Skip to main content

Ceredigion County Council website

Gwybodaeth i ymgeiswyr ac asiantiaid

Is-etholiad Ward Tirymynach 2024

Cynhelir yr Is-etholiad ar gyfer Ward Tirymynach ddydd Iau, 17 Hydref 2024.

Etholiadau’r Cyngor Sir

Mae gan Gyngor Sir Ceredigion 38 Cynghorydd etholedig sy’n cynrychioli 34 ward etholiadol; mae 4 o'r wardiau hyn yn wardiau aml-aelod. Mae gan Ward Etholiadol Tirymynach un Gynghorydd.

Ward Etholiadol

Nifer y Cynghorwyr

Ward Etholiadol

Nifer y Cynghorwyr

Ceulan a Maesmawr

1

Llanfihangel Ystrad

1

Y Borth

1

Llansanffraid

1

Tirymynach

1

Aberaeron ac Aber-arth

1

Trefeurig

1

Ciliau Aeron

1

Melindwr

1

Ceinewydd a Llanllwchaearn

1

Llanfarian

1

Llannarth

1

Faenor

1

Llandysilio a Llangrannog

1

Llanbadarn Fawr

1

Llanbedr Pont Steffan

1

Aberystwyth Morfa a Glais

2

Llanwenog

1

Aberystwyth Penparcau

2

De Llandysul

1

Aberystwyth Rheidol

1

Gogledd Llandysul a Throed-yr-aur

1

Ystwyth

1

Llandyfrïog

1

Lledrod

1

Penbryn

1

Tregaron ac Ystrad-fflur

1

Beulah a Llangoedmor

2

Llanrhystud

1

Aberporth a’r Ferwig

2

Llangeitho

1

Mwldan

1

Llangybi

1

Teifi

1

Beth mae’r Cynghorau yn ei wneud?

Mae’r Cynghorau yn darparu ystod o wasanaethau i’w cymunedau. Mae rhai yn statudol sy’n golygu bod yn rhaid iddynt gael eu darparu. Mae’r rhain yn cynnwys casglu sbwriel a llyfrgelloedd. Mae eraill yn rheoleiddiol. Mae’n rhaid i’r rhain hefyd gael eu darparu ac maent yn cynnwys cynllunio a rheoli’r modd y mae tir ac eiddo’n cael eu datblygu, a thrwyddedu eiddo neu dacsis, er enghraifft. Yn olaf, mae gwasanaethau dewisol y bydd cynghorau efallai yn dewis eu darparu, megis hybu twristiaeth. 

Dyma rai enghreifftiau o’r hyn y mae’r Cyngor yn gyfrifol amdanynt:

  • Addysg - Ysgolion a chludiant i ysgolion
  • Tai - Strategaethau, cyngor, darpariaeth, a gweinyddu budd-daliadau
  • Gwasanaethau Cymdeithasol - Gofalu am blant, pobl hŷn a phobl anabl a’u diogelu
  • Priffyrdd a Thrafnidiaeth - Cynnal a chadw ffyrdd, rheoli a chynllunio trafnidiaeth, enwi strydoedd
  • Rheoli Gwastraff - Casglu sbwriel, ailgylchu a thipio anghyfreithlon
  • Gwasanaethau Hamdden a Diwylliannol - Llyfrgelloedd, amgueddfeydd, canolfannau hamdden a’r celfyddydau
  • Diogelu’r Defnyddiwr - Safonau Masnach
  • Gwasanaethau Amgylcheddol - Diogelwch bwyd, rheoli llygredd
  • Cynllunio - Cynllunio datblygu a rheoli datblygu
  • Datblygiad Economaidd - Denu busnesau newydd, hybu hamdden a thwristiaeth
  • Cynllunio ar gyfer Argyfwng - Rhag ofn y bydd argyfyngau megis llifogydd, afiechydon neu ymosodiadau gan derfysgwyr.

Er mwyn cael gwybodaeth bellach ynghylch rôl Cynghorydd a’r broses enwebu, dyma rai dolenni defnyddiol:

Sesiwn Friffio i Ymgeiswyr ac Asiantiaid 

Cynhelir sesiwn friffio i ymgeiswyr posibl ac asiantiaid cyn y cyhoeddir yr Hysbysiad o Etholiad. Cynhelir y sesiwn hon: 

ddydd Iau, 12 Medi 2024 am 5.30pm yn rhithiol dros Zoom:

https://ceredigion.zoom.us/s/81229479209

Er mwyn cael gwybodaeth bellach, cysylltwch â ni drwy e-bost swyddogcanlyniadau@ceredigion.gov.uk

Cynhelir sesiwn friffio bellach ar gyfer ymgeiswyr ac asiantiaid wedi i’r enwebiadau gau.

Y broses enwebu

Mae’r papurau enwebu ar gael ar wefan y Comisiwn Etholiadol

https://www.electoralcommission.org.uk/cy/rwyf-yneg-pleidleisiwr/ymgeisydd-neu-asiant/ymgeiswyr-ac-asiantau-mewn-etholiadau-lleol-yng-nghymru

Bydd y cyfnod enwebu rhwng dydd Gwener, 13 Medi a 4pm ddydd Gwener, 20 Medi 2024. 

Os dymunwch gyflwyno’r papurau enwebu wyneb yn wyneb, bydd yn rhaid gwneud apwyntiad. Gellir gwneud hyn drwy ffonio 01545 570881 neu drwy e-bostio swyddogcanlyniadau@ceredigion.gov.uk

Fel arall, gellir cyflwyno papurau enwebu yn electronig yn unol â’r trefniadau a amlinellir isod:

  • Mae’n rhaid cyflwyno’r papurau enwebu drwy anfon e-bost at swyddogcanlyniadau@ceredigion.gov.uk Ni fydd enwebiadau’n cael eu derbyn os byddant yn cael eu cyflwyno i gyfeiriad e-bost arall;
  • Dylai llinell bwnc yr e-bost nodi enw’r ymgeisydd yn glir;
  • Wedi i’r papurau gael eu derbyn, bydd e-bost yn cael ei anfon i gydnabod hynny. Ni fydd hyn yr e-bost hwn yn gadarnhad bod yr enwebiad yn ddilys;
  • Bydd e-bost pellach yn cael ei anfon naill ai yn cadarnhau bod yr enwebiad yn ddilys neu yn nodi fod problemau gyda’r wybodaeth a ddarparwyd;
  • Cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw sicrhau bod y papurau enwebu wedi’u cyflwyno a’u dilysu, erbyn dim hwyrach na 4.00pm ar 20 Medi 2024.

Swyddog Canlyniadau

Y Swyddog Canlyniadau yw Eifion Evans, Prif Weithredwr Cyngor Sir Ceredigion ac mae e’n gyfrifol am y canlynol:

  • Cyhoeddi’r hysbysiad o etholiad
  • Gweinyddu’r broses enwebu
  • Annog pobl i gymryd rhan
  • Cyhoeddi datganiad am y sawl a enwebwyd a’r hysbysiad o bleidlais
  • Darparu gorsafoedd pleidleisio a sicrhau bod y cyfarpar priodol ynddynt
  • Penodi staff i’r gorsafoedd pleidleisio
  • Cynnal yr etholiad
  • Rheoli’r broses bleidleisio drwy’r post
  • Dilysu a chyfrif y pleidleisiau
  • Datgan y canlyniadau.

Mae dau Ddirprwy Swyddog Canlyniadau, sef Barry Rees a Lowri Edwards a fydd yn cynorthwyo’r Swyddog Canlyniadau i gynnal yr etholiad yn unol â’r protocol a nodwyd.

Dylid gwneud unrhyw ymholiadau i’r Swyddog Canlyniadau neu’r Dirprwy Swyddogion Canlyniadau naill ai drwy anfon e-bost i’r cyfeiriad canlynol swyddogcanlyniadau@ceredigion.gov.uk neu drwy ffonio 01545 570881.

Dyddiadau Pwysig

Digwyddiad

Dyddiad (erbyn pryd os nad erbyn canol nos)

Cyhoeddi’r hysbysiad o etholiad

12 Medi 2024

Cyflwyno’r papurau enwebu

Gall papurau enwebu gael eu cyflwyno yn electronig neu wyneb yn wyneb. Bydd mwy o wybodaeth ar gael yn yr Hysbysiad o Etholiad. 

Rhwng 13 Medi a 4pm ar 20 Medi 2024

Y dyddiad a’r amser cau ar gyfer tynnu’n ôl

4pm, 20 Medi 2024

Y dyddiad a’r amser cau ar gyfer hysbysu bod asiant etholiadol wedi’i benodi 

4pm, 20 Medi 2024

Cyhoeddi’r hysbysiad interim cyntaf o newid i etholiad

20 Medi 2024

Cyhoeddi datganiadau am y sawl a enwebwyd, gan gynnwys hysbysiad o bleidlais a lleoliad gorsafoedd pleidleisio

Dim hwyrach na 4pm, 23 Medi 2024

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau i gofrestru

1 Hydref 2024

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau newydd am bleidleisiau drwy’r post a phleidleisiau drwy ddirprwy drwy’r post, ac am newidiadau i bleidleisiau drwy’r post neu bleidleisiau drwy ddirprwy sy’n bodoli eisoes

5pm, 2 Hydref 2024

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau newydd i bleidleisio drwy ddirprwy (nid pleidlais drwy ddirprwy drwy’r post na phleidlais drwy ddirprwy mewn argyfwng) 

5pm, 9 Hydref 2024

Cyhoeddi ail hysbysiad interim o newid etholiad 

Rhwng 23 Medi a 9 Hydref 2024

Yr amser cyntaf y gall etholwyr wneud cais am bleidlais drwy ddirprwy mewn argyfwng

Ar ôl 5pm, 9 Hydref 2024

Cyhoeddi’r hysbysiad terfynol o newid etholiad

10 Hydref 2024

Y dyddiad cau ar gyfer hysbysu bod asiantiaid pleidleisio, asiantiaid cyfrif ac is-asiantiaid wedi’u penodi

10 Hydref 2024

Y dyddiad cyntaf y gall etholwyr wneud cais am bleidlais bost newydd yn lle pleidlais bost a gollwyd

11 Hydref 2024

Diwrnod pleidleisio

 

7am hyd at 10pm, dydd Iau, 17 Hydref 2024

Y tro olaf y gall etholwyr wneud cais am bleidlais bost newydd yn lle pleidlais bost a ddifethwyd neu a gollwyd

5pm dydd Iau, 17 Hydref 2024

Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am bleidlais drwy ddirprwy mewn argyfwng

5pm dydd Iau, 17 Hydref 2024

Yr amser olaf y gellir newid y gofrestr oherwydd gwall clerigol neu apêl llys

9pm dydd Iau, 17 Hydref 2024

Dilysu a Chyfrif

10pm, dydd Iau, 17 Hydref 2024

Cyflwyno ffurflen gostau’r etholiad 

21 Tachwedd 2024

Cyflwyno datganiad costau’r ymgeisydd

21 Tachwedd 2024