Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Newyddion Gwobrau Caru Ceredigion

Dathlu doniau eithriadol yng Ngheredigion – cyhoeddi enillwyr Gwobrau Caru Ceredigion 2025

Cynhaliwyd Gwobrau Caru Ceredigion 2025 neithiwr, 11 Rhagfyr, ar gampws Llanbedr Pont Steffan, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, a dathlwyd cyfraniadau a chyflawniadau eithriadol busnesau, prosiectau cymunedol ac unigolion ledled y sir.

Wedi'i drefnu o dan faner Caru Ceredigion, derbyniwyd dros 110 o geisiadau ar gyfer y gwobrau a oedd yn cynnwys rhai categorïau newydd eleni, gyda 40 yn ymddangos ar y rhestrau byr ar draws 12 categori. Roedd y digwyddiad yn noson o ddathlu a chydnabod, a welodd Cynghorwyr Sir, swyddogion, cynrychiolwyr o bob cwr o'r byd busnes a grwpiau cymunedol yn anrhydeddu'r ymdrechion a'r cyflawniadau eithriadol o fewn y sir.

Dywedodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion: “Mae Gwobrau Caru Ceredigion wedi dangos gwir ysbryd a chynhwrf ein cymunedau. Mae gweld cynifer o unigolion, grwpiau a busnesau yn cael clod am eu hymroddiad a’u harloesedd yn fy atgoffa i bam y mae’r gwobrau hyn mor hanfodol. Nid wrth gydnabod llwyddiant yn unig - ond maent hefyd yn ysbrydoli llwyddiant. Boed hynny’n grŵp cymunedol sy’n rhoi bywyd newydd i neuadd bentref, entrepreneur ifanc yn lansio menter feiddgar newydd, neu ddigwyddiad sy’n dod â chymdogion ynghyd, mae’r gwobrau hyn yn cadarnhau’r ymdrechion eithriadol sy’n cael eu gwneud bob dydd. Mae gweld cymaint o straeon anhygoel yn cael eu rhannu neithiwr yn ein hatgoffa faint y gellir ei gyflawni pan fyddwn yn gweithio gyda’n gilydd.”

Grŵp o 4 o bobl yn derbyn gwobr

Cynhaliwyd y noson gan gyflwynydd S4C Daf Wyn ac newyddiadurwr ITV Cymru Wales Nest Jenkins, sydd ill dau yn dod o'r sir. Crëwyd y tlysau crefftus a gyflwynwyd i bob enillydd gan fyfyrwyr dodrefn Blwyddyn 2 a 3 Coleg Ceredigion, ynghyd â'r brif wobr gan y gof o Lanbedr Pont Steffan, Alec Page.

Un o uchafbwyntiau'r seremoni oedd cyflwyno Gwobr Caru Ceredigion, a aeth i Aber Cycle Fest, sef yr enillydd cyffredinol ar draws y gwahanol gategorïau.

Yn ei 12fed flwyddyn, mae Aber Cycle Fest wedi tyfu i fod yn un o ddathliadau beicio mwyaf disgwyliedig Cymru, gan ddenu beicwyr elitaidd ac ymwelwyr brwd o bob cwr o’r byd. Roedd gŵyl 2025 yn cynnwys rasys cyffrous yn Aberaeron ac Aberystwyth, gan drawsnewid ein trefi yn ganolfannau bywiog o ragoriaeth chwaraeon ac ysbryd cymunedol. Mae’r ŵyl wedi tanio angerdd am feicio ymhlith y genhedlaeth iau. Mae’r dylanwad hwn yn amlwg yn llwyddiant talentau lleol fel y brodyr Tarling, Stevie Williams, a Lowri Richards, sy’n gwneud eu marc ar y llwyfan byd-eang. Mae eu cyflawniadau’n adlewyrchu effaith barhaol yr ŵyl a’i rôl wrth feithrin uchelgais a chyfleoedd. Y tu hwnt i’r rasys, mae Aber Cycle Fest yn meithrin ymdeimlad o falchder a chydlyniant, gan arddangos Ceredigion ar ei orau. Mae’n dangos sut y gall chwaraeon gryfhau bondiau cymunedol, hyrwyddo ffyrdd o fyw iach, a gosod ein sir yn gadarn ar y map fel cyrchfan ar gyfer digwyddiadau o safon byd.

Categori newydd eleni o fewn y gwobrau oedd Caru’ch Cymuned a roddodd gyfle i gymunedau gael eu cydnabod a’u dathlu am eu hysbryd cymunedol yng Ngheredigion. Roedd saith cais i gyd; o bentrefi bach, pentrefi a threfi, a dyfarnwyd Gwobr Efydd iddynt i gyd fel cydnabyddiaeth o’u hymdrech a’u hymrwymiad i ymfalchïo yn lle maent yn byw.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol a’r enillwyr drwy ymweld â tudalen Gwobrau Caru Ceredigion 2025.

Cyhoeddi rhestr fer Gwobrau Caru Ceredigion 2025

18 Tachwedd 2025

Mae rhestr fer Gwobrau Caru Ceredigion 2025 wedi’i gyhoeddi yn swyddogol, gyda ystod drawiadol o gystadleuwyr yn y rownd derfynol yn cynrychioli 12 categori.

Mae’r gwobrau yn ddathliad o gyfraniadau a llwyddiannau eithriadol busnesau, prosiectau cymunedol, ac unigolion ar draws y sir.

Ar ôl derbyn ymateb anhygoel o dros 110 o geisiadau, mae’r enwebeion ar y rhestr fer yn amrywio o brosiectau cymunedol, gwirfoddolwyr gweithgar a digwyddiadau sydd wedi cael effaith gadarnhaol ar eu cymunedau lleol, i rai o’r busnesau blaenllaw ac arloesol sy’n llwyddo i roi Ceredigion ar y map.

Roedd y panel o feirniaid wedi eu plesio’n fawr gan ansawdd a nifer y ceisiadau ar gyfer y gwobrau s’yn tynnu sylw at y talent, yr arloesedd a’r gwytnwch o fewn cymunedau, mudiadau a busenesau Ceredigion.

Bydd yr enillwyr yn cael eu datgelu mewn seremoni ar 11 Rhagfyr. O dan arweiniad cyflwynydd S4C, Dafydd Wyn Rees a newyddiadurwraig ITV Cymru Wales, Nest Jenkins, mae’r noson yn argoeli i fod yn ddathliad ac yn gydnabyddiaeth o’r cyfraniadau unigryw ac eithriadol mae pob un ohonynt wedi’u gwneud i economi a chymunedau Ceredigion.

Dywedodd y Cynghorydd Clive Davies, Aelod Cabinet dros Economi ac Adfywio: “Bu ymateb anhygoel i Wobrau Caru Ceredigion eleni, gyda chymaint o geisiadau yn gwneud creu’r rhestr fer yn her wirioneddol i’r beirniaid. Mae’r rhestr fer eleni'n adlewyrchu’r talent, yr arloesedd a’r cydweithrediad cymunedol eithriadol ar draws Ceredigion. Llongyfarchiadau i bawb sydd wedi llwyddo i gyrraedd y cam nesaf. Rydym bellach yn edrych ymlaen at y noson sy’n argoeli i fod yn llwyddiant gwirioneddol.”

Mae rhestr lawn o'r cwmnïau ar y rhestr fer i'w gweld ar y tudalen Gwobrau Caru Ceredigion 2025.

Ceisiadau nawr ar agor ar gyfer Gwobrau Caru Ceredigion 2025

Yn dilyn llwyddiant Gwobrau Caru Ceredigion a gynhaliwyd am y tro cyntaf y llynedd, bydd y gystadleuaeth yn cael ei chynnal eto eleni yn 2025 gyda chategorïau newydd sbon.

Mae Gwobrau Caru Ceredigion yn gyfle i ddathlu cyfraniadau a llwyddiannau eithriadol busnesau a phrosiectau cymunedol ac unigolion ar draws y sir.

Cynhelir y seremoni wobrwyo eleni yng Nghanolfan Lloyd Thomas, Campws Llanbedr Pont Steffan, Prifysgol y Drindod Dewi Sant ar nos Iau, 11 Ragfyr 2025.

Bydd 12 categori, yn amrwyio o arloesedd ac ysbrydoliaeth o fewn ein cymunedau, i entrepreneriaeth a diwgyddiadau, neu funsesau sy’n rhoi Ceredigion ar y map. Yn ogystal â hyn, uchafbwynt y seremoni fydd cyflwyno prif wobr Gwobrau Caru Ceredigion 2025 i’r enillydd cyffredinol o blith y categorïau amrywiol.

Mae ceisiadau ar gyfer y gwobrau nawr ar agor a gallwch gael gwybodaeth am y categorïau amrywiol, yn ogystal â gwybodaeth am sut i enwebu ac ymgeisio ar ein gwefan.

Y dyddiad cau ar gyfer enwebiadau yw hanner nos dydd Llun, 03 Tachwedd 2025.

Dywedodd y Cynghorydd Clive Davies, Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion ar gyfer Economi ac Adfywio: “Mae cymaint o fusnesau llewyrchus, grwpiau cymunedol gweithgar, a digwyddiadau o’r radd flaenaf yn cael eu cynnal yma yng Ngheredigion. Dyma’r cyfle i'w dathlu a’u clodfori. Os ydych chi’n gyfrifol am un o’r rhain, neu’n adnabod rhywun sy’n haeddu ennill un o Wobrau Caru Ceredigion, ewch ati i'w henwebu nawr. Mae’n argoeli i fod yn noson i'w chofio, ac mae’r statws sy’n dod gyda’r gwobrau hyn yn rhoi hwb a chydnabyddiaeth ychwanegol i fusnesau a mudiadau nodedig ein sir.”

I fod yn gymwys am unrhyw gategori, rhaid i gymunedau a busnesau fod yn gweithredu neu fod â lleoliad corfforol yng Ngheredigion, gydag unrhyw weithgareddau perthnasol sy’n rhan o'r cais wedi'u cynnal rhwng 1af o Dachwedd 2024 tan 1af o Rhagfyr 2025.

Mae'r digwyddiad yn cael ei drefnu gan Cynnal y Cardi o dan faner Caru Ceredigion. Mae Caru Ceredigion yn ymgyrch sy'n cael ei llywio gan y gymuned gyda'r nod o feithrin ymdeimlad o falchder yn y sir, gan annog pobl i gymryd rhan mewn gweithgareddau sy'n gwella'r amgylchedd, yn cefnogi busnesau lleol ac yn cryfhau'r gymuned.

Mae Cynnal y Cardi, a ariennir drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, yn gweithio i helpu i hybu'r economi a mynd i'r afael â rhai o'r heriau sy'n wynebu pobl a mentrau, gan ganolbwyntio ar ddatblygu cyfleoedd i helpu'r economi i dyfu a ffynnu.