Yr Iaith Gymraeg yng Ngheredigion
Croeso i dudalen we “Gwefan y Gymraeg yng Ngheredigion”
“Rydym am weld y Gymraeg a Chymreictod yn perthyn i bob un yng Ngheredigion ac yn destun balchder ymysg holl drigolion y sir.”
Mae Ceredigion yn un o gadarnleodd pwysicaf yr iaith Gymraeg a chymunedau dwyieithog. Mae unigolion, mudiadau a chyrff o bob sector yn chwarae rhan allweddol mewn hybu statws y Gymraeg ac mewn ceisio cynnal y defnydd o'r iaith ym mhob agwedd ar fywyd.
Mae ‘Gwefan y Gymraeg’ am sicrhau bod holl drigolion Ceredigion yn ymwybodol o’r ddiwylliant a’r cyfleoedd sydd ar gael iddynt ddefnyddio’r Cymraeg.
Wrth bori drwy’r wefan mae modd dysgu am y cyfleodd sydd ar gael i blant, pobl ifanc, oedolion a theuluoedd i ddysgu a defnyddio’r Gymraeg yn yr ysgol, yn y gwaith, mewn busnesau ac mewn gweithgareddau hamdden.
Rydym wedi gosod nifer sylweddol o feysydd gwaith cysylltiol, lle mae cyfle gan y Cyngor a’i bartneriaid i weithredu er mwyn cynnal y defnydd o’r Gymraeg;
- Rydym eisiau gweld pawb o fewn y Sir yn rhoi gwerth a bri i’r Gymraeg fel iaith gymunedol fyw
- Rydym am weld defnydd cynyddol ohoni ym mhob agwedd o fywyd cyhoeddus yn y sir; lle mae modd i drigolion fyw, dysgu, perthyn a llwyddo trwy gyfrwng y Gymraeg
- Rydym am sicrhau bod defnydd o’r Gymraeg yn cael ei hybu’n gwbl naturiol, a bod yr iaith Gymraeg yn cael ei diogelu er mwyn i genedlaethau’r dyfodol ei defnyddio a’i mwy