Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Asesiad Llety Sipsiwn a Theithwyr

Bydd yr ymgynghoriad hwn yn cau ar Orffennaf 31ain 2026.

Mae pobl Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn rhan o hanes Cymru. Maent wedi byw, gweithio a theithio yma ers cannoedd o flynyddoedd.

Heddiw, mae pobl Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn cael eu cydnabod fel grwpiau ethnig a ddiogelir gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Mae rhai yn byw mewn tai neu safleoedd parhaol, tra bod eraill yn parhau i deithio. Mae Deddf Tai (Cymru) 2014 yn dweud bod yn rhaid i Gynghorau ddeall a chynllunio ar gyfer anghenion llety pobl Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn eu hardal.

Os ydych chi'n aelod o'r gymuned Sipsiwn, Roma neu Deithwyr, llenwch ein holiadur.

 

Sut i rannu eich barn

Cwblhewch arolwg ar-lein - Asesiad Llety Sipsiwn a Theithwyr

Lawrlwythwch gopi papur - Gopi papur Asesiad Llety Sipsiwn a Theithwyr

Os byddai'n well gennych siarad â rhywun yn bersonol, cysylltwch â Fabian Jones trwy e
bost: Fabian.Jones@ceredigion.gov.uk neu ffoniwch fe ar 07980 698954. 

 

Gallwch hefyd ofyn am gopi papur o’ch llyfrgell neu ganolfan hamdden leol drwy ffonio ni ar 01545 570 881 neu e-bostiwch clic@ceredigion.gov.uk.

Dychwelwch yr holiadur at: Fabian Jones, Swyddog Safonau Tai, Cyngor Sir Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron SA46 0PA.

Neu, gallwch ei dychwelyd i’ch Llyfrgell neu Ganolfan Hamdden leol a byddant yn ei anfon 
at Fabian. 

Os hoffech dderbyn y wybodaeth mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni ar 01545 570 881 neu e-bostiwch clic@ceredigion.gov.uk.

 

Hysbysiad Preifatrwydd 

Mae'r wybodaeth rydych chi'n ei darparu yn cael ei phrosesu gan Gyngor Sir Ceredigion, yn unol â gofynion y GDPR a'r Ddeddf Diogelu Data.  

I gael rhagor o wybodaeth, gweler Hysbysiad Preifatrwydd y Cyngor ar ein gwefan: Hysbysiad Preifatrwydd Ymgynghoriadau Awdurdodau Lleol - Cyngor Sir Ceredigion. 

 

Diolch

Bydd eich atebion yn ein helpu i ddeall a chynllunio ar gyfer anghenion llety pobl Sipsiwn, Roma a Theithwyr yng Ngheredigion.