Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Rhaid i chi gofrestru eich diddordeb trwy gysylltu ag un o’r darparwyr cymorth busnes er mwyn sicrhau bod eich cynnig busnes yn gymwys. Yna, asesir eich cynnig at ddibenion cymhwystra ac os caiff ei gymeradwyo, fe’ch gwahoddir i gyflwyno cais llawn.

Fel rhan o’r cais ffurfiol am grant, bydd gofyn i ymgeiswyr gyflwyno’r canlynol:

  • Ffurflen Gais a thaenlen excel Atodiad A wedi’u llenwi
  • Strategaeth neu Gynllun Busnes gan gynnwys rhagolygon rhagamcanol 2 flynedd (llif arian a/neu elw a cholled)
  • O leiaf 2 flynedd lawn o gyfrifon hanesyddol a chyfrifon rheoli diweddar, os ydynt ar gael. Os na fydd busnes wedi bod yn masnachu am 2 flynedd, rhaid darparu cyfrifon rheoli a neu grynodeb incwm a gwariant o’r dyddiad cychwyn masnachu tan ddyddiad y cais
  • Dyfynbrisiau ysgrifenedig ffurfiol am yr eitemau yn y cais (gweler canllawiau caffael)
  • Prawf o arian cyfatebol

Sylwer - Cyn symud ymlaen i’r panel, bydd angen i ymgeiswyr ddarparu dogfennau hanfodol megis cyllid cyfatebol, rhaid cadarnhau caniatâd cynllunio (pan fo hynny’n berthnasol) cyn y bydd y darparwyr cymorth busnes yn paratoi’r cais at ystyriaeth y panel. Mae’r ymgeisydd yn llwyr gyfrifol am sicrhau bod pob agwedd ar y cynllun yn cydymffurfio. Gallai methu gwneud hynny arwain at beidio talu grant neu adfer grant a dalwyd.

Croesawir ceisiadau yn Gymraeg neu yn Saesneg. Caiff ceisiadau a gyflwynir yn y naill iaith neu’r llall eu trin yn gyfartal.

Sylwer na ddylai’r gwariant gychwyn cyn rhoi cymeradwyaeth, gan na ellir dyfarnu’r grant mewn ffordd ôl-weithredol.

Tudalen nesaf: Proses Asesu

Tudalen flaenorol: Gwariant Anghymwys