
3. Pwy sy'n gallu ymgeisio?
Mae’r Grant yn agored i fusnesau sy’n Cychwyn, Microfusnesau a Mentrau Bach a Chanolig. Mae’r grant ar gael i fusnesau sydd â chyfeiriad cofrestredig yng Ngheredigion yn unig ac mae’n rhaid defnyddio’r buddsoddiad i gynorthwyo gweithrediad eu busnes yn y sir. Bydd gofyn cael tystiolaeth megis cofrestriad CThEF, datganiadau banc ac ati er mwyn profi dyddiadau masnachu.
Er mwyn bod yn gymwys i ymgeisio, rhaid i ymgeiswyr cael cymorth busnes, ac yn llenwi’r ffurflen gais mewn ymgynghoriad naill â’i gyda un o ddarparwyr cymorth busnes a restrir isod, neu gyda ymgynghorwr cydnabyddedig arall:
- Antur Cymru - business@anturcymru.org.uk
- Mentera - busnes@mentera.cymru
- Busnes Cymru -
- Canolfan Bwyd Cymru - gen@foodcentrewales.org
- Landsker - wayne@landsker.co.uk
- Cwmpas (yn benodol ar gyfer mentrau cymdeithasol) - nick.wilson@cwmpas.coop
- Severn Wye Energy Agency Ltd (yn benodol ar gyfer cymorth gydag atebion effeithlonrwydd ynni) - rebeccaw2@severnwye.org.uk
Rhaid i ymgeiswyr ddangos eu cynlluniau twf (a darparu tystiolaeth pan fo hynny’n berthnasol) o fewn y broses ymgeisio. Caiff twf busnes ei ddiffinio fel busnes sy’n ceisio cynyddu trosiant, creu swyddi neu ddiogelu staff y gallent fod mewn perygl. Rhoddir blaenoriaeth i fusnesau y mae’n ddyddiau cynnar o ran eu datblygiad a busnesau sydd â’r uchelgais a’r nodweddion i ehangu.
Rhaid cyflawni’r holl wariant sy’n gysylltiedig â’r grant a’i glirio (talu) erbyn 31 Ionawr 2026. Ni roddir unrhyw estyniadau. Rhaid creu’r busnes arfaethedig a’r swyddi cysylltiedig cyn pen 12 mis o daliad olaf y grant. Gwneir gwaith i fonitro’r busnes a’r swyddi a gaiff eu creu a bydd gofyn cael tystiolaeth. Gallai methu cyflawni’r allbynnau yr ymrwymwyd iddynt arwain at adfer cyllid y grant.
Tudalen nesaf: Gwariant Cymwys
Tudalen flaenorol: Faint o gyllid sydd ar gael?