Trosolwg a Chraffu
Mae'r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu yn goruchwylio gwaith y Cyngor er mwyn sicrhau y darperir gwasanaethau yn y ffordd orau posib, er budd y gymuned leol.
Swyddogaeth Trosolwg a Chraffu yw ystyried y gwasanaethau a'r materion sy'n effeithio ar bobl yng Ngheredigion. Mae'r broses yn rhoi cyfle i Gynghorwyr archwilio amryw swyddogaethau'r Cyngor, holi sut y gwnaethpwyd penderfyniadau, ystyried dulliau gweithredu ar gyfer gwella gwasanaethau a gwneud argymhellion yn unol â hynny.
Mae craffu'n hanfodol wrth hyrwyddo atebolrwydd, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd wrth i'r Cyngor fynd ati i wneud penderfyniadau a darparu gwasanaethau.
Prif swyddogaethau'r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu:
- Galw'r Cabinet a Swyddogion i gyfrif ynghylch eu penderfyniadau
- Bod yn 'gyfaill beirniadol', drwy holi sut y gwnaethpwyd penderfyniadau, fel bod y bobl sy'n penderfynu yn destun rhwystrau a gwrthbwysau, gan wneud y drefn o benderfynu yn fwy dilys
- Cynnal adolygiadau o wasanaethau a pholisïau'r Cyngor
- Cynnal adolygiadau ar gyfer datblygu gwasanaethau a pholisïau'r Cyngor
- Ystyried unrhyw fater arall sy'n effeithio ar y sir
- Sicrhau bod Ceredigion yn perfformio hyd eithaf ei allu ac yn darparu gwasanaethau o'r radd flaenaf i'w ddinasyddion
- Asesu effaith polisïau'r Cyngor ar gymunedau lleol, ac argymell ffyrdd o wella
- Gweithio gyda'r cyhoedd i ddatblygu polisïau a gwasanaethau sy'n canolbwyntio ar y dinasyddion
Wrth gynnal trefn effeithiol o Drosolwg a Chraffu, gellir sicrhau:
- Gwell penderfyniadau
- Gwelliant o ran Darparu Gwasanaethau a Pherfformiad
- Trefn gadarn ar gyfer Datblygu Polisïau, yn seiliedig ar ymgynghori â'r cyhoedd a chyfraniad arbenigwyr annibynnol
- Gwelliant o ran Democratiaeth, Cynhwysiad, Arweinyddiaeth Gymunedol ac Ymgysylltu
- Ychwanegu haen eglur o dryloywder ac atebolrwydd i brosesau gwleidyddol y Cyngor
- Rhoi cyfle i bob Aelod feithrin sgiliau a gwybodaeth arbenigol a all fod o fudd yn y dyfodol wrth lunio polisïau a monitro perfformiad
- Creu diwylliant o hunan-herio ar sail tystiolaeth
Mae'r Ganolfan Craffu Cyhoeddus wedi pennu pedwar egwyddor ar gyfer Craffu yn Effeithiol:
- Mae'n rhoi her gan 'gyfaill beirniadol' i'r rhai hynny sy'n llunio polisïau ac yn gwneud penderfyniadau
- Mae'n galluogi'r cyhoedd a chymunedau i fynegi eu pryderon
- Fe'i cyflawnir gan 'lywodraethwyr â meddyliau eu hunain' sy'n arwain y drefn graffu, ac yn gyfrifol amdani
- Mae'n sbarduno gwelliant mewn gwasanaethau cyhoeddus