Skip to main content

Ceredigion County Council website

Gwobr Darganfod Ceredigion

Mae'r wobr hon yn agored i fusnesau Ceredigion yn y sector twristiaeth a lletygarwch sydd wedi bod yn llwyddiannus wrth hybu'r diwydiant twristiaeth yn y Sir. Mae hyn yn cynnwys ymrwymiad eithriadol i ddarparu profiad rhagorol i ymwelwyr, twristiaid neu deithwyr busnes.

Bydd y beirniaid yn chwilio am dystiolaeth eich bod wedi:

  • Helpu i gynyddu nifer yr ymwelwyr
  • Cyfrannu'n sylweddol at yr economi leol
  • Codi proffil Ceredigion
  • Dangos gwasanaeth cwsmeriaid eithriadol
  • Cyflwyno atyniadau neu wasanaethau newydd neu arloesol
  • Cyfrannu at y defnydd o dechnoleg ddigidol

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â chystadlu yn y categori hwn, anfonwch e-bost at ce.cynnalycardi@ceredigion.gov.uk.

Argymhellir eich bod yn creu ac yn cadw eich cais mewn dogfen ar wahân cyn copïo a gludo'ch ceisiadau i'r ffurflen gais isod. Bydd hyn yn rhoi mwy o hyblygrwydd i chi o ran golygu eich cais a sicrhau nad oes dim yn cael ei golli cyn ei gyflwyno.

Ffurflen Enwebu Gwobr Darganfod Ceredigion