Skip to main content

Ceredigion County Council website

Am Ein Gwasanaeth

Beth yr ydym yn ei wneud a sut yr ydym yn gweithredu

Gweledigaeth gyffredinol Gwasanaeth Safonau Masnach Cyngor Sir Ceredigion yw "Defnyddiwr Hyderus, Masnachwyr yr Ymddiriedir ynddynt" a'n prif nod yw sicrhau y cydymffurfir â safonau bwyd ac amaeth, pwysau a mesurau, masnachu teg a deddfwriaethau diogelwch, a hynny er lles defnyddwyr ynghyd â masnachwyr teg a gonest.

Rydym yma i warchod ...

  • Defnyddwyr rhag iddynt gael eu twyllo gan fasnachwyr diegwyddor a thwyllodrus
  • Masnachwyr rhag iddynt gael eu niweidio gan gystadleuaeth annheg ac anghyfreithlon

Yr hyn y gallwn a'r hyn na allwn ei wneud

Gall ein gwasanaeth eich helpu chi mewn sawl ffordd. Gallwn:-

  • rhoi cyngor diduedd ar gyfraith defnyddwyr a'ch hawliau
  • awgrymu camau y gallwch eu cymryd
  • ymchwilio a aed yn groes i'r gyfraith droseddol o fewn cylch gorchwyl y Safonau Masnach

Yn anffodus, cyfyngir ar y cymorth y gallwn ei roi i chi o ganlyniad i'r pwerau a roddir inni gan ddeddfwriaethau. Er enghraifft, NI ALLWN:-

  • cau lawr busnesau
  • weithredu ar eich rhan fel canolwyr rhyngoch chi a masnachwr er mwyn sicrhau ad-daliad neu ddatrysiad arall mewn achos o dorri cytundeb
  • gweithredu pan na thorrwyd yr un gyfraith droseddol
  • argymell busnes
  • dweud wrthych chi pa fusnes i osgoi

Ein ffordd o weithio

Y mae swyddogion yr Adain Safonau Masnach yn cyflawni eu dyletswyddau drwy:

  • Archwilio eiddo masnach er mwyn sicrhau eu bod yn cydymffurfio â chyfreithiau o ran mesureg gyfreithiol, safonau ansawdd, diogelwch cynnyrch a masnachu teg
  • Ymchwilio i gwynion ynghylch nwyddau a gwasanaethau
  • Samplu a phrofi cynnych a gwasanaethau - ee casglu samplau bwyd er mwyn profi eu bod yn cwrdd â safonau cyfansoddol a labelu; profi diogelwch cynnyrch, teclynnau trydanol, teganau, cynhyrchion cosmetig; cymryd samplau o fwydydd anifeiliaid a gwrtaith amaethyddol er mwyn dadansoddi eu cyfansoddiad, ac ati
  • Cynnal prosiectau ac arolygon o gynnyrch ac arferion masnach amrywiol
  • Trefnu cyflwyniadau ac arddangosfeydd er mwyn cynyddu ymwybyddiaeth o'r Gwasanaeth Safonau Masnach
  • Cymryd camau gorfodi - pan fydd swyddogion yn ymchwilio i achosion o dorri deddfwriaeth. Yn aml, caiff troseddwyr eu herlyn yn y llysoedd troseddol

Nid yw'r Gwasanaeth Safonau Masnach yn gweithredu ar ei ben ei hun. O gofio nad yw ffiniau daearyddol yn rhwystro trafodion masnachol, y mae'r swyddogion yn aml mewn cysylltiad â gwasanaethau Safonau Masnach eraill drwy'r Deyrnas Unedig. Mae'r swyddogion hefyd yn cysylltu ag asiantaethau gorfodi eraill megis Heddlu Dyfed Powys a Thollau Tramor a Chartref EM, ynghyd ag Adrannau'r Llywodraeth.


Prif Gweithgareddau

Crynodeb fyr o cyfrifoldebau craidd y wasanaeth Safonau Masnach Masnach

Mae'r Gwasanaeth Safonau Masnach yn gyrfifol am nifer o feysydd cyfreithiol craidd, sef:

  • Sicrhau bod cyfarpar pwyso a mesur a ddefnyddir ar gyfer masnachu yn gywir ac yn gyfreithlon
  • Atal gwerthiant nwyddau sy'n brin o ran pwysau a maint

Nod y ddeddfwriaeth hon yw sicrhau y caiff yr holl nwyddau a werthir yn ôl eu pwysau, cyfaint neu hyd eu gwerthu'n gywir. Caiff y rhan fwyaf o gyfarpar masnach ei reoleiddio, ac y mae Archwilwyr Pwysau a Mesurau yn profi ystod o gyfarpar pwyso a mesur fel mater o drefn, a hynny er mwyn sicrhau eu bod yn cydymffurfio â deddfwriaeth. Enghreifftiau o'r rhain yw tafol mewn siopau, pympiau petrol, mesuryddion a welir ar danceri tanwydd swmp, optigau mewn tafarndai a gwydrau cwrw ynghyd â mathau eraill o gyfarpar a ddefnyddir gan fusnesau er mwyn sicrhau eu bod yn rhoi'r mesur cywir ee peiriannau pwyso.

  • Sicrhau y caiff bwyd ei labelu a'i ddisgrifio'n gywir
  • Sicrhau y caiff bwyd anifeiliaid a gwrtaith ei labelu a'i ddisgrifio'n gywir ac nad yw'n cynnwys elfennau afiach, peryglus neu annymunol

Safonau Bwyd

Ein cyfrifoldebau o ran safonau bwyd yw sicrhau bod y bwyd yn y gadwyn fwyd yn cwrdd â safonau penodol o ran cyfansoddiad, y caiff ei labelu'n gywir ac na chaiff ei gamddisgrifio neu ei lygru mewn unrhyw fodd.

Rydym yn cynnal rhaglen samplu bwyd bob blwyddyn er mwyn sicrhau y caiff pob math o fwydydd a gyflenwir o ystod eang o werthwyr bwyd megis archfarchnadoedd, bwytai a siopau 'pryd i fynd' eu disgrifio'n gywir ac nad oes ynddynt gynhwysion anghyfreithlon. Yn ogystal, cynhelir archwiliadau er mwyn sicrhau na werthir bwyd wedi'r dyddiad olaf defnyddio.

Rydym hefyd yn cynnal archwiliadau ar bob math o eiddo sy'n gwerthu bwyd (siopau adwerthu, cyfanwerthwyr a chynhyrchwyr bwyd) er mwyn sicrhau eu bod yn cwrdd â safonau bwyd.

Safonau Amaeth

Y cynnyrch cyntaf mewn unrhyw gadwyn fwyd yw'r bwyd a roddir i'r anifail sy'n cael ei dewhau er mwyn ei ladd neu'r gwrtaith a chwistrellir ar y cnydau. Ein cyfrifoldebau o ran safonau amaethyddol yw sicrhau bod cyfansoddiad a'r labeli ar rai bwydydd, gwrtaith a phlaleiddiad yn gywir a gwireddwn hyn drwy gymryd samplau arferol o'r fath gynhyrchion.

Rydym hefyd yn cynnal archwiliadau o fasnachwyr a chynhyrchwyr amaethyddol, yn ogystal ag archwilio ffermydd cofrestredig sy'n cymysgu eu bwyd anifeiliaid eu hunain, a hynny er mwyn sicrhau nad yw'r bwyd anifeiliaid a ddefnyddir i fwydo anifeiliaid a fwriedir ar gyfer y gadwyn fwyd ddynol yn cynnwys sylweddau afiach, peryglus neu annymunol. Felly, y mae rheoli bwydydd anifeiliaid, gwrtaith, plaleiddiad a lefelau ychwanegion yn elfen bwysig o ddiogelwch bwyd.

Ffurflen Gofrestru Cymysgu Bwyd

  • Sicrhau bod nwyddau a werthir i ddefnyddwyr yn ddiogel (diogelwch cynhyrchion)
  • Gwerthiant a gyfyngir yn ôl oedran
  • Sicrhau y caiff ffrwydron, gan gynnwys tân gwyllt, eu storio'n ddiogel

Gwerthu dan oedran

Drwy'r Deyrnas Unedig, mae gan y Safonau Masnach gyfrifoldeb dros weithredu deddfwriaeth gwerthu dan oedran sy'n cyfyngu ar yr oedran y gall pobl ifanc brynu rhai nwyddau, megis sigaréts, fideos a DVD'au, tân gwyllt, cyllyll ac alcohol.

Y mae gwerthu alcohol dan gyfyngiad oedran yn gyfrifoldeb sy'n cael ei rannu gan Safonau Masnach a'r heddlu. Y mae'r heddlu yn gyfrifol am weithredu'r gyfraith yng nghyswllt gwerthu alcohol a gyfyngir yn ôl oedran mewn eiddo trwyddedig, ee tafarndai a chlybiau, ac y mae Safonau Masnach yn gyfrifol am werthu alcohol mewn Siop Drwyddedig.

Rydym yn cynnal archwiliadau rheolaidd ac rydym y rhoi cyngor a chanllawiau i fusnesau. Rydym hefyd yn profi nwyddau drwy eu prynu er mwyn sicrhau bod busnesau yn gweithredu o fewn y gyfraith ac nad ydynt yn gwerthu cynhyrchion a gyfyngir yn ôl oedran i blant dan oed.

Sut y gallaf adrodd gwerthiannau dan oed o nwyddau cyfyngedig i blant?

Mae'n rhwystredig ar gyfer busnesau sy'n parchu'r gyfraith i weld eraill yn ôl pob golwg yn diystyru'r gyfraith.

Os ydych yn credu bod gwerthiant dan oed yn digwydd mewn mannau eraill, gallwch roi gwybod am y mater i ni yn gyflym ac yn ddienw drwy gysylltu â Gwasanaethau i Ddefnyddwyr gan Cyngor ar Bopeth ar 0808 223 1133.

Trwy ddarparu'r wybodaeth angenrheidiol (hy enw siop, lleoliad, pan fydd y gwerthiant ddigwyddodd, ayyb), bydd y wybodaeth yn cael ei throsglwyddo atom ni i edrych mewn i'r peth ymhellach.

Oedran Ieuengaf I Brynu Cynhyrchion Penodol

Diogelwch Cynnyrch

Os y'u bwriedir ar gyfer llogi neu eu gwerthu yn newydd neu ail law, y mae'n rhaid i gynhyrchion fod yn ddiogel. Ceir ystod eang o Reoliadau sy'n rheoli diogelwch cynhyrchion i ddefnyddwyr, o deganau, dodrefn, nwyddau trydanol a hyd yn oed deunyddiau adeiladau. Mae swyddogion yn ymweld ag eiddo cynhyrchu, cyfanwerthu ac adwerthu er mwyn archwilio nwyddau a chymryd samplau i'w profi er mwyn sicrhau bod yr eitemau yn ddiogel. Rydym hefyd yn cynnal hapwiriadau mewn gwerthiannau cist car a marchnadoedd Sul.

O fewn ein cylch gorchwyl diogelwch defnyddwyr, y mae hefyd gennym gyfrifoldeb dros:

Storio Ffrwydron a Gwenwyn

Rydym yn cynnal archwiliadau er mwyn sicrhau y caiff tân gwyllt a ffrwydron tebyg eraill, e.e. cetris drylliau, eu storio'n ddiogel mewn eiddo adwerthu a bod ganddynt drwydded i wneud hynny.

  • Atal honiadau ffals am gynhyrchion a gwasanaethau
  • Sicrhau y ceir awyrgylch fasnach deg i bob busnes
  • Sicrhau na chaiff credyd ei gynnig ond gan fasnachwyr trwyddedig

Y mae'r maes hwn o weithredu'r gyfraith yn ymdrin ag ystod eang iawn o faterion sy'n ymwneud â thwyllo defnyddwyr gan gynnwys nwyddau a gwasanaethau nad ydynt wedi eu disgrifio'n gywir, problemau credyd defnyddwyr, prisiau camarweiniol a ffugio. Y mae unrhyw arferion masnachu y cânt eu hystyried yn dwyllodrus neu annheg hefyd yn syrthio i'r categori hwn.

Rydym yn cadw golwg ar y farchnad, cynnal archwiliadau, ymchwilio i gwynion a rhoi cyngor i fusnesau er mwyn sicrhau eu bod yn cydymffurfio â deddfwriaeth.

Disgrifiadau Masnach

Mae'r ddeddfwriaeth hon yn sicrhau y caiff unrhyw nwyddau neu wasanaethau eu disgrifio'n gywir. Y mae'n cwmpasu popeth, o wyliau na ddisgrifiwyd yn gywir i fasnachwr yn cymryd arnynt eu hunain i fod yn aelodau o gymdeithas fasnachu benedol.

Nwyddau Ffug

Ymddengys eu bod yn fargeinion, ond y mae nwyddau ffug, megis copïau o Gryno Ddisg siartiau neu feddalwedd cyfrifiadurol, heb eithriad, o ansawdd is na'r cynnyrch gwreiddiol. Yn achos persawrau a theganau ffug, ymddengys y gall y rhain fod yn beryglus hefyd.

Prisiau

Nod y ddeddfwriaeth hon yw sicrhau bod y pris a nodir ar gyfer nwyddau a gwasanaethau, gan gynnwys gostyngiadau mewn prisiau yn cael ei esbonio'n glir ac nad ydynt yn gamarweiniol.

I Ddefnyddwyr

Mae Safonau Masnach yn dymuno gweld defnyddwyr hyderus a gwybodus sy'n gwybod sut i chwilio am y fargen orau i gael yr hyn maent yn dymuno ei gael am y pris cywir a sut i osgoi masnachwyr twyllodrus. Mae cyngor a gwybodaeth dda yn hanfodol, yn ogystal â gwybod at bwy i droi am help.

Os oes gennych chi broblem fel defnyddiwr/wraig y teimlwch y dylem fod yn ymwybodol ohoni, neu os oes angen arnoch gyngor, yn syml iawn, er mwyn ceisio datrys problem o'ch pen a'ch pastwn eich hun ond nid ydych yn si r iawn beth yw eich hawliau fel defnyddiwr/wraig, gallwch gysylltu â ni mewn sawl ffordd.

Darparir cyngor i ddefnyddwyr yng Ngheredigion gan Cyngor ar Bopeth bellach. Fodd bynnag, byddant yn cyfeirio ymholiadau cymhleth neu'r rhai y mae angen cymryd camau pellach yn eu cylch, ymlaen at Safonau Masnach Ceredigion.

Cyswllt dros y Ffôn - Os hoffech siarad â chynghorydd am fater sy'n ymwneud â defnyddwyr, ffoniwch 0808 223 1133.

Gall siaradwyr Cymraeg gysylltu â Chyngor ar Bopeth ar 0808 223 1144.

Am daflenni cyngor defnyddiol i ddefnyddwyr, ewch i tudalennau cyngor ar ein gwefan ni.

I Fusnesau

Os ydych yn fusnes sydd wedi hen sefydlu neu os ydych yn ystyried sefydlu busnes, efallai y bydd angen cyngor fel y byddwch yn gwybod beth yw’r ddeddfwriaeth berthnasol sy’n ymwneud a meysydd megis cyfreithlonrwydd cynhyrchion, gwasanaethau, pecynnu, labeli a hysbysebu (gweler yr adrannau am Fesureg Gyfreithiol, Masnachu Teg, Amddiffyn Defnyddwyr a Diogelwch Cynhyrchion, Safonau Bwyd ac Amaeth).

Os ydych yn fusnes yng Ngheredigion sy’n chwilio am gyngor neu gwybodaeth ynglyn â sut i gydymffurfio gyda’r gyfraith, oherwydd prinder staff, ni allwn ddarparu’r gwasanaeth cynghori yma ar hyn o bryd.

Fodd bynnag, efallai y cewch y cyngor neu’r gwybodaeth sydd ei hangen arnoch trwy gwefan Business Companion.

Os oes angen cyngor arnoch ynglyn âg anghydfod sifil, gallwch gael cyngor gan Gwasanaeth Defnyddwyr Cyngor ar Bopeth (gweler manylion uchod).