Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ffurflen Gyfathrebu y Canfasiad

Rydych wedi derbyn llythyr A3 ar sef Ffurflen Gyfathrebu y Canfasiad..

Darllenwch eich ffurflen a sicrhau bod y manylion yn gywir.

Os ydych am ychwanegu etholwr neu ddileu rhywun nad yw’n byw yn yr eiddo mwyach, bydd angen i chi wneud un o’r canlynol:

  • ewch i www.registersecurely.com/Ceredigion rhoi eich cod diogelwch 1 a 2 sydd ar y llythyr A4 a gwneud unrhyw newidiadau sydd ar y llythyr
  • ffoniwch Gwasanaethau Etholiadol ar 01545 572032
  • llenwch y ffurflen a’i hanfon yn ôl yn yr amlen ymateb busnes sydd â’r cyfeiriad Gwasanaethau Etholiadol, Cyngor Sir Ceredigion County Council, Neuadd y Cyngor, Aberystwyth SA46 0PA arni

Mae angen i chi ymateb i’ch ffurflen erbyn 28 Hydref 2020.

Os na fyddwch yn ymateb i’r ffurflen hon, byddwn yn anfon canfasiwr i’ch eiddo i gael y wybodaeth.

Cofiwch, o ganlyniad i newidiadau i ddeddfwriaeth, gellir nawr ychwanegu plant 14-16 oed i’r Gofrestr yn barod iddynt droi’n 16 oed. Byddant dim ond yn gallu pleidleisio yn rhan o Etholiadau’r Senedd y disgwylir iddynt gael eu cynnal ym mis Mai 2021.