Trethi Annomestig
Mae'r wybodaeth isod yn esbonio rhai o'r termau a welwch chi'n aml ar fil am ardrethi annomestig ac yn yr wybodaeth sydd gyda'r bil. Cewch fwy o wybodaeth ynglŷn â'r rheidrwydd i dalu ardrethi annomestig gan yr awdurdodau bilio.
Yr Ardrethi Annomestig
Caiff y trethi annomestig eu casglu gan yr awdurdodau bilio a’u talu i mewn i gronfa ganolog. Yna maen nhw'n cael eu hailddosbarthu i gynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol a chomisiynwyr yr heddlu a throseddau. Bydd y cyngor a chomisiynwyr yr heddlu a throseddau'n defnyddio eu cyfran nhw o incwm yr ardrethi, ynghyd ag incwm treth y cyngor, y grant cynnal refeniw sy'n dod gan Lywodraeth Cymru a rhai symiau neilltuol o ffynonellau eraill, i dalu am y gwasanaethau y maen nhw'n eu darparu. Cewch ragor o wybodaeth am system yr ardrethi annomestig, gan gynnwys y gostyngiadau a'r rhyddhad sydd ar gael yma: businesswales.gov.wales/cy.
Gwerth Ardrethol:
Mae gwerth ardrethol eiddo annomestig yn cael ei bennu, yn y rhan fwyaf o achosion, gan swyddog prisio annibynnol o Asiantaeth y Swyddfa Brisio ac mae honno'n Asiantaeth Weithredol o Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC). Maen nhw'n llunio ac yn cadw rhestr lawn o werth ardrethol pob eiddo annomestig yng Nghymru, ac mae honno ar gael ar eu gwefan: www.gov.uk/government/organisations/valuation-office-agency. Fel arfer caiff pob eiddo annomestig ei ailbrisio bob 5 mlynedd. O 1 Ebrill 2017 ymlaen bydd gwerth ardrethol eiddo'n hafal i'w werth fel rhent blynyddol ar y farchnad agored ar 1 Ebrill 2015.
Ar gyfer eiddo cymysg sy’n rhannol ddomestig ac yn rhannol annomestig, mae’r gwerth ardrethol yn ymwneud â'r rhan annomestig yn unig. Mae gwerth pob eiddo mae ardrethi'n daladwy amdanynt i’ch awdurdod chi i'w gweld ar y rhestr ardrethi lleol. Cewch weld copi ohoni yn y swyddfeydd canlynol: Swyddog Prisio a Phrif Brisiwr Cymru, Ardrethi Annomestig Cymru, Asiantaeth y Swyddfa Brisio, Tŷ Rhodfa, Ffordd Tŷ Glas, Llanishen, Caerdydd, CF14 5GR neu Gyngor Sir Ceredigion, Canolfan Rheidol, Rhodfa Padarn, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, Ceredigion SY23 3UE.
Newid y gwerth ardrethol
Fe allai'r gwerth ardrethol newid petai'r swyddog prisio o'r farn bod amgylchiadau’r eiddo wedi newid. Gall y trethdalwr (a rhai eraill neilltuol sydd â diddordeb yn yr eiddo), gynnig newid yng ngwerth yr eiddo hefyd o dan rai amgylchiadau. Os na fydd y trethdalwr a’r swyddog prisio'n cytuno ynglŷn â gwerth yr eiddo mewn 3 mis ar ôl cyflwyno’r cynnig, bydd y swyddog prisio'n cyfeirio'r mater fel apêl ar ran y cynigydd gerbron Tribiwnlys Prisio Cymru. Cewch ragor o wybodaeth ynglŷn â sut mae mynd ati i gynnig newid y gwerth ardrethol gan y swyddfeydd prisio.
Lluosydd yr ardrethi annomestig
Dyma’r gyfradd yn y bunt a gaiff ei defnyddio i luosi’r gwerth ardrethol er mwyn cyfrifo bil treth blynyddol yr eiddo. Caiff y lluosydd ei osod gan Weinidogion Cymru ar gyfer Cymru gyfan a heblaw am y blynyddoedd pryd bydd ailbrisio, nid yw'n gallu codi mwy na chyfradd y cynnydd ym mynegai’r prisiau manwerthu.
Cynigion ac apeliadau
Mae gwybodaeth ynglŷn â phryd ac o dan ba amgylchiadau y mae rhywun yn cael cynnig newid i'r gwerth ardrethol a sut mae gwneud cynnig o’r fath ar gael gan y swyddfa brisio leol. Mae mwy o wybodaeth am y trefniadau apelio ar gael gan Gyngor Sir Ceredigion, Canolfan Rheidol, Rhodfa Padarn, Llanbadarn, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3UE neu gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio.
Mae Tribiwnlys Prisio Cymru'n cynnig gwasanaeth apeliadau annibynnol yn rhad ac am ddim ar gyfer apeliadau ynghylch yr Ardrethi Annomestig a Threth y Cyngor. Dyma'r manylion cyswllt: www.valuationtribunal.wales/home.html.
Ardrethi eiddo gwag
Gall perchnogion eiddo annomestig gwag fod yn agored i dalu ardrethi am eiddo gwag sy'n cael eu codi ar 100 y cant o’r atebolrwydd arferol. Mae’r atebolrwydd yn dechrau ar ôl i'r eiddo fod yn wag am 3 mis, neu, yn achos adeiladau diwydiannol, ar ôl i'r eiddo fod yn wag am 6 mis. Mae mathau penodol o eiddo'n cael eu heithrio o dalu ardrethi ar eiddo gwag.
Rhyddhad Ardrethi Gorfodol
I fod yn gymwys am Ryddhad Ardrethi Gorfodol, mae’n ofynnol nad yw’r sefydliad yn cael ei redeg er elw a rhaid i’r eiddo a feddiannir ganddo gael ei ddefnyddio'n gyfan gwbl neu’n bennaf at ddibenion elusennol neu ar gyfer Clwb Chwaraeon Amatur Cymunedol.
Bob blwyddyn cynhelir gwiriad i gadarnhau a yw’r sefydliad yn gymwys a chynhelir adolygiad llawn bob tair blynedd.
Ffurflen Cais - Rhyddhad Ardrethi Gorfodol
Fframwaith Polisi ar gyfer Rhyddhad Ardrethi Gorfodol, yn ôl Disgresiwn ac Ar Sail Caledi
Rhyddhad Ardrethi yn ôl Disgresiwn
Mae sefydliadau sydd wedi cael Rhyddhad Ardrethi Gorfodol o 80% yn gallu ymgeisio am Ryddhad Ardrethi yn ôl Disgresiwn o 20% yn ychwanegol. Ni roddir y Rhyddhad Ardrethi yn ôl Disgresiwn ychwanegol i’r sefydliadau canlynol:
- Prifysgolion neu sefydliadau Addysgol eraill
- Siopau elusennol
Bydd sefydliadau chwaraeon nid-er-elw sy’n ymgeisio am Ryddhad Ardrethi yn ôl Disgresiwn yn derbyn rhyddhad o 100%.
Sylwer, yn achos sefydliadau sy'n gwneud cais am Ryddhad Ardrethi Gorfodol o 80% a Rhyddhad Ardrethi yn ôl Disgresiwn o 20%, dim ond un ffurflen gais fydd angen iddynt ei llenwi ond bydd angen nodi eu bod yn gwneud cais am y ddau ryddhad.
Ffurflen Cais - Rhyddhad Ardrethi yn ôl Disgresiwn
Rhyddhad Ardrethi ar Sail Caledi
Mae gan y Cyngor ddisgresiwn o dan Adran 49 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 i ddyfarnu rhyddhad o hyd at 100% os profir caledi.
Rhoddir ystyriaeth i Ryddhad Ardrethi ar sail Caledi os yw’r busnes yn dioddef caledi annisgwyl sydd y tu hwnt i’r risgiau arferol sy’n gysylltiedig â'r busnes. Dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y dyfernir rhyddhad ar sail caledi.
Ffurflen Cais - Rhyddhad Ardrethi ar Sail Caledi
Rhyddhad ardrethi i fusnesau bach
O dan Orchymyn Ardrethi Annomestig (Rhyddhad i Fusnesau Bach) Cymru 2015 mae modd rhoi rhyddhad ardrethi i fusnesau bach. Mae'r manylion llawn, gan gynnwys y meini prawf o ran cymhwysedd, yr eithriadau, y gofynion gweithdrefnol a phob rhyddhad ardrethi perthnasol ar gael gan yr awdurdod bilio.
Ardrethi Annonestig – Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch yng Hghymru – 2024/2025
Rhaid i chi wneud cais am y cymorth hwn erbyn 31 Mawrth 2025. Ni allwn ystyried ceisiadau sy’n cael eu derbyn ar ôl y dyddiad hwn.
Nod y cynllun yw darparu cymorth i eiddo cymwys sydd wedi’i feddiannu drwy gynnig 40% o ostyngiad ar filiau ardrethi annomestig ar gyfer eiddo o’r fath. Bydd y cynllun ar gael i bob busnes cymwys, fodd bynnag bydd uchafswm i swm y rhyddhad y caiff busnesau ei hawlio ar draws Cymru. Cyfanswm y rhyddhad sydd ar gael yw £110,000 ar draws yr holl eiddo sy’n cael eu defnyddio gan yr un busnes. Mae angen i bob busnes ddatgan nad yw swm y rhyddhad y maent yn gwneud cais amdano ar draws Cymru yn fwy na’r uchafswm wrth wneud cais i awdurdodau lleol unigol.
Trethi Annomestig – Ailbrisio 2023
Mae’r Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn diweddaru’r gwerth ardrethol i bob busnes ac eiddo nad ydynt yn rhai domestig yn rheolaidd fel rhan o ymarfer ailbrisio. Mae gwerth trethiannol yn cael eu defnyddio i gyfrifo eich bil cyfradd busnes.
Daeth y Prisiad diweddaraf yn dod i rym ar 1 Ebrill 2023. Gwerthoedd trethiannol yw’r swm o rent y gallai eiddo fod wedi’i brydlesu ar ddyddiad prisiad penodol. Ar gyfer prisiad 2023, y dyddiad oedd 1 Ebrill 2021.
Mae’r Asiantaeth y Swyddfa Brisio wedi cwblhau’r ymarfer ailbrisio ac mae eich gwerth ardrethol drafft wedi’i gyhoeddi ar-lein.
Fe’ch cynghorir yn gryf i adolygu eich asesiad drafft ac os ydych yn teimlo ei fod yn anghywir, cysylltwch ag Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn uniongyrchol.
Gallwch weld eich asesiad cyfredol ac un y dyfodol ar-lein yn https://www.gov.uk/find-business-rates.
Os ydych yn cael trafferth cael mynediad at eich gwerth ardrethol drafft ar-lein, gallwch siarad gyda’r Asiantaeth y Swyddfa Brisio drwy ffonio 03000 505505
Lluosydd Ardrethi Annomestig 2024/25
Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod lluosydd ar gyfer 2024/25 ar gyfradd o 56.2c
Cymorth Pontio
Bydd Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth pontio i holl dalwyr ardrethi sydd ag atebolrwydd sy’n cynyddu fwy na £300, o ganlyniad i ailbrisio.
Bydd unrhyw gynnydd mewn atebolrwydd ardrethi annomestig o ganlyniad i ailbrisio yn cael ei wneud fesul cam dros ddwy flynedd. Bydd talwr ardrethi yn talu 33% o’u hatebolrwydd ychwanegol yn y flwyddyn gyntaf (2023-24) a 66% yn yr ail flwyddyn (2024-25), cyn cyrraedd eu hatebolrwydd cyflawn yn y drydedd flwyddyn (2025-26)
Bydd Cymorth Pontio yn cael ei dyfarnu a’i roi yn awtomatig i’ch bil ardrethi annomestig os yw eich busnes yn gymwys ar gyfer y cynllun.
Estyniad i’r Cymorth Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch
Bydd y busnesau sy’n gymwys am gymorth manwerthu, hamdden a lletygarwch yng Nghymru yn derbyn cymorth estynedig ar gyfer 2024/25. Bydd y talwyr ardrethi sy’n bodloni’r meini prawf cymhwyso yn derbyn 40% o ryddhad ardrethi annomestig ar gyfer y flwyddyn ariannol 2024-25 o 1 Ebrill 2024, yn destun cap ar gymorth ar draws Cymru ar £110,000 fesul busnes.
Cwestiynau Cyffredin (Cymru)
Ailbrisiad
Beth yw ailbrisiad?Ailbrisiad yw’r adolygiad o werthoedd ardrethol holl eiddo annomestig yng Nghymru a Lloegr, a gynhelir gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA). Mae hyn yn digwydd bob 3 blynedd.
Sut ydych yn prisio eiddo?
Mae’r VOA yn prisio eiddo yn ôl ei werth ardrethol. At ddibenion ardrethi busnes, dyma swm y rhent y gallai’r eiddo fod wedi’i roi ar osod amdano, ar ddyddiad penodol. Cyfeirir ato fel y Dyddiad Prisio Rhagflaenol (AVD).
Sut gaiff fy ngwerth ardrethol ei gyfrifo?
Mae’r gwerth ardrethol yn seiliedig ar faint o rent y gallai’r eiddo fod wedi’i roi ar osod amdano, ar ddyddiad penodol (sef 1 Ebrill 2021 ar gyfer ailbrisiad 2023).
Er mwyn cyfrifo’r gwerth ardrethol, mae’r VOA yn dadansoddi’r farchnad eiddo sydd wedi’u gosod i sicrhau bod gwerthoedd ardrethol yn adlewyrchu’r farchnad eiddo’n gywir.
Beth yw’r dyddiad prisio ar gyfer ailbrisiad 2023?
Yr AVD ar gyfer ailbrisiad 2023 yw 1 Ebrill 2021.
Pwy sy’n penderfynu ar ddyddiad y prisiad?
Y Llywodraeth sy’n penderfynu ar ddyddiad y prisiad. Dewisodd y Llywodraeth 1 Ebrill 2021 fel y byddai prisiadau yn adlewyrchu effaith COVID-19 ar y farchnad eiddo.
Sut caiff fy mil ardrethi busnes ei gyfrifo?
Rydym yn cyfrifo biliau ardrethi busnes gan ddefnyddio gwerth ardrethol. Mae gwerthoedd ardrethol yn seiliedig ar faint o rent y gallai eiddo cwsmer fod wedi’i roi ar osod amdano, ar ddyddiad penodol (sef 1 Ebrill 2021 ar gyfer ailbrisiad 2023).
Pryd byddaf yn cael fy mil ardrethi busnes?
Bellach mae cwsmeriaid yn gallu gweld y gwerth ardrethol i ddod ar gyfer eu heiddo a chael amcangyfrif o’u bil ardrethi busnes, a beth y gallai hwnnw fod.
Gallant wneud hyn drwy Wasanaeth Darganfod Prisiad Ardrethi Busnes ar GOV.UK.
 phwy ydw i’n cysylltu os yw fy mil gwerth ardrethol yn rhy uchel?
Cyn 1 Ebrill 2023, dylai cwsmeriaid Cymraeg ddefnyddio’r Gwasanaeth Darganfod Prisiad Ardrethi Busnes ar GOV.UK i roi gwybod i’r VOA os ydynt o’r farn bod eu gwerth ardrethol yn rhy uchel.
Ar ôl 1 Ebrill 2023, bydd rhaid i gwsmeriaid gael cyfrif prisio ardrethi busnes i roi gwybod i’r VOA os ydynt o’r farn bod eu gwerth ardrethol yn rhy uchel.
Mae’n rhaid i chi barhau i dalu’ch ardrethi busnes yn ôl yr arfer. Os ydych yn gordalu, gallwch ofyn am ad-daliad gan eich cyngor lleol.
 phwy ydw i’n cysylltu os yw fy eiddo wedi newid?
Cyn 1 Ebrill 2023, dylai cwsmeriaid Cymraeg ddefnyddio’r Gwasanaeth Darganfod Prisiad Ardrethi Busnes ar GOV.UK i roi gwybod i’r VOA am newidiadau i fanylion eu heiddo, megis maint arwynebedd llawr a pharcio.
Ar ôl 1 Ebrill 2023, bydd rhaid i gwsmeriaid gael cyfrif prisio ardrethi busnes i roi gwybod i’r VOA am newidiadau i fanylion eiddo.
Mae’n rhaid i chi barhau i dalu’ch ardrethi busnes yn ôl yr arfer. Os ydych yn gordalu, gallwch ofyn am ad-daliad gan eich cyngor lleol.
Mae’n bosibl y bydd y VOA yn derbyn eu newidiadau ac yn diweddaru’r prisiad presennol a’r prisiadau yn y dyfodol.
Pam oes gan eiddo tebyg werthoedd ardrethol gwahanol?
Wrth gyfrifo gwerth ardrethol, mae’r VOA yn ystyried faint y gallai eiddo fod wedi’i roi ar osod amdano, ar ddyddiad penodol. Gall gwerth ardrethol eiddo amrywio am sawl rheswm fel lleoliad a maint.
Pa ryddhadau rhag ardrethi busnes sydd ar gael?
Mae sawl math o ryddhad rhag ardrethi busnes i gwsmeriaid. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth ar GOV.UK. Efallai y bydd angen iddynt gysylltu â’u cyngor lleol i wirio’u cymhwystra ar gyfer rhyddhad rhag ardrethi busnes.
Caiff rhyddhadau rhag ardrethi busnes eu trin yn wahanol os yw eu heiddo yng Nghymru.
Beth os ydw i am ddefnyddio asiant?
Os yw cwsmer am awdurdodi asiant i weithredu ar ei ran, gall un gael ei benodi drwy ddefnyddio ffurflen awdurdod i weithredu ar GOV.UK.