Skip to main content

Ceredigion County Council website

Moeseg a Safonau

Sefydlodd Deddf Llywodraeth Leol 2000 'fframwaith moesegol' newydd i lywodraeth leol yng Nghymru. Mae prif elfennau'r fframwaith fel a ganlyn:-

  • cyflwyno cyfres o Egwyddorion sy'n rheoli ymddygiad aelodau etholedig a chyfetholedig Cynghorau Sir a Chymuned yng Nghymru
  • Cod Ymddygiad enghreifftiol i'r aelodau etholedig a chyfetholedig yn seiliedig ar yr Egwyddorion uchod
  • gofyniad i bob Cyngor Sir sefydlu pwyllgor safonau i hyrwyddo a chynnal safonau ymddygiad uchel gan aelodau'r Cyngor Sir a'r Cynghorau Cymuned yn yr ardal
  • ymchwilio i honiadau gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru bod y Cod Ymddygiad wedi ei dorri. Gallai'r Ombwdsmon wedyn gyfeirio materion at Bwyllgor Moeseg a Safonau'r Cyngor neu Banel Dyfarnu Cymru, corff annibynnol a sefydlwyd o dan Ddeddf 2000
  • cofrestr o fuddiannau aelodau ac aelodau cyfetholedig y Cyngor Sir

Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

Mae gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru bwerau cyfreithiol i ymchwilio i gwynion am wasanaethau cyhoeddus a darparwyr gofal annibynnol yng Nghymru. Mae’r Ombwdsmon hefyd yn ymchwilio i gwynion bod aelodau o gyrff llywodraeth leol wedi torri cod ymddygiad eu hawdurdod. Mae’n annibynnol ar holl gyrff y Llywodraeth ac yn cynnig gwasanaeth annibynnol sy’n rhad ac am ddim.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.