Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Cyfalaf

  • Prynu offer neu beirianwaith hanfodol – gall hyn gynnwys addasiadau, newidiadau neu uwchraddio offer presennol, megis system awyru well neu wedi’i huwchraddio
  • Prynu offer newydd neu ail law a fydd yn datblygu’r busnes ymhellach
  • Gwelliannau i eiddo masnachol er mwyn datblygu’r busnes ymhellach (gan gynnwys ffitiadau a gosodiadau, dodrefn, ac offer swyddfa cyffredinol ac ati fel rhan o swyddfa neu gyfleusterau allanol newydd)
  • Cerbydau ffatri fel wagenni fforch godi a faniau masnachol sy’n defnyddio ynni gwyrdd
  • Newid y goleuadau neu’r system wresogi bresennol i fod yn rhai gwyrdd
  • Caledwedd TG a Thelathrebu os yw’n gysylltiedig â chyflawni’r cynnig yn uniongyrchol

Gwariant Refeniw Arbenigol

  • Costau hyfforddiant technegol/arbenigol sy’n gysylltiedig ag offer cyfalaf newydd
  • Comisiynu/ Gosod Peiriannau
  • Meddalwedd arbenigol sy’n ofynnol er mwyn defnyddio offer cyfalaf newydd
  • Taliadau sy’n gysylltiedig â darparu unrhyw offer cyfalaf
  • Creu gwefannau, e-fasnach/ siopa ar-lein, apiau ac ati. Rhaid cynhyrchu fersiynau dwyieithog o wefannau a datblygiadau efasnach sy’n gysylltiedig â’r grant

Mae eitemau a brynir gan ddefnyddio cardiau credyd yn gymwys, ond bydd angen i ymgeiswyr ddangos bod tystiolaeth o swm y gwariant sy’n gysylltiedig â’r grant ar fil y cerdyn credyd adeg hawlio’r grant.

Mae costau prynu offer ail law yn gymwys i gael grant dan yr amodau canlynol:

  • Bydd gwerthwr yr offer yn rhoi datganiad yn nodi ei darddiad, gan gadarnhau nad yw wedi cael ei brynu gan ddefnyddio cymorth grantiau cenedlaethol neu Ewropeaidd ar unrhyw adeg yn ystod y saith mlynedd flaenorol
  • Ni fydd pris yr offer yn uwch na’i werth yn y farchnad a bydd yn costio llai na chost offer newydd tebyg, a
  • Bydd yr offer yn meddu ar y nodweddion technegol angenrheidiol er mwyn gweithredu a chydymffurfio â normau a safonau perthnasol, e.e., Iechyd a Diogelwch
  • Ystyrir pryniannau gan werthwyr preifat / unigolion, fodd bynnag, bydd gofyn cael anfoneb e.e. Facebook Marketplace, ac ati

Tudalen nesaf: Gwariant Anghymwys

Tudalen flaenorol: Pwy sy'n gallu ymgeisio?