Skip to main content

Ceredigion County Council website

Grŵp Gweithredu Lleol Pysgodfeydd (FLAG) Bae Ceredigion

Cyflwyno grŵp Gweithredu Lleol Pysgodfeydd Bae Ceredigion (FLAG) 2017-2020.

Yn cefnogi cymunedau pysgota a’r diwydiant pysgota ym Mae Ceredigion o Landudoch i Abermo.

Acronym ar gyfer y Grŵp Gweithredu Lleol Pysgodfeydd yw FLAG (Fisheries Local Action Group) a chaiff ei ariannu drwy Gronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewrop a Llywodraeth Cymru.

Nod cyffredinol FLAG Bae Ceredigion yw hyrwyddo’r gwaith o ddatblygu cymunedau ac ardaloedd pysgodfeydd mewn modd cynaliadwy.

Partneriaeth rhwng y sector preifat a’r sector gwirfoddol, a rhwng y sector cymunedol a’r sector cyhoeddus, yw FLAG. Ei nod yw cynorthwyo cymunedau arfordirol yr ardal a’r diwydiant pysgota lleol i wella ffyniant economaidd ac ansawdd bywyd yn yr ardal. Mae arian gan Gronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewrop wedi’i sicrhau i’w gwneud yn bosibl i raglen weithgarwch gael ei datblygu a’i chyflawni yn ardal FLAG.

Mae’r arian ar gael ar gyfer y diwydiant pysgota, cymunedau pysgota a grwpiau a sefydliadau sy’n ymwneud â lles cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol arfordir Bae Ceredigion.

Cronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewrop

Mae cyllid FLAG yn rhan o Gronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewrop y bwriedir iddi weithredu tan 2020.
Mae Llywodraeth Cymru ar ran y Sefydliad Rheoli Morol yn goruchwylio rhaglen gyffredinol y Gronfa yng Nghymru. Bydd y cyllid yn cefnogi gwaith datblygu cynaliadwy yn y sector pysgota a’r sector dyframaethu ac ym maes gwarchod yr amgylchedd morol, yn ogystal â thwf a swyddi mewn cymunedau arfordirol.

Grŵp Gweithredu Lleol Pysgodfeydd Bae Ceredigion (FLAG)

Mae FLAG yn elfen annatod o fod yn rhaglen a arweinir gan y gymuned, sy’n hyrwyddo ac yn hybu cydweithio a gweithio mewn partneriaeth. Mae’n cynnwys cynrychiolwyr o’r sector cyhoeddus, y sector preifat, y sector gwirfoddol a’r sector cymunedol ac yn canolbwyntio ar y diwydiant pysgota a buddiannau morol/arfordirol.

Aelodau FLAG

Cynrychiolwyr y Sector Cymunedol

  • Hanes Aberporth
  • Cymdeithas Genweirwyr Aberystwyth
  • Ffederasiwn Genweirwyr Môr Cymru
  • Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru
  • Cynnal y Cardi

Cynrychiolwyr y Sector Cyhoeddus

  • Cyngor Sir Ceredigion
  • Cyngor Tref Ceinewydd
  • Cyngor Tref Aberdyfi
  • Prifysgol Aberystwyth
  • Seafish Wales

Cynrychiolwyr y Sector Preifat

  • Cymdeithas Pysgotwyr Bae Ceredigion
  • Cymdeithas Pysgotwyr Pysgod Cregyn Gorllewin Cymru
  • Marina Aberystwyth
  • New Quay Boat Trips
  • Swallow Boats

Cynghorwyr

  • Twristiaeth Canolbarth Cymru
  • Clwb Cychod Aberystwyth
  • Cyfoeth Naturiol Cymru

Er mwyn codi ei broffil, mae FLAG yn bwriadu cynnal ei gyfarfodydd mewn amryw leoliadau ledled ei ardal yn ystod y flwyddyn. O wneud hynny, bydd modd cyfathrebu’n fwy helaeth ag amryw gymunedau pysgota a bydd modd i aelodau FLAG o’r cymunedau dan sylw hysbysebu’r ffaith y bydd y grŵp yn bresennol ac yn fwy na pharod i sgwrsio’n anffurfiol ag unrhyw rai sydd â diddordeb yng ngwaith y grŵp ac mewn syniadau posibl ynghylch prosiectau.

Y Cynllun Datblygu Lleol

Mae FLAG wedi datblygu strategaeth ar sail anghenion yr ardal a nodau rhaglen Cronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewrop. Mae copi llawn o’r strategaeth ar gael gan y cydlynydd ac ar y wefan. Dim ond prosiectau sy’n cyd-fynd â nodau’r strategaeth ac sy’n ategu’r nodau hynny y bydd FLAG yn eu cefnogi.

Pa rai o flaenoriaethau’r rhaglen y bwriedir eu cyllido?

Mae cyllid ar gael ar gyfer y blaenoriaethau canlynol:

  • Ychwanegu gwerth, creu swyddi, denu pobl ifanc a hybu arloesedd yn ystod pob cam o’r gadwyn gyflenwi sy’n gysylltiedig â nwyddau pysgodfeydd a dyframaethu
  • Hybu arallgyfeirio y tu mewn neu’r tu allan i bysgodfeydd masnachol, hybu dysgu gydol oes a hybu camau i greu swyddi mewn pysgodfeydd ac ardaloedd dyframaethu
  • Gwella asedau amgylcheddol pysgodfeydd ac ardaloedd dyframaethu a manteisio arnynt, gan gynnwys gwaith i leihau’r newid yn yr hinsawd
  • Hybu lles cymdeithasol a threftadaeth ddiwylliannol mewn pysgodfeydd ac ardaloedd dyframaethu, gan gynnwys treftadaeth ddiwylliannol sy’n ymwneud â physgodfeydd, dyframaethu a’r môr
  • Atgyfnerthu’r rôl y mae cymunedau pysgodfeydd yn ei chyflawni ym maes datblygu lleol ac ym maes llywodraethu adnoddau pysgodfeydd lleol a gweithgareddau morol

Mae enghreifftiau o brosiectau posibl wedi’u cynnwys yn y Strategaeth Datblygu Lleol.

Nod cyffredinol FLAG yw cynyddu’r cyfraniad y gall y diwydiant pysgota ei wneud i waith adfywio cymdeithasol ac economaidd cynaliadwy yng nghymunedau pysgodfeydd Bae Ceredigion.

Mae cyllid FLAG ar gael ar gyfer prosiectau cymwys, ac ar hyn o bryd nid oes isafswm nac uchafswm wedi’u pennu ar gyfer ceisiadau. Wedi dweud hynny, bydd FLAG yn ystyried effaith bosibl unrhyw brosiect wrth bennu’r symiau a gymeradwyir.

Galwad Agored am Syniadau Ynghylch Prosiectau

Gwahoddir datganiadau o ddiddordeb mewn rhoi gweithgarwch FLAG ar waith yn ardal FLAG Bae Ceredigion (sy’n ymestyn o Landudoch i Abermo) drwy alwad agored. Nod FLAG yw cefnogi ymatebion arloesol i’r cyfleoedd neu’r heriau y mae ein cymunedau pysgodfeydd yn eu hwynebu.

Gan adeiladu ar lwyddiannau’r rhaglen ddiwethaf, sef Cronfa Pysgodfeydd Ewrop, mae FLAG Bae Ceredigion wedi cael rhagor o gyllid i gyflawni mentrau arloesol tan 2020. Mae’r prosiect hwn wedi cael cyllid drwy Gronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewrop, a chaiff ei ariannu gan yr Undeb Ewropeaidd a Llywodraeth Cymru.

Mae FLAG am glywed gan unrhyw un sydd â syniadau priodol ynghylch prosiectau.

Mae’r cyfle hwn yn agored i bobl, cymunedau, busnesau neu sefydliadau lleol sydd am gefnogi eu cymunedau pysgodfeydd.

  • Y cam cyntaf yw cyflwyno datganiad o ddiddordeb sy’n cynnwys eich syniadau. Yn ystod y cam hwn, bydd FLAG yn asesu’r graddau y mae’r prosiect yn gymwys ac yn cyd-fynd â’r Strategaeth Datblygu Lleol. Yna, bydd y camau nesaf yn cael eu trafod