
Polisi ar y Defnydd o Ddeallusrwydd Artiffisial Cynhyrchol (GenAI)
Swyddog Arweiniol Corfforaethol, Cyswllt Cwsmeriaid, TGCh a Digidol
Cyhoeddwyd: 08/10/2025 Fersiwn 1.1
Pwrpas
Pwrpas y ddogfen bolisi hon yw darparu fframwaith ar gyfer defnyddio Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol, Dysgu Peirianyddol a Model Iaith Mawr yn ddiogel ac yn foesegol gan weithwyr a chynghorwyr Cyngor Ceredigion. Mae hyn yn cynnwys offer fel CoPilot, Bard, Bing neu ChatGPT ond mae llawer o offer eraill hefyd ar gael ac yn cael eu hymgorffori mewn setiau cynnyrch eraill.
Mae’r polisi hwn wedi’i gynllunio i sicrhau bod Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol yn cael ei ddefnyddio mewn modd moesegol, sy’n cydymffurfio â’r holl gyfreithiau, rheoliadau a pholisïau perthnasol y cyngor, ac yn ategu polisïau gwybodaeth a diogelwch presennol y Cyngor.
Mae’r cyflymder y mae Deallusrwydd Artiffisial yn cael ei ddatblygu a’i gymhwyso yn golygu bod angen adolygu’r polisi hwn yn rheolaidd. Os oes amheuaeth, dylai staff ymgynghori â'r Uwch Swyddog Risg Gwybodaeth (SIRO) neu'r Swyddog Diogelu Data (DPO).
Dylid darllen y polisi hwn ar y cyd â'r Polisi Diogelwch Gwybodaeth fersiwn 6.2 neu ddiweddarach.
1 Cwmpas
Mae'r polisi hwn yn berthnasol i'r holl weithwyr, contractwyr, ac unigolion trydydd parti sydd â mynediad at dechnolegau Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol neu sy'n ymwneud â defnyddio offer neu lwyfannau Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol ar ran Cyngor Sir Ceredigion, boed hynny trwy ddyfeisiau sy'n eiddo i'r cyngor neu beidio.
2 Defnydd
Gall defnyddwyr ddefnyddio Deallusrwydd Artiffisial at ddibenion sy'n gysylltiedig â gwaith, ar yr amod eu bod yn cydymffurfio â'r polisi canlynol. Mae hyn yn cynnwys tasgau megis cynhyrchu testun neu gynnwys ar gyfer adroddiadau, negeseuon e-bost, cyflwyniadau, delweddau a chyfathrebu’r gwasanaeth cwsmeriaid.
3 Llywodraethu
Cyn cyrchu Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol, rhaid i ddefnyddwyr hysbysu Tîm Llywodraethu Gwybodaeth a TGCh y cyngor yn gyntaf o'u bwriad i’w ddefnyddio, y rheswm dros ei ddefnyddio, y wybodaeth y disgwylir ei mewnbynnu, yn ogystal â'r allbwn a gynhyrchir a rhannu’r cynnwys.
RHAID cwblhau Asesiad o'r Effaith ar Ddiogelu Data ar ddechrau'r prosiect.
Dylid ystyried y materion llywodraethu canlynol.
Gwerthwyr
Dylid cydnabod polisïau, arferion, telerau ac amodau datblygwyr/gwerthwyr yn llawn gydag unrhyw ddefnydd o dechnoleg Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol wrth gyflawni gweithgareddau'r cyngor.
Hawlfraint
Rhaid i ddefnyddwyr lynu at ddeddfwriaeth hawlfraint wrth ddefnyddio Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol, Dysgu Peirianyddol a Modelau Iaith Mawr. Gwaherddir defnyddio Deallusrwydd Artiffisial i gynhyrchu cynnwys sy'n torri hawliau eiddo deallusol eraill, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i ddeunydd sy’n destun hawlfraint.
Os yw defnyddiwr yn ansicr a yw defnydd penodol o Ddeallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol yn torri hawlfraint, dylent geisio cyngor cyfreithiol neu gysylltu â'r Ddesg Wasanaeth TGCh cyn ei ddefnyddio.
Cywirdeb
Rhaid adolygu a golygu pob gwybodaeth a gynhyrchir gan Ddeallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol i sicrhau ei chywirdeb cyn ei defnyddio. Mae defnyddwyr Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol yn gyfrifol am adolygu'r allbwn ac yn atebol am sicrhau cywirdeb yr allbwn a gynhyrchir gan Ddeallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol cyn ei ddefnyddio neu ei ryddhau.
Cyfrinachedd
Ni ddylid defnyddio gwybodaeth gyfrinachol na gwybodaeth bersonol mewn promptiau nac mewn data a ddefnyddir i hyfforddi unrhyw offer Deallusrwydd Artiffisial cyhoeddus. Rhaid i'r defnydd o Ddeallusrwydd Artiffisial mewn unrhyw broses fusnes sy'n ymdrin â gwybodaeth bersonol gydymffurfio â GDPR y DU a Deddf Diogelu Data 2018 yn ogystal â holl bolisïau'r sefydliad.
Rhaid cynnal Asesiad llawn o’r Effaith ar Ddiogelu Data, adolygu hysbysiadau preifatrwydd ac ymgynghori â’r Swyddog Diogelu Data ar gyfer unrhyw ddefnydd newydd neu newid i brosesu.
Defnydd Moesegol
GRhaid defnyddio Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol, Dysgu Peirianyddol a Modelau Iaith Mawr yn foesegol ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, rheoliadau a pholisïau’r sefydliad. Ni ddylai defnyddwyr ddefnyddio Deallusrwydd Artiffisial i gynhyrchu cynnwys sy’n wahaniaethol, yn sarhaus neu’n amhriodol.
Os oes unrhyw amheuaeth ynghylch priodoldeb defnyddio Deallusrwydd Artiffisial mewn sefyllfa benodol, dylai defnyddwyr ymgynghori â'r Ddesg Wasanaeth TGCh.
Datgelu
Rhaid nodi a datgelu cynnwys a gynhyrchir yn bennaf gan Ddeallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol fel y cyfryw.
Gellir priodoli cynnwys a gynhyrchir gyda rhywfaint o gymorth gan Ddeallusrwydd Artiffisial, sydd wedi cael ei adolygu’n llawn a’i ddiwygio’n sylweddol, i’r perchennog, heb fod angen datgan bod Deallusrwydd Artiffisial wedi cael ei ddefnyddio.
Mae hwn yn faes a fydd yn gweld arferion gorau yn datblygu dros amser. Os oes amheuaeth, dylech ddatgelu'r defnydd o Ddeallusrwydd Artiffisial a bod yn dryloyw ynghylch sut y cafodd ei ddefnyddio.
Enghreifftiau o droednodiadau a awgrymir:
-
- Cynhyrchwyd y ddelwedd hon gan Ddeallusrwydd Artiffisial.
- Cafodd y cynnwys hwn ei gefnogi gan Ddeallusrwydd Artiffisial. Mae’r awdur wedi adolygu’r holl gynnwys a chrëwyd gan ddefnyddio Deallusrwydd Artiffisial ac mae’r awdur yn cymryd cyfrifoldeb am y cynnwys hwn.
Integreiddio Ag Offer Eraill
Mae offer Rhyngwyneb Rhaglennu Cymwysiadau (API) ac ategyn (plugin) yn galluogi mynediad at Ddeallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol ac ymarferoldeb estynedig ar gyfer gwasanaethau eraill i wella allbynnau awtomeiddio a chynhyrchiant. Dylai defnyddwyr ddilyn arferion gorau'r diwydiant. Er enghraifft, Arferion Gorau o ran Diogelwch OpenAI:
-
- Profi gwrthwynebol
- Bod dynol yn y ddolen (Human in the loop) (HITL)
- Peirianneg Awgrymog
- “Adnabod eich cwsmer” (Know Your Customer)
- Cyfyngu mewnbwn defnyddwyr a chyfyngu tocynnau allbwn
- Caniatáu i ddefnyddwyr roi gwybod am broblemau
- Deall a chyfathrebu ynghylch cyfyngiadau
- Dynodyddion defnyddiwr terfynol
Rhaid profi Rhyngwyneb Rhaglennu Cymwysiadau (API) ac ategyn (plugin) yn drylwyr ar gyfer:
-
- Cymedroli – Sicrhau bod y model yn delio â mewnbynnau cas, gwahaniaethol, bygythiol ac ati yn briodol
- Ymatebion ffeithiol – darparu sylfaen o wirionedd ar gyfer y rhyngwyneb rhaglennu cymwysiadau ac adolygu’r ymatebion yn unol â hynny
Cofnodion Archwilio
RHAID i fecanweithiau gofnodi ac archwilio priodol fod ar waith i gofnodi gweithgareddau sy'n gysylltiedig â defnyddio Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol/ Dysgu Peirianyddol.
4 Risgiau
Mae defnyddio Deallusrwydd Artiffisial yn cynnwys risgiau cynhenid. Rhaid cynnal asesiad risg cynhwysfawr gyda'r tîm Diogelu Data a TGCh ar gyfer unrhyw brosiect neu broses lle cynigir defnyddio Deallusrwydd Artiffisial. Dylai'r asesiad risg ystyried effeithiau posibl gan gynnwys: Cydymffurfio â chyfreithiau; rhagfarn a gwahaniaethu; diogelwch (gan gynnwys diogelwch technegol ac ardystiadau diogelwch); a sofraniaeth a diogelu data.
Cydymffurfio â Chyfreithiau
Gall data a fewnbynnir i dechnoleg Deallusrwydd Artiffisial fynd i mewn i'r parth cyhoeddus. Gall hyn ryddhau gwybodaeth nad yw'n gyhoeddus a thorri gofynion rheoleiddio, contractau cwsmeriaid neu werthwyr, neu beryglu eiddo deallusol. Gall rhyddhau unrhyw wybodaeth breifat neu bersonol heb awdurdod perchennog y wybodaeth arwain at dorri deddfau diogelu data perthnasol. Gall defnyddio Deallusrwydd Artiffisial i gasglu cynnwys hefyd fynd yn groes i reoliadau ar gyfer amddiffyn hawliau eiddo deallusol.
Diogelwch
Gall Deallusrwydd Artiffisial storio data a gwybodaeth sensitif, a allai fod mewn perygl o gael eu torri neu eu hacio. Rhaid i'r cyngor asesu diogelwch technegol ac ardystio diogelwch Deallusrwydd Artiffisial cyn ei ddefnyddio.
RHAID i unrhyw ddigwyddiadau ynghylch diogelwch a amheuir neu a gadarnhawyd sy’n gysylltiedig â Deallusrwydd Artiffisial neu Ddysgu Peirianyddol gael eu hadrodd ar unwaith i'r Swyddog Diogelu Data neu'r Uwch Swyddog Risg Gwybodaeth.
Rhagfarn a Gwahaniaethu
Gall Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol ddefnyddio a chynhyrchu cynnwys rhagfarnllyd, gwahaniaethol neu sarhaus. Dylai defnyddwyr ddefnyddio Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol yn gyfrifol ac yn foesegol, yn unol â pholisïau'r cyngor a’r deddfau a’r rheoliadau perthnasol.
Sofraniaeth a Diogelu Data
Er y gellir lletya platfform Deallusrwydd Artiffisial yn rhyngwladol, o dan reolau sofraniaeth data, bydd y wybodaeth a grëir neu a gesglir yn y wlad wreiddiol yn parhau o dan awdurdodaeth deddfau’r wlad honno. Mae'r gwrthwyneb hefyd yn gymwys. Os caiff gwybodaeth ei chasglu gan ddefnyddio Deallusrwydd Artiffisial sydd wedi'i letya dramor, gall cyfreithiau'r wlad ffynhonnell ynghylch ei defnyddio a'i chyrchu fod yn gymwys. Dylid asesu darparwyr gwasanaeth Deallusrwydd Artiffisial ar gyfer arferion sofraniaeth data cyn eu defnyddio.
5 Cydymffurfio
Dylid adrodd am unrhyw achosion o fynd yn groes i’r polisi hwn i Ddesg Wasanaeth TGCh y cyngor neu uwch reolwyr. Gall methu â chydymffurfio â'r polisi hwn arwain at gamau disgyblu, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau'r cyngor.
6 Adolygu
Caiff y polisi hwn ei adolygu'n flynyddol gan yr Uwch Swyddog Risg Gwybodaeth a'i ddiweddaru yn ôl yr angen i sicrhau cydymffurfio parhaus â'r holl ddeddfwriaeth, rheoliadau a pholisïau’r sefydliad sy’n berthnasol.
Bydd y polisi yn cael ei adrodd i'r Cyngor bob 5 mlynedd neu pan wneir newidiadau sylweddol.