Skip to main content

Ceredigion County Council website

Is-Etholiad Ward Tirymynach i’w gynnal ar 17 Hydref 2024

Cynhelir yr is-etholiad ar gyfer Ward Tirymynach ddydd Iau, 17 Hydref 2024.

Mae gan Gyngor Sir Ceredigion 38 Cynghorydd etholedig sy’n cynrychioli 34 ward etholiadol a bydd gan 4 o’r wardiau fwy nag un cynghorydd yn eu cynrychioli. Mae gan Ward Etholiadol Tirymynach un Gynghorydd.

Yn yr is-etholiad yma, rydych yn dewis un ymgeisydd y dymunwch ei weld yn eich cynrychioli chi’n uniongyrchol.

Beth mae Cynghorau yn ei wneud?

Mae Cynghorau yn darparu ystod o wasanaethau i’w cymunedau. Mae rhai yn statudol sy’n golygu bod yn rhaid iddynt gael eu darparu. Mae’r rhain yn cynnwys casglu sbwriel a llyfrgelloedd. Mae eraill yn rheoleiddiol. Mae’n rhaid i’r rhain hefyd gael eu darparu ac maent yn cynnwys cynllunio a rheoli’r modd y mae tir ac eiddo’n cael eu datblygu, a thrwyddedu eiddo neu dacsis, er enghraifft. Yn olaf, mae gwasanaethau dewisol y bydd cynghorau efallai yn dewis eu darparu, megis hybu twristiaeth. 

Dyma rai enghreifftiau o’r hyn y mae eich Cyngor yn gyfrifol amdanynt:

  • Addysg - Ysgolion a chludiant i ysgolion
  • Tai - Strategaethau, cyngor, darpariaeth a gweinyddu budd-daliadau
  • Gwasanaethau Cymdeithasol - Gofalu am blant, pobl hŷn a phobl anabl a’u diogelu
  • Priffyrdd a Thrafnidiaeth - Cynnal a chadw ffyrdd, rheoli a chynllunio trafnidiaeth, enwi strydoedd
  • Rheoli Gwastraff - Casglu sbwriel, ailgylchu a thipio anghyfreithlon
  • Gwasanaethau Hamdden a Diwylliannol - Llyfrgelloedd, amgueddfeydd, canolfannau hamdden a’r celfyddydau
  • Diogelu’r Defnyddiwr - Safonau Masnach
  • Gwasanaethau Amgylcheddol - Diogelwch bwyd, rheoli llygredd
  • Cynllunio - Cynllunio datblygu a Rheoli datblygu
  • Datblygiad Economaidd - Denu busnesau newydd, hybu hamdden a thwristiaeth
  • Cynllunio ar gyfer Argyfwng - Rhag ofn y bydd argyfyngau megis llifogydd, afiechydon neu ymosodiadau gan derfysgwyr.

Pwy sy’n cael pleidleisio yn yr etholiad yma?

Ar gyfer yr Etholiadau yma, mae’n rhaid eich bod o Ward Etholiadol Tirymynach ac:

  • Wedi cofrestru i bleidleisio. Os nad ydych eisoes wedi cofrestru ewch i https://www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio
  • Yn 16 oed neu’n hŷn ar ddiwrnod yr etholiad – 17 Hydref 2024.
  • Yn ddinesydd Prydeinig, Gwyddelig, yr UE neu’n ddinesydd cymwys o’r Gymanwlad*
  • Yn ddinesydd cymwys o wlad arall sydd â chaniatâd i ddod i mewn i’r DU neu i aros yn y DU, neu’n rhywun nad oes angen caniatâd o’r fath arnoch

*Dinesydd cymwys o’r Gymanwlad yw rhywun sydd â’r hawl i ddod i mewn i’r DU neu i aros yn y DU neu rywun nad oes angen hawl o’r fath arno/arni. Gellir dod o hyd i restr o’r gwledydd cymwys, Tiriogaethau Dibynnol ar Goron Prydain a Thiriogaethau Tramor Prydeinig ar wefan y Comisiwn Etholiadol.

Nid oes angen dogfen adnabod â llun (ID) arnoch i bleidleisio yn yr etholiad hwn.

Pwy na all bleidleisio?

Mae’r grwpiau canlynol wedi’u heithrio’n gyfreithiol rhag pleidleisio yng Nghymru:

  • Unigolyn sydd dan gollfarn (er y gall carcharorion ar remánd, carcharorion sydd heb eto gael eu collfarnu a charcharorion sifil bleidleisio os ydynt ar y gofrestr etholwyr).
  • Unrhyw un a gafwyd yn euog o fewn y bum mlynedd ddiwethaf o arferion llwgr neu anghyfreithlon sy’n gysylltiedig ag etholiad.

Cofrestru i bleidleisio

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi cofrestru i bleidleisio

  • Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru i bleidleisio yw 11:59pm, 1 Hydref 2024
  • Os ydych eisoes wedi cofrestru i bleidleisio yn eich eiddo ac nad ydych wedi symud ers i chi gofrestru, nid oes angen i chi ailgofrestru i bleidleisio.
  • Os ydych wedi symud tŷ yn ddiweddar ac os nad ydych wedi cofrestru i bleidleisio yn eich cyfeiriad newydd, mae’n rhaid i chi wneud hynny erbyn 11:59pm, 1 Hydref 2024.
  • Peidiwch ag anghofio y gall unigolion sy’n 16 a 17 oed bellach bleidleisio mewn etholiadau Lleol .
  • Gallwch wneud yn siŵr a ydych wedi cofrestru i bleidleisio drwy gysylltu â gwasanaethauetholiadol@ceredigion.gov.uk
  • Cofrestrwch erbyn 1 Hydref neu ni fyddwch yn gallu pleidleisio ar 17 Hydref 2024
  • Mae’n cymryd llai na thair munud i gofrestru ar-lein Byddai o gymorth i chi gael eich rhif Yswiriant Gwladol wrth law, gallwch ddod o hyd iddo ar eich slip cyflog, P60, neu lythyron am drethi, pensiynau a budd-daliadau.
  • Gall pleidleiswyr gofrestru hefyd drwy ffonio 01545 570881
  • Peidiwch â gadael cofrestru tan y funud olaf, rhag ofn y byddwch chi’n cael problemau. 

Pleidleisio

Pleidleisio mewn Gorsaf Bleidleisio – 17 Hydref 2024

  • Mae Gorsafoedd Pleidleisio ar agor rhwng 7.00am a 10.00pm ar y diwrnod pleidleisio – 17 Hydref 2024
  • Eich Gorsaf Pleidleisio bydd Neuadd Rhydypennau.

Nid oes angen dogfen adnabod â llun (ID) arnoch i bleidleisio yn yr etholiad hwn.

Yn aml yr amserau prysur mewn gorsafoedd pleidleisio yw rhwng 7.00am a 9.30am, amser cinio, 3.30pm i 4.30pm a 6.00pm i 8.00pm.

Wrth geisio osgoi’r amserau brig hyn, efallai y bydd pleidleiswyr yn gorfod aros am lai o amser. Bydd unrhyw un fydd wedi ymuno â’r ciw i bleidleisio cyn 10pm yn dal â’r hawl i bleidleisio. 

Pleidleiswyr drwy’r post

  • Y dyddiad cau i wneud cais am bleidlais drwy’r post yw 5.00pm, 2 Hydref 2024.
  • Mae’n rhaid i’r sawl sy’n gwneud cais am bleidlais drwy’r post fod eisoes wedi cofrestru i bleidleisio. Gellir lawrlwytho ffurflenni o wefan Gov.UK neu drwy ffonio 01545 570881
  • Dim ond pleidleisiau drwy’r post sy’n cael eu dychwelyd erbyn 10.00pm ar ddiwrnod yr etholiad fydd yn cael eu cyfrif. 
  • Wedi anghofio anfon eich pleidlais bost yn ôl mewn pryd? Wedi i chi gwblhau eich pleidleisiau post a selio’r pecyn, gallwch eu gadael ar ddiwrnod pleidleisio mewn unrhyw orsaf bleidleisio sydd yn yr un ardal bleidleisio, ond yn ddelfrydol yn eich gorsaf bleidleisio leol. 
  • Wedi colli eich pleidlais bost neu’r bleidlais heb gyrraedd? Gellir cynhyrchu pecynnau yn eu lle rhwng 11 Hydref a 5.00pm ar 17 Hydref 2024. Dim ond wyneb yn wyneb yn Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Ceredigion SA46 0PA y gellir derbyn pecynnau yn lle’r rhai sydd wedi eu colli neu heb gyrraedd.
    • Ffoniwch o flaen llaw os oes angen pecyn pleidlais bost yn lle un sydd wedi’i golli neu heb gyrraedd
    • Bydd angen i chi ddod â phrawf hunaniaeth gyda chi: dogfen sy’n cynnwys llun, er enghraifft pasbort neu drwydded yrru, neu ddwy ddogfen sy’n cadarnhau eich enw a’ch cyfeiriad, er enghraifft datganiad banc, bil cyfleustod neu lythyr swyddogol. 

Pleidleiswyr drwy ddirprwy

  • Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am bleidlais drwy ddirprwy yw 5.00pm 9 Hydref 2024
  • Pleidleisiwr drwy ddirprwy yw rhywun yr ydych yn ymddiried ynddo ac yr ydych yn ei benodi i bleidleisio ar eich rhan. 
  • Rhaid i chi fod eisoes wedi eich cofrestru i bleidleisio er mwyn gwneud cais am bleidlais drwy ddirprwy. Gellir dod o hyd i ffurflenni a manylion llawn ynglŷn â chymhwysedd ar wefan y Comisiwn Etholiadol 
  • Mae’n rhaid bod eich dirprwy yn gymwys i bleidleisio yn yr etholiad ac mae’n rhaid ei fod/ei bod yn gallu mynd i’ch gorsaf bleidleisio, neu mae angen iddo/iddi wneud cais i fwrw’r bleidlais drwy ddirprwy drwy’r post. Bydd eich dirprwy yn derbyn llythyr neu gerdyn pleidleisio a fydd yn cynnwys y manylion angenrheidiol a bydd yn ei dderbyn yn ei gyfeiriad/ei chyfeiriad.
  • Nid yw pleidleiswyr drwy’r post yn gymwys i wneud cais am bleidlais drwy ddirprwy. 
  • Mae modd cael pleidleisiau drwy ddirprwy mewn argyfwng ar ôl y dyddiad cau i wneud cais am bleidlais drwy ddirprwy sef rhwng 5.00pm ar 11 Hydref a 5.00pm ar 17 Hydref 2024, ond dim ond mewn amgylchiadau eithriadol penodol. Gallwch gael manylion ar wefan y Comisiwn Etholiadol  neu drwy ffonio 01545 570881

Pleidleiswyr drwy Ddirprwy mewn Argyfwng

  • Mae modd cael pleidleisiau drwy ddirprwy mewn argyfwng ar ôl y dyddiad cau am bleidlais drwy ddirprwy hyd at 5.00pm ar 17 Hydref 2024. Dim ond mewn amgylchiadau eithriadol penodol y gellir gwneud hyn. Gallwch gael manylion ar wefan y Comisiwn Etholiadol neu drwy ffonio 01545 570881.

Os oes gan ymgeisydd neu asiant gwestiynau sy’n ymwneud ag etholiadau Lleol, yna ewch i’r dudalen ar gyfer Ymgeiswyr ac Asiantiaid

www.ceredigion.gov.uk/ymgeiswyr-asiantiaid