Skip to main content

Ceredigion County Council website

Gwobr Entrepreneur Ifanc

Nod y wobr hon yw cydnabod unigolion ifanc sydd wedi dangos yr awydd i lwyddo gyda’u syniadau eu hunain ac wedi meddu ar yr uchelgais i droi’r syniadau hynny’n fusnes llwyddiannus. Mae'r wobr hon yn agored i unigolion 30 oed ac iau.

Mae'r rhain yn cynnwys entrepreneuriaid ifanc sy'n adeiladu eu menter eu hunain neu'r gweithwyr hynny sydd wedi cael effaith eithriadol wrth gyfrannu at lwyddiannau sefydliad mwy.

Mae'r beirniaid yn chwilio am dystiolaeth eich bod wedi:

  • Dangos uchelgais, egni, sgil, a gweledigaeth mewn busnes
  • Cael llwyddiannau busnes diriaethol
  • Goresgyn rhwystrau a/neu gwrdd â heriau busnes o ran cynhyrchion neu ffyrdd o weithio
  • Arwain ac ysbrydoli eraill
  • Dangos perfformiad ariannol da
  • Dangos potensial twf a/neu arallgyfeirio yn y dyfodol
  • Darparu gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol
  • Ymgysylltu â'ch cymuned leol
  • Cofleidio sgiliau personol/technoleg i hyrwyddo eich sefydliad

Mae’r categori yn agored i bawb sy’n teimlo eu bod yn gwneud gwahaniaeth i gymuned fusnes Ceredigion. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â chystadlu yn y categori hwn, anfonwch e-bost at ce.cynnalycardi@ceredigion.gov.uk.

Argymhellir eich bod yn creu ac yn cadw eich cais mewn dogfen ar wahân cyn copïo a gludo'ch ceisiadau i'r ffurflen gais isod. Bydd hyn yn rhoi mwy o hyblygrwydd i chi o ran golygu eich cais a sicrhau nad oes dim yn cael ei golli cyn ei gyflwyno.

Ffurflen Enwebu Gwobr Entrepreneur Ifanc