
Canfas Blynyddol 2025
Mae’n ofynnol i ni gadw’r gofrestr o etholwyr cymwys yn gyfredol.
Bob blwyddyn, rhwng mis Gorffennaf a mis Tachwedd, rydym yn cysylltu â phob cartref i gadarnhau a yw’r manylion ar y gofrestr etholiadol yn gywir.
Byddwn yn cysylltu â’ch cartref yn y ffyrdd canlynol:
- trwy e-bost
- trwy'r post
- dros y ffôn
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â chofrestru i bleidleisio, gallwch fynd i tudalen Pleidleisio ac etholiadau ar wefan y Comisiwn Etholiadol.
E-bost ynglŷn â Chanfas Blynyddol 2025
Rydym yn cysylltu â chartrefi yng Ngheredigion i gadarnhau pwy sydd wedi cofrestru i bleidleisio.
Bydd yr e-byst swyddogol yn cael eu hanfon atoch gan Dîm y Gwasanaethau Etholiadol - gwasanaethauetholiadol@ceredigion.gov.uk.
Bydd yr e-bost yn eich cyfeirio chi at wefan ddiogel www.registersecurely.com/ceredigion lle gallwch chi gadarnhau manylion eich aelwyd ar gyfer eu cynnwys ar y gofrestr etholiadol.
Os ydych chi’n diweddaru neu’n cadarnhau eich manylion drwy e-bost, nid oes angen i chi ddychwelyd unrhyw ffurflen bapur yr ydych chi yn ei derbyn.
Sut i ddiweddaru eich manylion
Os oes angen i chi wneud unrhyw newidiadau, mae’n bwysig eich bod chi’n ymateb i’r ffurflen cyn gynted ag y bo modd.
Gallwch chi wneud hyn ar-lein drwy ddilyn y cyfarwyddiadau ar y ffurflen a anfonir atoch:
- Ewch i'r wefan www.registersecurely.com/ceredigion
- Rhowch eich cod diogelwch unigryw:
Rhan 1:
Rhan 2: - Diweddarwch y wybodaeth am eich cartref a'i chyflwyno
Cofiwch gynnwys enwau a chenedligrwydd pawb sy’n byw yn y cyfeiriad hwn
Dylech gynnwys enwau a chenedligrwydd pawb sy'n byw yn y cyfeiriad hwn.
Os byddwch chi’n ychwanegu unrhyw etholwyr newydd, bydd angen iddyn nhw hefyd gwblhau cais ar tudalen Cofrestru i bleidleisio GOV.UK.
Cysylltu â ni
Gallwch chi gysylltu â ni ar unrhyw adeg o’r flwyddyn os ydych chi am newid eich manylion:
Tîm y Gwasanaethau Etholiadol
Trwy'r Post: Gwasanaethau Etholiadol, Cyngor Sir Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron, SA46 0PA.
E-bost: gwasanaethauetholiadol@ceredigion.gov.uk
Rhif Ffôn: 01545 572032.