Cronfa Digwyddiadau Cynnal y Cardi
Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU 2025-2026
Mae’r gronfa hon ar agor ac yn cau am hanner nos ar y 1af o Fai, 2025.
Mae Cronfa Digwyddiadau Cynnal y Cardi, CFfGDU ar gyfer Ceredigion yn rhaglen sy'n cael eu darparu yng Ngheredigion, a ariennir drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU. Mae twristiaeth yn sector economaidd sydd o bwysigrwydd hanfodol i Geredigion, y trydydd cyflogwr mwyaf yn y Sir ac rydym yn awyddus i adeiladu'r sector hwn a denu ymwelwyr newydd i'r ardal.
Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU 2025-2026 yn biler canolog ar agenda uchelgeisiol Llywodraeth y DU ac yn elfen sylweddol o'i chefnogaeth i leoedd ledled y DU.
Bydd Cronfa Digwyddiadau Cynnal y Cardi yn canolbwyntio ar:
- Denu ymwelwyr i'r Sir. Bydd yn rhaid I geisiadau dangos sut y bydd gan y digwyddiad budd I’r Sir gyfan, sirol gyfan, yn ogystal â manteision rhanbarthol a chenedlaethol.
- Datblygu a hyrwyddo digwyddiadau a phrofiadau lleol drwy gydol y flwyddyn sy'n annog pobl i ymweld â'r ardal leol a'i harchwilio. Rhaid i geisiadau dangos sut y bydd y digwyddiad yn gwneud gwahaniaeth i unigolion, cymunedau a'r economi leol.
- Cefnogaeth ar gyfer y celfyddydau lleol, treftadaeth ddiwylliannol a gweithgareddau creadigol.
- Cefnogi twf busnesau cysylltiedig (buddion busnes an-uniongyrchol) a datblygu swyddi sydd o werth uwch.
- Rhaid i ddigwyddiadau gefnogi uchelgeisiau ynghylch newid yn yr hinsawdd neu'r newid i economi werdd trwy gynaliadwyedd a lleihau gwastraff
Faint o grant sydd ar gael?
Bydd dau becyn cyllid ar gael:
- Grant digwyddiadau bach - isafswm £2,000 – uchafswm o £10,000
- Grant digwyddiadau mawr - isafswm £30,000
Bydd pob grant yn seiliedig ar 70% o'r costau cymwys. Rhaid i arian cyfatebol o lleiafswm o 30% fod yn arian parod (yn hytrach na "mewn nwyddau").
Mae’n angenrheidiol bod yr holl weithgarwch wedi’u gwblhau a'r cyllid wedi ei hawlio erbyn 31ain o Ionawr 2026. Bydd y grant yn darparu cymorth ariannol tuag at wariant refeniw a rhywfaint o wariant cyfalaf ar raddfa fach. Bydd y grant yn cael ei ddyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae gwneud cais yn broses gystadleuol a bydd arloesedd, canlyniadau ac effaith a gwerth am arian yn ffactor allweddol pan gaiff prosiectau eu gwerthuso.
Er mwyn sicrhau cymhwysedd y prosiect, darllenwch y nodiadau canllaw yn ofalus cyn dechrau ar y ffurflen gais.
E-bostiwch eich ffurflen gais, Atodiad A a thystiolaeth ategol i ce.cynnalycardi@ceredigion.gov.uk.
CFfGDU Prosiectau Llwyddiannus Cronfa Rhaglen Digwyddiadau Cynnal y Cardi 2023-2024
Canllawiau Cronfa Digwyddiadau Cynnal y Cardi 2025