Etholiad Senedd Cymru – 7 Mai 2026: Etholaeth Ceredigion Penfro
Gwybodaeth i’r ymgeiswyr a’r asiantiaid
Sesiynau briffio
Bydd Eifion Evans, y Swyddog Canlyniadau, yn cynnal sesiynau briffio cyn ac ar ôl y cyfnod enwebu:
- Y cyfnod cyn-enwebu – bydd y Swyddog Canlyniadau yn darparu gwybodaeth bwysig am y broses enwebu, gan gynnwys gwybodaeth am daliadau ernes, ymgyrchu, gwariant a rhoddion.
Cynhelir y sesiwn briffio ar 26 Chwefror 2026 am 5.30pm. I ymuno’r sesiwn briffio:
Ymuno â’r cyfarfod nawr
ID Cyfarfod: 319 095 352 125 67
Cod cyfrin: nZ73jY28
Cysylltwch â CRO-SCE@ceredigion.gov.uk os ydych am rhagor o wybodaeth.
- Y cyfnod ar ôl enwebu – bydd y Swyddog Canlyniadau yn rhannu gwybodaeth ynghylch y broses a’r amserlen ar gyfer pleidleisiau post, diwrnod yr etholiad a chyfrif y pleidleisiau.
Cynhelir y sesiwn briffio ar 13 Ebrill 2026 am 5.30pm.
Y Gronfa Mynediad i Swyddi Etholedig - ymgeiswyr anabl
Gall ymgeiswyr anabl ar gyfer y Senedd neu Lywodraeth Leol nawr wneud cais am gyllid o dan y Gronfa Mynediad i Swyddi Etholedig, a weithredir gan Anabledd Cymru. Diben y cyllid yw helpu ymgeiswyr anabl gyda chostau ychwanegol, anochel - fel trafnidiaeth hygyrch, offer arbenigol, neu gymorth personol. Mae’n cynnwys:
- Help i nodi'r cymorth angenrheidiol.
- Cymorth i gwblhau ceisiadau.
- Asesiad teg o geisiadau i sicrhau tegwch.
- Darparu cyllid neu wasanaethau cymeradwy.
Mae'r gronfa yn darparu cymorth ariannol i ymgeiswyr anabl sydd â chostau sy'n gysylltiedig ag amhariad, gan gynnwys cyllid ar gyfer dehonglwyr Iaith Arwyddion Prydain, cynorthwywyr personol, trafnidiaeth hygyrch, a thechnoleg gynorthwyol. Mae'r gronfa yn cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru ac yn cael ei gweithredu gan Anabledd Cymru, gan sicrhau bod y cynllun yn cael ei weinyddu'n annibynnol gyda didueddrwydd a chyfrinachedd. Bydd y cynllun yn cynorthwyo ymgeiswyr trwy gydol cyfnod yr etholiad - o enwebu i gyhoeddi canlyniadau.
Gall ymgeiswyr wneud cais drwy Anabledd Cymru neu lawrlwythwch y ffurflen gais yma. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn
Canllawiau ac adnoddau ar gyfer yr ymgeiswyr a’u hasiantiaid
- Cwblhau eich papurau enwebu – canllawiau i ymgeiswyr unigol [YouTube]
- Cwblhau eich papurau enwebu – canllawiau i swyddogion enwebu rhestr pleidiau [YouTube]
Enwebiadau
Mae ffurflenni enwebu a gwybodaeth am y broses enwebu ar gael ar wefan y Comisiwn Etholiadol.
Noder – bydd gwahaniaethau yn y ffurflenni enwebu os ydych chi’n ymgeisydd ar restr plaid neu’n ymgeisydd unigol. Cyfeiriwch at wefan y Comisiwn Etholiadol am restr lawn o’r gofynion ar gyfer y broses enwebu.
Bydd enwebiadau’n cael eu derbyn o 24 Mawrth 2026 hyd at 4.00pm, 9 Ebrill 2026 (ac eithrio ar benwythnosau a Gwyliau’r Banc).
Gwirio’r Papurau Enwebu’n Anffurfiol
Byddwn yn cynnig gwirio papurau enwebu yn anffurfiol cyn i chi eu cyflwyno’n swyddogol.
Gallwch anfon eich papurau enwebu ddrafft dros e-bost i CRO-SCE@ceredigion.gov.uk er sylwadau.
Cyflwyno eich Papurau Enwebu
Gallwch gyflwyno eich ffurflenni enwebu wyneb yn wyneb neu’n electronig:
- Wyneb yn wyneb – gellir trefnu apwyntiadau rhwng 9.00am a 5.00pm i gyflwyno’r papurau enwebu. Gellir trefnu apwyntiadau drwy ffonio 01545 570881 neu drwy anfon e-bost i CRO-SCE@ceredigion.gov.uk
- Yn electronig –
- Rhaid cyflwyno’r papurau enwebu drwy anfon e-bost i CRO-SCE@ceredigion.gov.uk ;
- Ni dderbynnir enwebiadau os cânt eu cyflwyno i gyfeiriad e-bost gwahanol;
- Dylai llinell pwnc yr e-bost nodi’n glir beth yw enw’r blaid gofrestredig neu enw’r ymgeisydd unigol;
- Wedi i ni dderbyn y papurau, byddwn yn anfon e-bost i gydnabod ein bod wedi eu derbyn. Ni fydd yr e-bost hwnnw’n cadarnhau bod yr enwebiad yn ddilys;
- Bydd e-bost arall yn cael ei anfon i gadarnhau a yw’r enwebiad yn ddilys neu a oes unrhyw broblemau o ran yr wybodaeth a gyflwynwyd;
- Bydd angen i’r taliadau ernes priodol gael eu gwneud cyn y ceir cadarnhad bod yr enwebiad wedi’i gadarnhau fel un dilys;
- Cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw sicrhau bod y papurau enwebu wedi eu cyflwyno a bod eu dilysrwydd wedi ei gadarnhau, a hynny heb fod yn hwyrach na 4.00p.m. ar 9 Ebrill 2026.
Talu’r Ernes
Gellir talu’r ernes i’r Swyddog Canlyniadau erbyn 4.00pm ddydd Iau, 9 Ebrill 2026, drwy drosglwyddiad banc uniongyrchol, drafft banc (banciau sy’n weithredol yn y Deyrnas Unedig yn unig) neu ar ffurf arian parod (punnoedd Prydeinig yn unig). Mae'r taliadau ernes sydd eu hangen fel a ganlyn:
- Ymgeisydd unigol – ernes o £500.00;
- Ymgeiswyr rhestr plaid – ernes o £500.00 ar gyfer yr ymgeisydd cyntaf ar restr y blaid; ac ernes o £200.00 ar gyfer pob un o'r pum ymgeisydd nesaf sy'n ymddangos ar restr y blaid gofrestredig.
Ni fydd y Swyddog Canlyniadau yn derbyn eich papurau enwebu oni bai eich bod wedi talu’r ernes cywir.
Fforffedu’r ernes
- Bydd ernes ymgeisydd unigol yn cael ei fforffedu os, ar ôl cyfrif y pleidleisiau, y caiff lai na 5% o gyfanswm y pleidleisiau a fwriwyd yn yr etholaeth.
- Bydd ernes plaid wleidyddol gofrestredig yn cael ei fforffedu os, ar ôl cyfrif y pleidleisiau, y caiff lai na 5% o gyfanswm y pleidleisiau a fwriwyd yn yr etholaeth.
Cod ymddygiad i ymgyrchwyr
Mae ymgyrchwyr yn elfen hanfodol o ddemocratiaeth iach, a dylid cefnogi a diogelu eu hawl i gyflwyno eu dadleuon i bleidleiswyr. Fodd bynnag, mae yr un mor bwysig sicrhau nad yw gweithgareddau ymgyrchwyr yn codi amheuaeth ynghylch uniondeb y broses etholiadol.
Ceir manylion pellach ar wefan y Comisiwn Etholiadol
Dyddiadau pwysig
| Digwyddiad | Nifer y dyddiau gwaith cyn yr etholiad (amser cau os nad yw’n ganol nos) | Dyddiad (amser cau os nad yw’n ganol nos) |
|
Cyhoeddi’r hysbysiad o etholiad |
Heb fod yn llai na 25 o ddiwrnodau |
Dydd Llun, 23 Mawrth |
|
Cyflwyno papurau enwebu |
Unrhyw ddiwrnod ar ôl cyhoeddi’r hysbysiad o etholiad tan 4pm ar y pedwerydd diwrnod ar bymtheg cyn diwrnod yr etholiad |
O 24 Mawrth tan 4pm ddydd Iau 9 Ebrill |
|
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno papurau enwebu |
19 diwrnod (4pm) |
4pm ddydd Iau 9 Ebrill |
|
Gwneud gwrthwynebiadau i’r papur enwebu |
19 diwrnod (5pm) cyn yr etholiad, yn amodol ar y canlynol: Cyn 12 canol dydd gellir gwneud gwrthwynebiadau i bob enwebiad a gyflwynwyd erbyn 4pm, 20 diwrnod cyn yr etholiad. Rhwng 12 canol dydd a 5pm, dim ond i enwebiadau a gyflwynwyd ar ôl 4pm, 20 diwrnod cyn yr etholiad y gellir gwneud gwrthwynebiadau. |
Cyn 12 canol dydd, ddydd Iau 9 Ebill, gellir gwneud gwrthwynebiadau i bob enwebiad a gyflwynwyd erbyn 4pm ddydd Mercher 8 Ebrill. Rhwng 12 canol dydd a 5pm ddydd Iau 9 Ebrill, dim ond i enwebiadau a gyflwynwyd ar ôl 4pm ddydd Mercher 8 Ebrill y gellir gwneud gwrthwynebiadau. |
|
Y dyddiad cau ar gyfer tynnu’n ôl |
19 diwrnod (4pm) |
4pm ddydd Iau 9 Ebrill |
|
Cyhoeddi’r hysbysiad interim cyntaf o newid i etholiad |
19 diwrnod |
Dydd Iau 9 Ebrill |
|
Y dyddiad cau ar gyfer hysbysu bod asiant etholiadol wedi’i benodi |
Dim hwyrach na 18 diwrnod (4pm) |
Dim hwyrach na 4pm ddydd Gwener 10 Ebrill |
|
Cyhoeddi datganiad am y sawl a enwebwyd, gan gynnwys hysbysiad o etholiad a lleoliad y gorsafoedd pleidleisio |
Dim hwyrach na 18 diwrnod (4pm) |
Dim hwyrach na 4pm ddydd Gwener 10 Ebrill |
|
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau i gofrestru |
12 diwrnod |
Dydd Llun 20 Ebrill |
|
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau newydd am bleidlais bost a phleidlais ddirprwy drwy’r post, ac am newidiadau i bleidleisiau post neu bleidleisiau drwy ddirprwy sy’n bodoli eisoes |
11 diwrnod (5pm) |
5pm ddydd Mawrth 21 Ebrill |
|
Cyhoeddi’r ail hysbysiad interim o newid i etholiad |
Rhwng 18 diwrnod a 6 diwrnod |
Dydd Mercher 22 Ebrill |
|
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau newydd i bleidleisio drwy ddirprwy (nid pleidleisiau dirprwy drwy’r post na phleidleisiau drwy ddirprwy mewn argyfwng) |
6 diwrnod (5pm) |
5pm ddydd Mawrth 28 Ebrill |
|
Cyhoeddi’r hysbysiad olaf o newid i etholiad |
5 diwrnod |
Dydd Mercher 29 Ebrill |
|
Y dyddiad cau ar gyfer hysbysu bod asiantiaid pleidleisio ac asiantiaid cyfrif wedi’u penodi. |
5 diwrnod |
Dydd Mercher 29 Ebrill |
|
Y dyddiad cyntaf y gall etholwyr wneud cais am bleidlais bost newydd yn lle pleidlais bost a gollwyd |
4 diwrnod |
Dydd Iau 30 Ebrill |
|
Y dyddiau cau ar gyfer penodi is-asiantiaid |
2 ddiwrnod |
Dydd Mawrth 5 Mai |
|
Diwrnod yr etholiad |
0 (7am tan 10pm) |
7am tan 10pm ddydd Iau 7 Mai |
|
Yr amser olaf y gall etholwyr wneud cais am bleidlais bost newydd yn lle pleidlais bost a ddifethwyd neu a gollwyd |
0 (5pm) |
5pm ddydd Iau 7 Mai |
|
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau i bleidleisio drwy ddirprwy mewn argyfwng |
0 (5pm) |
5pm ddydd Iau 7 Mai |
|
Yr amser olaf y gellir newid y gofrestr oherwydd gwall clerigol neu apêl gan y llys |
0 (9pm) |
9pm ddydd Iau 7 Mai |
|
Dilysu a chyfrif |
9am ddydd Gwener 8 Mai |
Manylion Cyswllt
Os ydych chi angen rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’r Swyddog Canlyniadau drwy e-bostio CRO-SCE@ceredigion.gov.uk neu drwy ffonio 01545 570881.