Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Beth yw twyll?

“Mae twyll yn weithgarwch troseddol lle caiff ei ddefnyddio er budd personol neu i achosi colled.”

Mae biliynau o bunnoedd yn cael eu colli bob blwyddyn i dwyll ar draws Sector Cyhoeddus y Deyrnas Unedig. Pam mae hyn yn bwysig? Oherwydd bod pob punt a gollwyd i dwyll yn bunt yn llai y gellir ei gwario ar ddarparu gwasanaethau. Mae cyflawni twyll yn erbyn y Cyngor yn effeithio'n uniongyrchol ar y gwasanaethau a ddarperir i drigolion Ceredigion.

Mae gan Gyngor Sir Ceredigion ddyletswydd i'r cyhoedd i ddiogelu arian y dylid ei ddefnyddio er budd y cyhoedd. Ac felly, mae ganddo bolisi dim goddefgarwch tuag at dwyll a llygredd. Mae ein Strategaeth Gwrth-dwyll i'w gweld yma.

Gallwch ein helpu i atal a chanfod twyll trwy roi gwybod amdano. Er bod gan y Cyngor reolaethau gwrth-dwyll ar waith i atal a chanfod twyll, mae tua 30% o dwyll yn cael ei ddatgelu gan staff, aelodau o'r cyhoedd neu 3ydd partïon.

Enghreifftiau o dwyll

  • Dweud celwydd am amgylchiadau i gael nwyddau, gwasanaethau, gostyngiadau, esemptiadau neu grantiau.
  • Twyll Hunaniaeth neu roi gwybodaeth neu ddogfennau ffug.
  • Peidio â rhoi'r holl wybodaeth i'r Cyngor a allai effeithio ar gais neu hawliad.
  • Methu â rhoi gwybod am newidiadau mewn amgylchiadau yn anonest pan fo gofyniad cyfreithiol i wneud hynny.
  • Dwyn neu gamddefnyddio adnoddau'r Cyngor – mae hyn yn cynnwys arian parod, storfeydd, offer, cerbydau, neu adeiladau.
  • Camddefnyddio mewn ymarferion caffael, rhoi contractau, anfonebu, a gwneud taliadau.

Meysydd cyffredin o dwyll

  • Treth y Cyngor
  • Ardrethi Busnes
  • Twyll Gofal Cymdeithasol
  • Grantiau
  • Caffael
  • Comisiynu Gwasanaethau
  • Twyll Yswiriant
  • Cyflogres
  • Bathodynnau Glas

Sut olwg sydd ar dwyllwyr?

Yn anffodus, nid oes dim nodweddion adnabyddadwy i dwyllwr. Gallent fod yn aelodau o'r cyhoedd, cyflenwyr, contractwyr, rhywun cydnabyddus neu droseddwyr trefnedig. Gall unigolion fod yn cyflawni'r twyll drostynt eu hunain, yn cynorthwyo twyllwr neu'n cael eu gorfodi gan dwyllwyr ar y tu allan.

Beth fyddwn ni'n ei wneud os deuwn ni o hyd i dwyll?

Os rhowch chi wybod am dwyll a amheuir neu os ydym yn meddwl bod rhywun yn cyflawni twyll yn erbyn y cyngor, byddwn yn ymchwilio iddynt. Mae gan y Cyngor swyddogion a hyfforddwyd sy'n gallu cynnal ymchwiliadau twyll, neu mewn rhai amgylchiadau byddwn yn cyfeirio'r ymchwiliad at ymchwilydd allanol neu'r Heddlu.

Os deuwn ni o hyd i dystiolaeth i brofi bod person yn cyflawni twyll, efallai y cânt eu herlyn. Gall Swyddogion y Cyngor fod yn destun achos disgyblu ac efallai caiff Cynghorwyr eu cyfeirio at Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

Mewn unrhyw achos, rydym bob amser yn ceisio adennill unrhyw golledion ariannol neu faterol.

Beth i'w wneud os ydych chi'n amau bod rhywun yn cyflawni twyll?

Os ydych chi'n gwybod neu'n amau bod rhywun yn cyflawni twyll, rhowch wybod amdano cyn gynted â phosibl. Rhowch fanylion yn glir ac yn ffeithiol.

Gellir rhoi gwybod am dwyll a amheuir yn y ffyrdd canlynol:

E-bost: twyll@ceredigion.gov.uk   
Drwy'r post: Swyddog Adran 151, Neuadd y Cyngor Penmorfa, Aberaeron, Ceredigion, SA46 0PA.

Ar gyfer twyll Budd-daliadau a thwyll Treth y Cyngor, mae mwy o wybodaeth ar gael yma.

Gallwch roi gwybod am dwyll budd-daliadau a amheuir drwy:
E-bost: refeniw@ceredigion.gov.uk 
Drwy'r post: Adran Budd-daliadau, Neuadd y Cyngor Penmorfa, Aberaeron, Ceredigion, SA46 0PA