Gweithgareddau i bob oed yng Ngheredigion
Mae Ceredigion yn fwrlwm o weithgareddau gydol y flwyddyn. Ry’n ni’r Cardis yn gwybod sut i gael hwyl, ac ry’n ni’n barod i ddathlu popeth, o’n ceffylau cynhenid a’r macrell di-nod i gerddorion ac artistiaid o fri. Mae bwyd a cherddoriaeth dda yn rhan annatod o’n bywyd cymdeithasol ac mae digon i'w rannnu gyda pawb.
Os ydych chi’n ymwybodol o unrhyw ddigwyddiad arall sy’n hybu’r Gymraeg yng Ngheredigion mae croeso i chi gysylltu â carys.lloyd-jones@ceredigion.gov.uk.