Skip to main content

Ceredigion County Council website

Gwobr Prentis y Flwyddyn

Cyflwynir y wobr hon i unigolyn sy’n dilyn prentisiaeth gyda busnes sy’n gweithredu yng Ngheredigion ac sydd wedi bod yn rhagorol ym mhob agwedd ar ei hyfforddiant.

Gall y prentis ei hun, y cyflogwr neu ddarparwr y brentisiaeth gwblhau a chyflwyno ceisiadau. Mae'r categorïau prentisiaid yn gofyn am nodyn cyfeirio/cydnabyddiaeth - y cyflogwr sy’n llenwi'r adran hon ar gyfer y prentis sy'n enwebu ei hun.

Bydd y beirniaid yn chwilio am dystiolaeth eich bod wedi:

  • Cwblhau prentisiaeth yn ddiweddar (yn y 12 mis diwethaf) gyda busnes yng Ngheredigion
  • Caffael a chymhwyso datblygiad personol/proffesiynol yn effeithiol i'ch rôl
  • Cael effaith gadarnhaol ac ysbrydoli eraill a/neu arddangos gwaith tîm a chydweithio effeithiol

Bydd angen datganiad ategol gan eich cyflogwr

Ffurflen Enwebu Gwobr Prentis y Flwyddyn