Skip to main content

Ceredigion County Council website

Gwobr Arloesedd mewn Busnes

Mae’r wobr hon yn cydnabod llwyddiant cwmnïau sydd wedi creu a datblygu cynhyrchion neu brosesau arloesol sydd wedi gwella perfformiad y sefydliad neu wedi arwain at greu swyddi’n sylweddol neu lwyddiannau ehangach.

Bydd y beirniaid yn chwilio am dystiolaeth eich bod:

  • Yn meddu ar uchelgais ac eglurder gweledigaeth
  • Yn meddu ar ymrwymiad clir i ymchwil a datblygu, arloesi a photensial twf yn y dyfodol
  • Yn gallu ysgogi twf trwy dechnoleg
  • Wedi darganfod atebion digidol newydd i heriau
  • Wedi dod yn fwy effeithlon

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â chystadlu yn y categori hwn, anfonwch e-bost at ce.cynnalycardi@ceredigion.gov.uk.

Argymhellir eich bod yn creu ac yn cadw eich cais mewn dogfen ar wahân cyn copïo a gludo'ch ceisiadau i'r ffurflen gais isod. Bydd hyn yn rhoi mwy o hyblygrwydd i chi o ran golygu eich cais a sicrhau nad oes dim yn cael ei golli cyn ei gyflwyno.

Ffurflen Enwebu Gwobr Arloesedd mewn Busness