|
|
![]() |
|
| Bwletin Costau Byw - Rhifyn y Gaeaf 2026 | |
| 27/11/2026 | |
| Croeso | |
|
Croeso i'n Bwletin Costau Byw. Mae'r bwletin hwn yn dwyn ynghyd wybodaeth, cyngor a chyfleoedd i helpu pobl ledled Ceredigion i fyw'n dda. Yn ogystal â'r wybodaeth diweddaraf am gymorth ariannol a chyfleoedd i arbed arian, fe welwch hefyd wybodaeth am iechyd a lles, gweithgareddau cymunedol, gwasanaethau lleol, a mwy. Diolch am ddarllen,. Edrychwn ymlaen at rannu rhifynnau tymhorol yn y dyfodol gyda chi.
|
|
Hawlia dy arian Bob blwyddyn, mae mwy na £1 biliwn o fudd-daliadau a chymorth ariannol yn mynd heb eu hawlio yng Nghymru. Efallai eich bod yn gymwys i gael arian ychwanegol i helpu gyda chostau bob dydd, hyd yn oed os ydych eisoes yn derbyn budd-daliadau. Mae llinell gymorth Advicelink Cymru yn cynnig cyngor cyfrinachol am ddim a gall eich helpu i wirio pa gymorth y gallech fod â hawl iddo, gan gynnwys Credyd Pensiwn, Gostyngiad yn y Dreth Gyngor, Taliad Annibyniaeth Personol (PIP), Lwfans Gofalwr a budd-daliadau eraill. Gall cynghorwyr hefyd roi cymorth gyda dyledion a rheoli arian, helpu i gwblhau ffurflenni cais, egluro pa dystiolaeth sydd ei hangen, a nodi ffynonellau eraill o gymorth ariannol a allai fod ar gael i chi. Ffoniwch Advicelink Cymru ar 0800 702 2020 (rhadffôn). Mae’r llinellau ar agor o 8am tan 7pm o ddydd Llun i ddydd Gwener, ac o 9am tan 1pm ar ddydd Sadwrn. |
|
|
Sgwrs-CAB: Angen gwybodaeth yn gyflym? Mae Sgwrs-CAB yn offeryn hunangymorth rhad ac am ddim gan Cyngor ar Bopeth Ceredigion sy'n gallu eich helpu i ddod o hyd i wybodaeth ddibynadwy ar amrywiaeth eang o bynciau, gan gynnwys budd-daliadau, dyledion, tai, cyflogaeth a phryderon ariannol. Gan ddefnyddio gwybodaeth gan Cyngor ar Bopeth ac AdviceLink Cymru, gall Sgwrs-CAB eich helpu i ddod o hyd i ganllawiau dibynadwy pryd bynnag y bydd eu hangen arnoch. Er nad yw'n cymryd lle siarad â chynghorydd hyfforddedig, gall fod yn gam cyntaf defnyddiol i ddeall eich opsiynau a dod o hyd i gymorth ymarferol. 📞 01239 621974 / 01970 612817 (Rhwng 9:00yb ac 11:00yb) |
|
National Energy Action Cymru Os ydych yn cael trafferth gyda biliau ynni y gaeaf hwn, gall National Energy Action Cymru ddarparu cyngor a chymorth am ddim i'ch helpu i gadw'n gynnes a lleihau eich costau ynni. Maen nhw'n cynnig arweiniad ar reoli dyledion ynni, cael mynediad at grantiau a chronfeydd caledi, gwella effeithlonrwydd ynni yn y cartref, a sicrhau eich bod yn derbyn yr holl fudd-daliadau a'r cymorth y mae gennych hawl iddynt. Gall eu cynghorwyr arbenigol eich helpu i ddod o hyd i atebion ymarferol i gadw eich cartref yn gynnes ac yn fforddiadwy drwy gydol misoedd oerach y flwyddyn. 📞 Rhadffôn: 0800 304 7159 |
|
Pecyn Cymorth Costau Byw gan Lywodraeth Cymru Efallai eich bod wedi clywed am Becyn Cymorth Costau Byw £130 miliwn Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd yn ddiweddar. Disgwylir i ragor o fanylion ynghylch sut y bydd y cynllun yn gweithredu, gan gynnwys meini prawf cymhwystra a threfniadau gwneud cais, gyrraedd awdurdodau lleol maes o law. Cyn gynted ag y bydd rhagor o wybodaeth ar gael, byddwn yn rhannu diweddariadau ar ein gwefan, gan gynnwys manylion am y cymorth sydd ar gael a sut y gall trigolion ei gael. Cadwch lygad ar gwefan Cyngor Ceredigion a'n sianeli cyfryngau cymdeithasol am y wybodaeth ddiweddaraf. |
|
|
Cynllun Gostyngiad Cartrefi Cynnes 2026-27 Cynllun gan Lywodraeth y DU yw hwn, a weinyddir gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) a chyflenwyr ynni sy'n cymryd rhan. Gall aelwydydd cymwys dderbyn gostyngiad o £150 ar eu bil trydan y gaeaf hwn. Yng Nghymru, gall rhai aelwydydd sy'n derbyn budd-daliadau sy'n seiliedig ar brawf modd fod yn gymwys. Bydd aelwydydd cymwys yn derbyn llythyr erbyn Ionawr 2027. Dylid cyfeirio pob ymholiad ynghylch cymhwystra, taliadau neu lythyrau at Linell Gymorth y Cynllun Gostyngiad Cartref Cynnes, gan nad yw'r cynllun hwn yn cael ei weinyddu gan Gyngor Sir Ceredigion. 📞 Llinell Gymorth y Cynllun Gostyngiad Cartrefi Cynnes: 0800 030 9322. |
|
Gofalwch amdanoch eich hun y Nadolig hwn Gall y Nadolig fod yn gyfnod llawen, ond gall hefyd roi pwysau ychwanegol ar ein harian, ein lles a’n hiechyd meddwl. Cofiwch nad oes rhaid i’r anrhegion gorau fod y rhai drutaf, ac mae’n iawn gosod cyllideb sy’n gweithio i chi a’ch teulu. Ceisiwch osgoi benthyca arian neu fynd i ddyled i dalu am wariant y Nadolig, os yn bosibl. Yn lle hynny, canolbwyntiwch ar yr hyn sy’n bwysig: treulio amser gyda’r bobl sy’n bwysig i chi, cadw mewn cysylltiad a gofalu am eich lles eich hun. Os ydych yn teimlo bod pryderon ariannol, unigrwydd neu straen yn mynd yn drech na chi, mae cymorth ar gael. Gall ceisio cyngor yn gynnar eich helpu i deimlo bod gennych fwy o reolaeth ac i fwynhau cyfnod yr ŵyl gyda mwy o dawelwch meddwl.
|
|
|
Prosiect Cartrefi Cynnes ac Iach Y gaeaf hwn, mae Prosiect Cartrefi Cynnes ac Iach yn cael ei gynnal ym mhedwar prif ysbyty Hywel Dda, gan helpu i nodi cleifion a allai gael trafferth cadw'n gynnes gartref. Mae'r prosiect yn cysylltu pobl â chyngor a chymorth ymarferol cyn iddynt adael yr ysbyty, gan helpu i leihau'r risgiau iechyd sy'n gysylltiedig â chartrefi oer. Gan fod tymheredd dan do o lai na 18°C yn gysylltiedig â chanlyniadau iechyd gwaeth, y nod yw helpu pobl i aros yn gynnes, yn iach ac yn annibynnol drwy gydol misoedd y gaeaf. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Dr Gareth Morgan ar Gareth.Morgan5@wales.nhs.uk |
|
Cadwch mewn cysylltiad y gaeaf hwn Mae Age Cymru Dyfed yn cynnal amrywiaeth o weithgareddau cymdeithasol a lles am ddim i bobl 50+ ledled Ceredigion y gaeaf hwn, gan helpu pobl i aros yn weithgar, mewn cysylltiad ac wedi’u cefnogi. Mae’r gweithgareddau’n cynnwys boreau coffi Brew Buddies, grwpiau cerdded Green Escapes, Grŵp Cyfeillgarwch Balchder mewn Oedran LHTDC+, Grwpiau Cymdeithasol, sesiynau Crefft a Chymuned, a Grŵp Celf Gymdeithasol. Mae croeso i aelodau newydd bob amser. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Jonathan Cook 📞 07508 850470 |
|
Helpwr Arian Mae Helpwr Arian yn cynnig arweiniad diduedd am ddim i'ch helpu i wneud y gorau o'ch arian. P'un a ydych chi'n chwilio am help gyda chyllidebu, budd-daliadau, cynilo arian, dyled, pensiynau neu gostau byw bob dydd, mae help a chyngor ymarferol i gefnogi eich lles ariannol. Ewch i wefan MoneyHelper i gael awgrymiadau, cyfrifianellau ac arweiniad ar reoli eich arian a gwneud y mwyaf o'ch incwm. 📞 0800 011 3797 |
|
|
Cyngor ar Bopeth Ceredigion Mae Cyngor ar Bopeth Ceredigion yn darparu cyngor am ddim, yn ddiduedd ac yn gyfrinachol ar ystod eang o faterion, gan gynnwys budd-daliadau, dyled, tai a chyflogaeth. Gallant eich helpu i wirio a oes gennych hawl i gymorth ariannol ychwanegol ac, lle bo hynny'n briodol, trefnu apwyntiad gyda chynghorydd i drafod eich amgylchiadau a'ch opsiynau. Sut i gysylltu â Chyngor ar Bopeth Ceredigion Ffôn: 01239 621974 / 01970 612817 (Dydd Llun, Mawrth a Iau, 10yb–1yp) WhatsApp: 07971 802060 Negesydd Facebook: @CeredigionCAB E-bost: ask@cabceredigion.org Trwy'r post: CAB Ceredigion, Blwch Post 76, Llanbedr Pont Steffan, SA48 9BY Sesiynau Galw Heibio Cyngor ar Bopeth Clwb Pêl-droed Tref Aberystwyth, Rhodfa'r Parc, SY23 1PG (Dydd Mawrth, 10yb–2yp) Neuadd Hen Ysgol y Santes Fair, Aberteifi SA43 1DW (Dydd Mercher, 10yb–2yp) Eglwys Emmaus, 78 Stryd y Bont, Llanbedr Pont Steffan SA48 7AB (Dydd Llun, 10yb–2yp) |
|
|
Cronfa Cymorth Dewisol Os ydych yn wynebu anawsterau ariannol, efallai y bydd y Gronfa Cymorth Dewisol yn gallu helpu mewn argyfwng. Pwy all wneud cais? Rhaid i chi fyw yng Nghymru a bod yn profi caledi ariannol. Mae'r meini prawf cymhwysedd yn amrywio yn dibynnu ar y math o grant a'ch amgylchiadau unigol. Taliad Cymorth Brys: Cymorth gyda chostau brys fel bwyd, ynni, dillad a theithio mewn argyfwng. Taliad Cymorth Unigol: Cymorth i gael eitemau hanfodol i'r cartref fel gwelyau, soffas, oergelloedd a pheiriannau golchi. 📞 0800 859 5924 |
|
Mannau Croeso Cynnes Ceredigion Mae Mannau Croeso Cynnes yn cynnig rhywle i gwrdd â threulio amser gydag eraill yn eich cymuned. Maent yn darparu lle cynnes i eistedd, diodydd poeth, cyfeillgarwch, cwmni, ac weithiau prydau poeth. Mae rhestr o Fannau Croeso Cynnes ar wefan y Cyngor Ceredigion. Gallwch hefyd cysylltu â'r Cyngor i ofyn am fanylion y Fan Croeso Cynnes sydd agosach atoch. 📞 01545 570881 E-bost: clic@ceredigion.gov.uk |
|
|
Gweithredu dros Iechyd Meddwl Gorllewin Cymru Mae cyfeiriadur o wasanaethau lleol sy’n cynnig cymorth iechyd meddwl a lles ar eu gwefan. Fel arall, gallwch gysylltu â nhw: 📞 (01267) 245572 E-bost: admin@wwamh.org.uk |
|
|
Silver Cloud System cyfrinachol ar-lein a ddarperir gan GIG Cymru. Gallwch gael mynediad at amrywiaeth o raglenni therapiwtig ac addysg seicolegol ar-lein sy’n cynnig gwybodaeth a chymorth. Ar gyfer pobl 16 oed a hŷn sy’n profi problemau sy’n ymwneud â’u hiechyd meddwl. |
| Diolch | |
|
Diolch i chi am ddarllen ein bwletin Costau Byw. Gobeithio ei fod wedi bod o gymorth i chi. I gael rhagor o wybodaeth am gymorth gyda chostau byw, ewch i wefan y Cyngor Sir. Os hoffech gofrestru i dderbyn y bwletin drwy e-bost, cysylltwch â ni: 📞 01545 570881. E-bost: partneriaethau@ceredigion.gov.uk |
|
Helpwch ni i wella Rhowch wybod i ni beth yw eich barn am ein cylchlythyr. Dim ond dau gwestiwn sydd! |
|
|
01545 570881 | clic@ceredigion.gov.uk
Heb eich cofrestru ar gyfer Fy Nghyfrif eto? Cofrestrwch heddiw. | Fy Nghyfrif Ceredigion |
|