Grant Creu Lleoedd Trawsnewid Trefi
Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi sicrhau cyllid ochr yn ochr â Chyngor Sir Powys o Raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru i gefnogi buddsoddiad cyfalaf er mwyn adfywio nifer o’n trefi ledled Canolbarth Cymru.
Mae'r Grant Creu Lleoedd Trawsnewid Trefi yn cynnig cefnogaeth ar gyfer ystod eang o brosiectau, o ddatblygiadau seilwaith gwyrdd i welliannau masnachol a phreswyl mewnol ac allanol i berchnogion busnes.
Bydd angen i brosiectau arfaethedig bodloni meini prawf cymhwysedd a fydd yn cynnwys dangos cysylltiadau clir â Chynllun Bro Tref neu Strategaeth Ganol Tref gyfredol. Hefyd, bydd angen i brosiectau arfaethedig bodloni meini prawf Fframwaith Grant Creu Lleoedd Trawsnewid Trefi.
Gall ymgeiswyr drafod prosiectau posibl gyda'u swyddog prosiect lleol a fydd yn gallu cynghori a allai'r prosiect fod yn gymwys a helpu gyda’r broses mynegi diddordeb.
Bydd y grant yn rhedeg am dair blynedd yn dechrau 01/04/2022, a bydd angen cwblhau prosiectau erbyn 01/03/2025.
Mae'r cynllun yn agored i fusnesau preifat, gan gynnwys datblygwyr, busnesau'r trydydd sector, a'r sector cyhoeddus. Nid yw ar gael i unigolion preifat.
Mae rhagor o wybodaeth, a sut i wneud cais ar gael yn yr atodiadau isod.