Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Caiff y cynllun hwn ei gynnwys dan Ddeddf Rheoli Cymorthdaliadau Llywodraeth y DU (2022). Ni ddylai cyfanswm y Cymorth Ariannol Lleiaf (MFA) a geir dros gyfnod treigl o dair blwyddyn ariannol fod yn uwch na £315,000 fesul busnes*.

Os byddwch wedi cael unrhyw gymorth ariannol arall yn ystod y 3 blynedd ariannol ddiwethaf, disgrifiwch hynny yn y cais. Cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw monitro lefel yr MFA a geir; gofynnir i chi ddatgan na chafwyd mwy na’r swm hwn os caiff cynnig ei wneud. [* Mae’r trothwy ariannol MFA yn berthnasol ar lefel grŵp cwmni.]

Rhaid i bob cais ystyried hefyd sut y byddant yn cyflawni yn unol â rheolaeth cymorthdaliadau yn unol â Llywodraeth y DU.

Pan na fydd ymgeiswyr yn dangos mewn ffordd ddigonol bod y prosiect arfaethedig yn cydymffurfio dan Gyfundrefn Rheoli Cymorthdaliadau y DU, efallai y caiff ei ystyried yn anghymwys, a gallai eich cais gael ei wrthod.

Tudalen nesaf: Amodau a Thelerau a Derbyn y Cynnig Grant

Tudalen flaenorol: Caffael