Skip to main content

Ceredigion County Council website

Gwobr Ceredigion a’r Byd

Mae’r wobr hon yn cydnabod busnesau neu fentrau Ceredigion sydd wedi helpu i roi Ceredigion ar y map, ac sydd wedi helpu i godi proffil y sir y tu allan i Gymru.

Bydd y busnes neu'r fenter dan sylw nid yn unig wedi cael llwyddiant yn nes adref, drwy gyfrannu'n gadarnhaol at yr economi leol, ond hefyd wedi cael llwyddiant ymhellach i ffwrdd ac wedi dangos i'r rhai y tu allan i Gymru yr hyn sydd gan Geredigion i'w gynnig.

Bydd y beirniaid yn chwilio am dystiolaeth eich bod wedi:

  • Cael llwyddiant arbennig wrth allforio eich nwyddau
  • Agor marchnadoedd tramor newydd
  • Deall y farchnad a dulliau o ymateb i newid
  • Creu dulliau ariannu a chynlluniau buddsoddi ar gyfer y busnes
  • Codi proffil Ceredigion drwy eich cynnyrch/brandio
  • Gweithredu fel llysgenhadon dros Geredigion, a'r hyn sydd ganddi i'w gynnig

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â chystadlu yn y categori hwn, anfonwch e-bost at ce.cynnalycardi@ceredigion.gov.uk.

Argymhellir eich bod yn creu ac yn cadw eich cais mewn dogfen ar wahân cyn copïo a gludo'ch ceisiadau i'r ffurflen gais isod. Bydd hyn yn rhoi mwy o hyblygrwydd i chi o ran golygu eich cais a sicrhau nad oes dim yn cael ei golli cyn ei gyflwyno.

Ffurflen Enwebu Gwobr Ceredigion a’r Byd