Skip to main content

Ceredigion County Council website

Gwobr Digwyddiad y Flwyddyn (Cymunedol)

Mae’r wobr hon yn agored i sefydliadau/busnesau/unigolion sydd wedi trefnu digwyddiad ar raddfa leol/gymunedol yng Ngheredigion yn 2023/2024 sydd wedi cael effaith ehangach ar y gymuned, drwy ddenu mwy o ymwelwyr i’r ardal (llai na 5,000), effaith economaidd gadarnhaol a chodi proffil Ceredigion.

Mae'r beirniaid yn chwilio am dystiolaeth eich bod wedi:

  • Cynyddu nifer yr ymwelwyr i'r ardal
  • Ymgysylltu a gwneud gwahaniaeth i unigolion, cymunedau a'r economi leol
  • Trefnu digwyddiad sydd wedi manteisio ar adnoddau naturiol a threftadaeth Ceredigion
  • Mynd ati i godi arian
  • Cael effaith economaidd gadarnhaol ar y Sir

Mae’r categori yn agored i bob digwyddiad ar raddfa fach, a dylech hefyd wirio’r categori digwyddiadau mwy cyn penderfynu pa un sydd fwyaf perthnasol i chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â chystadlu yn y categori hwn, anfonwch e-bost at ce.cynnalycardi@ceredigion.gov.uk.

Argymhellir eich bod yn creu ac yn cadw eich cais mewn dogfen ar wahân cyn copïo a gludo'ch ceisiadau i'r ffurflen gais isod. Bydd hyn yn rhoi mwy o hyblygrwydd i chi o ran golygu eich cais a sicrhau nad oes dim yn cael ei golli cyn ei gyflwyno.

Ffurflen Enwebu Digwyddiad Cymunedol y Flwyddyn