Tystysgrif Awdurdodi Cludwyr
Gwybodaeth ar bwy yn union sydd angen Tystysgrif Awdurdodi Cludwyr a sut i wneud cais amdani
Bydd angen tystysgrif awdurdodi ar y rheiny sy'n cludo anifeiliaid byw ag asgwrn cefn fel rhan o 'weithgaredd economaidd' dros bellter sy'n fwy na 65km.
Mae dau fath o Dystysgrif ar gael:
- Tystysgrif Awdurdodi Siwrnai Fer (Math 1) am siwrneiau dros 65km a hyd at, ac yn cynnwys, 8 awr o amser
- Tystysgrif Awdurdodi Siwrnai Hir (Math 2) am siwrneiau dros 65km sydd hefyd dros 8 awr o amser. Bydd Tystysgrif Awdurdodi Siwrnai hir hefyd yn cynnwys hawl siwrneiau byr
Bydd yn ofynnol i Gludwyr gario gyda hwy eu Tystysgrif Awdurdodi, neu gopi ohoni pryd bynnag y byddant yn cludo anifeiliaid.