Skip to main content

Ceredigion County Council website

Gwobr Arloesedd Cymunedol

Mae'r wobr hon yn agored i unrhyw grŵp cymunedol yng Ngheredigion fel grwpiau ieuenctid, Cynghorau Cymuned, clybiau chwaraeon, pwyllgorau neuaddau pentref, a grwpiau diddordeb sydd wedi gwneud gwahaniaeth trwy fod yn arloesol ac sydd wedi cael effaith trwy wneud pethau'n wahanol.

Mae'r beirniaid yn chwilio am dystiolaeth eich bod wedi:

  • Cyflwyno elfen ddigidol newydd i'ch gwaith yn y gymuned
  • Dod o hyd i ffyrdd o weithio'n gynaliadwy
  • Datrys problemau trwy weithio'n wahanol
  • Cydweithio mewn ffordd newydd
  • Dod o hyd i ddefnydd amgen ar gyfer adeiladau cymunedol

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â chystadlu yn y categori hwn, anfonwch e-bost at ce.cynnalycardi@ceredigion.gov.uk.

Argymhellir eich bod yn creu ac yn cadw eich cais mewn dogfen ar wahân cyn copïo a gludo'ch ceisiadau i'r ffurflen gais isod. Bydd hyn yn rhoi mwy o hyblygrwydd i chi o ran golygu eich cais a sicrhau nad oes dim yn cael ei golli cyn ei gyflwyno.

Ffurflen Enwebu Gwobr Arloesedd Cymunedol