Strategaeth Hybu'r Iaith Gymraeg
Diben y Strategaeth hon yw i ddangos ymrwymiad y Cyngor i hybu a hyrwyddo'r iaith ar draws y Sir gan amlinellu ein gweledigaeth ar gyfer cynyddu'r defnydd o'r Gymraeg yng Ngheredigion. Y mae'r cynlluniau a'r prosiectau a amlinellir yn canolbwyntio ar feysydd lle y mae gan y Cyngor ddylanwad megis gweithlu'r Cyngor, byd addysg, gwaith Cered ac ati.