Skip to main content

Ceredigion County Council website

Gwobr Bwyd-amaeth

Mae'r wobr hon yn agored i fusnesau sy'n gweithio yn y sectorau bwyd neu amaethyddiaeth yng Ngheredigion ac sy’n gallu dangos sut mae'r busnes wedi cael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd gwyrdd, yr economi leol, a/neu'r gymuned.

Bydd y beirniaid yn chwilio am dystiolaeth eich bod wedi:

  • Wedi tyfu’r busnes yn ddiweddar
  • Dod â chynnyrch newydd i'r farchnad yn llwyddiannus
  • Dod o hyd i atebion arloesol i heriau
  • Cael effaith gadarnhaol ehangach
  • Dangos arferion ffermio adfywiol sydd wedi cael effaith gadarnhaol

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â chystadlu yn y categori hwn, anfonwch e-bost at ce.cynnalycardi@ceredigion.gov.uk.

Argymhellir eich bod yn creu ac yn cadw eich cais mewn dogfen ar wahân cyn copïo a gludo'ch ceisiadau i'r ffurflen gais isod. Bydd hyn yn rhoi mwy o hyblygrwydd i chi o ran golygu eich cais a sicrhau nad oes dim yn cael ei golli cyn ei gyflwyno.

Ffurflen Enwebu Gwobr bwyd-amaeth