Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Gwobr Digwyddiad y Flwyddyn

Mae’r wobr hon yn agored i sefydliadau/busnesau/unigolion sydd wedi trefnu digwyddiad yng Ngheredigion yn 2026 sydd wedi cael effaith ehangach ar y sir, drwy ddenu mwy o ymwelwyr i’r ardal, cael effaith economaidd gadarnhaol a chodi proffil Ceredigion.

Mae'r beirniaid yn chwilio am dystiolaeth eich bod wedi:

  • Cynyddu nifer yr ymwelwyr i'r ardal
  • Trefnu digwyddiad sydd wedi manteisio ar adnoddau naturiol a threftadaeth Ceredigion
  • Mynd ati i godi arian
  • Ymgysylltu a gwneud gwahaniaeth i unigolion, cymunedau, a'r economi leol
  • Wedi cael effaith economaidd gadarnhaol ar y sir

Cwestiynau ar gyfer y ffurflen Enwebu:

  1. Rhowch ddisgrifiad byr o bwy ydych chi
  2. Disgrifiwch y digwyddiad a'i amcanion
  3. Pa effaith mae'r digwyddiad wedi'i chael ar y gymuned / ardal ehangach Ceredigion - nifer yr ymwelwyr ac ati?
  4. Sut mae'r digwyddiad wedi cyfrannu at Strategaeth “Rhoi Hwb i Economi Ceredigion”?
  5. Unrhyw sylwadau eraill i ategu eich cais?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â chystadlu yn y categori hwn, anfonwch e-bost at gwobrauceredigion@technegol.co.uk.

Argymhellir eich bod yn creu ac yn cadw eich cais mewn dogfen ar wahân cyn copïo a gludo'ch ceisiadau i'r ffurflen gais isod. Bydd hyn yn rhoi mwy o hyblygrwydd i chi o ran golygu eich cais a sicrhau nad oes dim yn cael ei golli cyn ei gyflwyno.

Ffurflen gais Gwobr Digwyddiad y Flwyddyn