cyfraniadau at grwpiau chwarae a chlybiau ieuenctid; pryd ar glud; a chymorth i’r anabl.
Yn etholiadau’r Cynghorau Tref a Chymuned, byddwch yn dewis yr ymgeiswyr y dymunwch eu gweld yn eich cynrychioli chi’n uniongyrchol. Gallwch bleidleisio dros fwy nag un a bydd yr uchafswm y gallwch bleidleisio drostynt yn cael ei nodi ar y papur pleidleisio. Bydd yr uchafswm yn dibynnu ar faint y Cyngor Tref/Cymuned.
Pwy sy’n cael pleidleisio yn yr etholiadau hyn?
Ar gyfer Etholiadau Lleol, mae’n rhaid eich bod:
- Wedi cofrestru i bleidleisio. Os nad ydych eisoes wedi cofrestru ewch i https://www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio
- Yn 16 oed neu’n hŷn ar ddiwrnod yr etholiad – 19 Mawrth 2026.
- Yn ddinesydd Prydeinig, Gwyddelig, yr UE neu’n ddinesydd cymwys o’r Gymanwlad*
- Yn ddinesydd cymwys o wlad arall sydd â chaniatâd i ddod i mewn i’r DU neu i aros yn y DU, neu’n rhywun nad oes angen caniatâd o’r fath arnoch
*Dinesydd cymwys o’r Gymanwlad yw rhywun sydd â’r hawl i ddod i mewn i’r DU neu i aros yn y DU neu rywun nad oes angen hawl o’r fath arno/arni. Gellir dod o hyd i restr o’r gwledydd cymwys, Tiriogaethau Dibynnol ar Goron Prydain a Thiriogaethau Tramor Prydeinig ar wefan y Comisiwn Etholiadol
Pwy na all bleidleisio?
Mae’r grwpiau canlynol wedi’u heithrio’n gyfreithiol rhag pleidleisio yng Nghymru:
- Unigolyn sydd dan gollfarn (er y gall carcharorion ar remánd, carcharorion sydd heb eto gael eu collfarnu a charcharorion sifil bleidleisio os ydynt ar y gofrestr etholwyr).
- Unrhyw un a gafwyd yn euog o fewn y bum mlynedd ddiwethaf o arferion llwgr neu anghyfreithlon sy’n gysylltiedig ag etholiad.
Cofrestru i bleidleisio
Gwnewch yn siŵr eich bod wedi cofrestru i bleidleisio
- Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru i bleidleisio yw 11:59pm ddydd Mawrth, 3 Mawrth 2026
- Os ydych eisoes wedi cofrestru i bleidleisio yn eich eiddo ac nad ydych wedi symud ers i chi gofrestru, nid oes angen i chi ailgofrestru i bleidleisio.
- Os ydych wedi symud tŷ yn ddiweddar ac os nad ydych wedi cofrestru i bleidleisio yn eich cyfeiriad newydd, mae’n rhaid i chi wneud hynny erbyn 11:59pm ddydd Mawrth, 3 Mawrth
- Peidiwch ag anghofio y gall unigolion sy’n 16 a 17 oed bellach bleidleisio mewn etholiadau Lleol .
- Gallwch wneud yn siŵr a ydych wedi cofrestru i bleidleisio drwy gysylltu â gwasanaethauetholiadol@ceredigion.gov.uk
- Cofrestrwch erbyn dydd Mawrth, 3 Mawrth neu ni fyddwch yn gallu pleidleisio ddydd Iau, 19 Mawrth.
- Mae’n cymryd llai na thair munud i gofrestru ar-lein Byddai o gymorth i chi gael eich rhif Yswiriant Gwladol wrth law, gallwch ddod o hyd iddo ar eich slip cyflog, P60, neu lythyron am drethi, pensiynau a budd-daliadau.
- Gall pleidleiswyr gofrestru hefyd drwy ffonio 01545 570881
- Peidiwch â gadael cofrestru tan y funud olaf, rhag ofn y byddwch chi’n cael problemau.
Pleidleisio
Pleidleisio mewn Gorsaf Bleidleisio – 19 Mawrth 2026
- Mae Gorsafoedd Pleidleisio yn Clwb Pêl Droed Aberystwyth ar agor rhwng 7.00am a 10.00pm ar y diwrnod pleidleisio – 19 Mawrth 2026
Pleidleiswyr drwy’r post
- Y dyddiad cau i wneud cais am bleidlais drwy’r post yw 5.00pm ddydd Mercher, 4 Mawrth
- Mae’n rhaid i’r sawl sy’n gwneud cais am bleidlais drwy’r post fod eisoes wedi cofrestru i bleidleisio. Gellir lawrlwytho ffurflenni o wefan Gov.UK neu drwy ffonio 01545 570881
- Dim ond pleidleisiau drwy’r post sy’n cael eu dychwelyd erbyn 10.00pm ar ddiwrnod yr etholiad fydd yn cael eu cyfrif.
- Wedi anghofio anfon eich pleidlais bost yn ôl mewn pryd? Wedi i chi gwblhau eich pleidleisiau post a selio’r pecyn, gallwch eu gadael ar ddiwrnod pleidleisio mewn unrhyw orsaf bleidleisio sydd yn yr un ardal bleidleisio, ond yn ddelfrydol yn eich gorsaf bleidleisio leol.
- Wedi colli eich pleidlais bost neu’r bleidlais heb gyrraedd? Gellir cynhyrchu pecynnau yn eu lle rhwng 13 Mawrth a 5.00pm ar 19 Mawrth 2026.
- Dim ond wyneb yn wyneb yn Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Ceredigion SA46 0PA y gellir derbyn pecynnau yn lle’r rhai sydd wedi eu colli neu heb gyrraedd.
- Ffoniwch o flaen llaw os oes angen pecyn pleidlais bost yn lle un sydd wedi’i golli neu heb gyrraedd
- Bydd angen i chi ddod â phrawf hunaniaeth gyda chi: dogfen sy’n cynnwys llun, er enghraifft pasbort neu drwydded yrru, neu ddwy ddogfen sy’n cadarnhau eich enw a’ch cyfeiriad, er enghraifft datganiad banc, bil cyfleustod neu lythyr swyddogol.
Pleidleiswyr drwy ddirprwy
- Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am bleidlais drwy ddirprwy yw 5.00pm ddydd Mercher, 11 Mawrth
- Pleidleisiwr drwy ddirprwy yw rhywun yr ydych yn ymddiried ynddo ac yr ydych yn ei benodi i bleidleisio ar eich rhan.
- Rhaid i chi fod eisoes wedi eich cofrestru i bleidleisio er mwyn gwneud cais am bleidlais drwy ddirprwy. Gellir dod o hyd i ffurflenni a manylion llawn ynglŷn â chymhwysedd ar wefan y Comisiwn Etholiadol
- Mae’n rhaid bod eich dirprwy yn gymwys i bleidleisio yn yr etholiad ac mae’n rhaid ei fod/ei bod yn gallu mynd i’ch gorsaf bleidleisio, neu mae angen iddo/iddi wneud cais i fwrw’r bleidlais drwy ddirprwy drwy’r post. Bydd eich dirprwy yn derbyn llythyr neu gerdyn pleidleisio a fydd yn cynnwys y manylion angenrheidiol a bydd yn ei dderbyn yn ei gyfeiriad/ei chyfeiriad.
Pleidleiswyr drwy Ddirprwy mewn Argyfwng
- Mae modd cael pleidleisiau drwy ddirprwy mewn argyfwng ar ôl y dyddiad cau am bleidlais drwy ddirprwy, hyd at 5.00pm ar 19 Mawrth 2026. Dim ond mewn amgylchiadau eithriadol penodol y gellir gwneud hyn. Gallwch gael manylion ar wefan y Comisiwn Etholiadol neu drwy ffonio 01545 570881.
Os oes gan ymgeisydd neu asiant gwestiynau sy’n ymwneud ag etholiadau Lleol, yna ewch i’r dudalen ar gyfer Ymgeiswyr ac Asiantiaid.