
Etholiadau Senedd Cymru
Bydd newidiadau mawr yn dod i rym cyn Etholiadau Senedd Cymru ar 7 Mai 2026. Gellir dod o hyd i'r hyn sydd angen i chi ei wybod ar tudalen Cyfri’r dyddiau tan Etholiad y Senedd 2026: Pum peth i chi eu gwybod Senedd Cymru.
Newidiadau o ran yr etholaethau
Bydd gan Gymru 16 etholaeth yn hytrach na’r 40 sy’n bodoli ar hyn o bryd. Crëwyd yr etholaethau newydd gan Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru.
O ran Ceredigion, penderfynodd y Comisiwn y byddai’r etholaeth sirol yn cael ei chreu drwy uno Etholaeth Seneddol y Deyrnas Unedig Ceredigion Preseli ac Etholaeth Seneddol y Deyrnas Unedig Canol a De Sir Benfro. Mae’r Comisiwn wedi dynodi’r enw unigol Ceredigion Penfro ar gyfer yr etholaeth hon. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth ar dudalen Arolwg 2026: Penderfyniadau Terfynol y Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru.
Map - Gallwch chi weld map o etholaeth Ceredigion Penfro.
Pam mae etholiadau Senedd Cymru yn bwysig?
Mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am benderfynu sut mae Cymru yn cael ei llywodraethu. Mae’n dewis sut mae gwario arian cyhoeddus ac mae’n penderfynu sut mae darparu gwasanaethau cyhoeddus.
Dyma lle caiff deddfau Cymru eu pasio a lle caiff rhai o drethi Cymru eu gosod. Bydd Aelodau o’r Senedd yn edrych ar waith Llywodraeth Cymru ac yn gofyn cwestiynau am ei phenderfyniadau a’i gwariant yn y Senedd.
Mae'r Senedd yn craffu ar waith Llywodraeth Cymru ac yn holi ei Gweinidogion. Mae'n archwilio cynlluniau'r Llywodraeth ac yn awgrymu newidiadau iddynt. Mae'r Aelodau hefyd yn codi materion yn y Senedd sy'n bwysig i chi.
Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, cysylltwch â’r Gwasanaethau Etholiadol drwy ebost ar gwasanaethauetholiadol@ceredigion.gov.uk, dros y ffôn ar 01545 572302 neu drwy’r post ar Gwasanaethau Etholiadol, Cyngor Sir Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron SA46 0PA.